Hafan y Blog

Taith Natur ar gyfer Enillwyr Prosiect Bylbiau Gwanwyn 2015

Penny Dacey, 6 Gorffennaf 2015

Yn wobr am gymryd rhan ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2014-15 enillodd Ysgol Gynradd Santes Ffraid yn Sir Ddinbych daith i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Gweithiodd dosbarth blwyddyn 6 yn galed iawn ar y project eleni gan gymryd mesuriadau dyddiol a’u cofnodi ar wefan Amgueddfa Cymru yn wythnosol. Gofalodd pob disgybl am ei blanhigion a chofnodi eu dyddiau blodeuo a’u taldra ar y wefan.

Gwaith anodd oedd dewis enillwyr eleni oherwydd bod sawl ysgol wedi darparu cofnodion tywydd oedd bron yn gyflawn. Er mwyn dewis yn deg, rhoddwyd enwau’r ysgolion gorau i gyd mewn het cyn tynnu enillydd ar hap ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Derbyniodd yr ysgolion oedd yn dal yn yr het docynnau gwerth £40 i wario ar offer garddio ar gyfer yr ysgol. Dyma’r ysgolion gyda ‘chlod uchel’ yn derbyn pecynnau Adnodd Addysg y Ddôl Drefol a hadau ar gyfer y ddôl. Er mwyn cydnabod eu gwaith gwych yn helpu Amgueddfa Cymru gyda’r ymchwiliad, derbyniodd bob ysgol a gyflwynodd eu data dystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a phensiliau.

Ymwelodd disgyblion Santes Ffraid â Llanberis ar 22 Mai, a chael eu croesawu gan Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, a fi, Cydlynydd Project Bylbiau’r Gwanwyn. Dyma ni’n trafod canlyniadau project 2014-15 ac yn eu cymharu â blynyddoedd blaenorol. Gallwch chi astudio adroddiad 2005-2015 yma.

Yna dyma ni’n cael ein harwain at Dai Chwarelwyr Fron Haul a mwynhau gwrando ar Wyn Lloyd-Hughes yn esbonio sut y byddai bywyd y trigolion wedi newid dros 100 mlynedd. Roedd e’n wych yn dod â hanesion trigolion bro’r chwareli yn fyw i ni a dyma’r plant yn mwynhau chwilio drwy’r tai a thrafod y newid yn y dodrefn rhwng 1861, 1901 a 1969.

Wedi gadael Fron Haul, dyma ni’n rhuthro draw i’r iard i wylio ffilm fer am hanes diwydiant llechi gogledd Cymru –  ‘Dwyn y Mynydd’. Wrth wylio’r ffilm llawn naws yn y tywyllwch aeth y dosbarth i gyd yn dawel, ond dyma nhw’n neidio yn ystod y digwyddiadau dramatig (swnllyd). Wedi hyn dyma’r grŵp yn gwylio Carwyn Price, yn hollti a naddu llechi i siâp calon. Dyma fe’n dangos esiamplau o gelf wedi’i greu yn yr un dull, fel gwyntyll a llwyau caru. Roedd Carwyn yn barod i roi cyfle i rywun roi cynnig ar hollti llechi a dyma’r plant yn enwebu eu hathro, Mr Madog! Roedd e’n dda iawn a’r plant yn gweiddi eu cefnogaeth!

Yna, dyma Peredur Hughes yn mynd â ni i weld olwyn ddŵr yr Amgueddfa gan esbonio sut mae hi’n troi a sut y byddai’r pŵer yn cael ei ddefnyddio i droi peiriannau yng ngweithdai Gilfach Ddu. Gyda diamedr o 15.4 metr, dyma’r olwyn ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain, ac roedd mewn defnydd rhwng 1870 a 1925 pan ddaeth olwyn Pelton i gymryd ei lle. Mae sefyll dan yr olwyn wrth iddi droi, gyda’r dŵr yn tasgu a’r metel yn gwegian, yn brofiad a hanner ac mae’n gwneud i chi werthfawrogi sgiliau dylunio ac adeiladu’r peirianwyr. Fel rhan o broject Bylbiau’r Gwanwyn mae’r ysgolion yn derbyn adnoddau i sbarduno trafodaeth am newid hinsawdd a ffynonellau ynni – roedd gweld olwyn ddŵr anferth wrth ei gwaith yn helpu’r plant i ddeall y gwaith hwnnw’n well.

Ar ôl cinio cyflym dyma fynd i’r chwarel ar gyfer y gweithgareddau natur. Dyma ddechrau drwy drafod beth oedd i’w weld a’i glywed, ei gyffwrdd a’i arogli yn y coetir. Yna dyma ni’n mynd i chwilio am fwystfilod bach a thrafod sut i ddosbarthu gwahanol rywogaethau a hoff gynefinoedd y bwystfilod. Ar ôl creu ‘persawr y goedwig’ a dysgu sawl coes sydd gan wrachen ludw a’u bod nhw’n codi cyfog ar fechgyn a merched dyma symud at y dasg nesaf – creu nyth! Gweithiodd y plant yn galed iawn, fel y galwch chi weld o faint y brigau/coed yr oedden nhw’n symud gyda’u pigau (dwi’n siŵr bod rhywun wedi bod yn twyllo!). Roedd e’n llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i dynnu lluniau.

Daeth Peredur i gyfarfod â ni wrth Chwarel Vivian ac esbonio ychydig o’i hanes i ni, gan ddangos y clogwyni llechi ac esbonio arwyneb y graig a sut fyddai’r chwarelwyr yn gweithio. Dyma fe’n esbonio’r geiriau y byddai’r chwarelwr yn ei ddefnyddio i ddisgrifio gwahanol fathau o lechi, a’r prosesau daeareg a ffurfiodd y graig. Dysgodd y plant sut i adnabod ‘trwyn’ a ‘chefn crwn’ a sut oedd hyn yn helpu’r chwarelwr i ddehongli’r graig, a’i drin i gael y canlyniadau gorau, a lleihau risg drwy ragweld sut byddai’r graig yn chwalu. Roedd hi’n sgwrs ddiddorol mewn lleoliad prydferth, ac yn ddiwedd hyfryd i’r diwrnod.

Dyma fi’n mwynhau cwrdd â disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Santes Ffraid a diolch yn bersonol iddyn nhw am eu cyfraniad i broject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion. Roedd yn ddiwrnod gwych a hoffwn i ddiolch i staff Amgueddfa Lechi Cymru am eu croeso, eu hamser, a’u hymdrech.

Mae amser o hyd i ysgolion yng Nghymru wneud cais i gymryd rhan ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn 2015-16. Bydd cyfle i’r enillwyr fwynhau taith wych yn llawn gweithgareddau byd natur yn un o leoliadau agosaf Amgueddfa Cymru.

Er mwyn ymgeisio, ewch i: http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bylbiau-gwanwyn/


Mae ceisiadau ar gyfer ysgolion yn Lloegr a’r Alban bellach wedi cau, ond gall ysgolion sydd â diddordeb ganfod gwybodaeth am broject 2016-17 ar wefan Ymddiriedolaeth Edina.

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.