Hafan y Blog

Hoff luniau defnyddwyr Celf Arlein: 5 uchaf

Sara Huws, 8 Gorffennaf 2015

Dwi'n ddiolchgar iawn 'mod i wedi sgrifennu'r rhestr yma wythnos diwetha, yn syth ar ôl cwrs ar google analytics efo Jess Spate o Thoughtful SEO. Mi ges i olwg graff ar beth mae'r platfform yn gallu'i gyflawni - o ddefnyddio tameidiau ohono dros y blynyddoedd, ro'n i'n amau bod llawer mwy y gallwn ei fesur a'i ddadansoddi. Mae sawl aelod o'r tîm digidol yn giamstars yn barod, felly beth am ifi ddechrau efo rhywbeth reit syml i ymarfer? Dyma 5 darlun mwyaf poblogaidd Celf Arlein:

San Giorgio Maggiore by Twilight - Monet

Mae cynifer o ddarluniau hynod a hudol 'da ni o Fenis, gan gynnwys y noslun hwn gan Whistler, a fy ffefryn, y Palazzo Camerlenghi gan Sickert. Y darlun mwyaf pobolgaidd ar Celf Arlein, fodd bynnag, yw'r darlun amryliw yma gan Monet. Fe ddowch o hyd i'r fersiwn 'go iawn' yn Oriel 16, yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Rain - Auvers - Van Gogh

Un o ddarluniau olaf Van Gogh, sydd ar daith yn yr UDA ar hyn o bryd. Bydd yn werth ymweld ag e pan fydd yn dychwelyd - mae'r paent yn drwch blêr wrth ddangos cwysau'r tir, a'r glaw fel petae'n hollti'r ganfas. Bron ag y gallwch chi hogle'r petrichor.

Teulu Henry VIII: Alegori o'r Olyniaeth Duduriaidd - Lucas de Heere

Efallai bo'r lluniau anffurfiol o George a Charlotte yn wahanol iawn eu naws, ond, 500 mlynedd ar wahan, ffocysu ar rym a phwysigrwydd llinach benodol y mae'r darlun hwn hefyd. Mae i'w weld yn Oriel 10 yn AGC: dwi i wrth fy modd yn edrych yn fanwl ar y llun yma, nid ar y cymeriadau ond ar y tecstiliau yn y llun. Mae'r artist wedi gwneud cryn ymdrech i beintio'r ffabrigau crand 'ma - a ma nhw ddipyn yn grandiach na'r dillad 'Tuduraidd' o'n i'n arfer ei wisgo yn Sain Ffagan!

La Parisienne - Renoir

Un o hoelion wyth y casgliad, a brynwyd gan y chwiorydd Davies - eu hatyniad at weithiau argraffiadol a'u gwaith elusennol a sefydlodd egin yr amgueddfa fel yr ydym ni'n ei hadnabod hi heddiw. Dwi erioed di dirnad cweit beth sydd y tu ôl i grechwen y 'Ferch o Baris' - efallai mai dyna sy'n ei gwneud hi'n Mona Lisa Caerdydd! Mi wnes i ddwlu ar y llun yma hefyd, a dynnwyd gan Sioned a Nia mewn priodas fis diwetha.

Running Away with the Hairdresser - Kevin Sinnott

Yr unig ddarlun gan rywun o Gymru sy'n ymddangos yn y rhestr - a ffefryn go iawn ymysg ein hymwelwyr i'r oriel. Mae'r gwaith bywiog, amwys hwn am ail-ymddangos ar wal ein horielau ar yr 20ed o Awst. Dw'n cofio cael fy syfrdanu gan hwn pan y gweles i e, a'r eilwaith gan ddarllen y teitl: mae'r artist yn rhoi digon o arweiniad i'r dychymyg, ond yn rhoi digon o le iddo grwydro hefyd. Sgwn i sut y daeth antur y torrwr gwallt i ben?

Felly, dyna'r 5 darlun mwyaf poblogaidd yn Celf Arlein - dwi'n licio defnyddio'r nodwedd 'dewis ar hap' i ddarganfod rhan newydd o'r casgliad, neu waith newydd gan artist câr. Ac wrth gwrs, heb anghofio, os fyddwch chi'n cwmpo mewn cariad ag unrhyw rai o'r gweithau 'ma, ewch draw i'n tudalen Argraffu yn Ôl y Galw i archebu copi ohono ar gyfer eich oriel chi gartre!

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Flavia
24 Mehefin 2019, 12:20
I love this painting and would like to see it again. Is it on display this July and if so where in the museum ?
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
9 Gorffennaf 2015, 11:24

Thanks Mark!

There's so much you can do with Google Analytics - have a look at Behaviour>Site Content>All Pages, then type 'industry/images' into the little search box. This list will give you everything, including the artists' pages, for example - so the individual items will need a bit of tracking down.

I just glanced very quickly and it seems like the most popular individual item is 'Closed by the Tories'.

Mark Etheridge
8 Gorffennaf 2015, 18:27
Hi Sara, Really interesting blog and a few of my favourite works are in there too. Would be great to find out what the Top 5 works are for the 'Images of Industry' site.