Hafan y Blog

O'r Archif: Albwm Arbrofol

Sara Huws, 27 Awst 2015

Casgliad Radical

Creadur archifol ydw i wrth reddf - dwi'n hapus iawn fy myd yn pori trwy hen recordiau, lluniau neu ddogfennau. Mae lloffa trwy 'stwff' yn bleser anghyffredin 'nawr 'mod i'n gweithio yn yr adran ddigidol - yn ddibapur, bron.

Dwi wrth fy modd; boed yn gasgliad feinyl, yn gatalog gerdiau, neu'n bentwr o hen lythyrau a thocynnau o'r ganrif ddiwetha (mae'n scary gallu gweud hynna: "fues i i gig Levellers yn y ganrif diwetha". Ych.).

Anwylaf ymysg yr archifau ma Archif Sgrîn a Sain y Llyfrgell Genedlaethol (sef ble bu Dad yn gweithio tan ei ymddeoliad) ac Archif Sain Ffagan. Yn Sain Ffagan, mae hanes y casglu radical, y synau cefndir, y tafodiaethau a'r lleisiau wedi fy hudo ers bron i ddegawd.

Mae'n gasgliad cytbwys iawn hefyd, sy'n nodi gwerth hanes menywod ac yn rhoi lle i ni ddweud ein hanes yn eu geiriau ein hunain, i rannu'n caneuon a'u coelion. Dyw hanes-ar-bapur ddim yn gyfystyr rywsut, ein gwasgu i'r marjin neu'r troed-nodyn caiff ein lleisiau yn aml iawn. Rhaid nodi nad yw'n gasgliad hollol gynrychioladol, ond mae'r tîm wedi ymdrechu'n ddiweddar i wirio hyn, trwy gasglu hanesion llafar pobl LGBT, er enghraifft.

Darganfod Llais fy Nain

Wnai fyth anghofio dod o hyd i llais fy Nain yn eu plith. Bu Nain farw pan oeddwn i'n ifanc iawn, felly does dim cof gen i ohoni tu hwnt i luniau ohoni a'i barddoniaeth.

Nancy Hughes Ffordd Deg Bach © R I Hughes

Fy Nain ym 1926 © R I Hughes

Roedd yn storïwraig o fri, a braint oedd cael copi ar CD ohoni yn adrodd rhai ohonyn nhw - a chlywed ei llais am y tro cynta fel oedolyn - nid yn unig am fod dawn dweud mor dda ganddi, ond am fod swn Taid i'w glywed yn y cefndir hefyd. Roedd ei lais llawer yn llai bas nag oeddwn i'n ei gofio o 'mhlentyndod, yn datgloi llond drôr o atgofion. 

Mi berswadiodd yr achlysur yma fi 'mhellach bod archifau yn llawn haeddu statws fel casgliadau ystyrlawn, a'u trin nid fel adnoddau cefnogol, ond fel casgliadau cyflawn sy'n haeddu cymaint o sylw mewn amgueddfa â gwrthrychau archaeolegol neu weithiau celf.

Yr Archif Heddiw

Dw i wedi bod yn gweithio efo'r tîm ers sbel - Richard (@archifSFarchive) sy'n rhan o dîm @DyddiadurKate, a 'nawr efo Lowri a Meinwen, sy'n gofalu am y llawysgrifau a'r archif sain. Mae'n nhw ar ben ffordd efo'r blogio, felly gobeithio y gwelwn ni fwy ar ochr honno'r casgliadau ar-lein yn fuan. 

O fewn yr adran ddigidol, rydym ni'n brysur yn gweithio ar ail-wampio ein tudalennau am draddodiadau Cymreig, a deunydd archif. Tra bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, dwi wedi bod yn edrych yn fanylach at botensial y cyfryngau cymdeithasol i rannu clipiau sain gyda chynulleidfa ehangach.

Rhannu Sain ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Roedd y platfformau cymdeithasol sy'n rhedeg 'da ni - twitter, facebook a tumblr, yn rhy effemeral rywsut.

Mae trydar yn rhy fyr-eu-hoedl, yn enwedig gan fod cymaint o gyfrifon cyfochrog yn rhedeg yn Sain Ffagan; a dengys ein data bod ein ffans ar facebook yn ymddiddori mwy yn ein rhaglen weithgareddau na'n casgliadau. Gallai rhywbeth â ffocws fwy penodol, fel hanes llafar neu ganu gwerin, fynd ar goll yn hawdd neu fethu ei darged.

Felly, dyma ofyn i Gareth a Rhodri am eu profiad o rannu cerddoriaeth efo soundcloud, bandcamp ac ati. Penderfynais greu pecyn o recordiadau archifol oedd wedi'u paratoi'n barod yn defnyddio bandcamp, a rhyddhau y clipiau i gyd fel un grwp, yn hytrach na'u dosrannu fesul un ar y blog neu ar twitter. 

Rhinwedd bandcamp yw bod modd atodi mwy o wybodaeth, fel nodiant, geiriau a hanes y recordiad; a bod modd creu ffurff 'albwm'. Ro'n i hefyd yn awyddus i ddefnyddio'r ffwythiant 'tala os ti moyn' i weld a fyddai honno yn ffrwd roddion fechan y gallwn ni ei gwerthuso yn y dyfodol.

Lawrlwytho Albwm Arbrofol

Dyma hi te: O'r Archif: Caneuon Gwerin

Casglwyd y recordiadau yn bennaf gan Roy Saer, a threfnwyd y sain a'r nodiant gan Meinwen Ruddock-Jones yn yr archif. Ymchwilwyd y caneuon ymhellach gan Emma Lile. Mae'r clawr yn eiddo i'n casgliad celf, gwaith a briodolwyd i'r peintiwr teithiol W J Champan.

Mi ddefnyddiais Canva i gaboli'r hen sgans o nodiant, ac i ychwanegu rhyw damaid am hanes yr archif. Os oes camgymeriad yn y llyfryn, felly, arna i mai'r bai am hynny! Mwynhewch, rhannwch, canwch, rhowch ac arbrofwch - ac os oes adborth neu gwestiwn 'da chi, dodwch nhw yn y sylwadau! 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.