Hafan y Blog

Darganfod Cymru: Hanes ar Stepen y Drws

Mark Etheridge, 19 Tachwedd 2015

Mae Archwilio eich Archif yn ymgyrch ar y cyd rhwng Yr Archifau Cenedlaethol a’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion ar draws y DU ac Iwerddon. Y bwriad yw dangos potensial unigryw archifau i gyffroi pobl, dod â chymunedau ynghyd ac adrodd straeon anhygoel.

Y llynedd cynhaliodd staff Amgueddfa Cymru ddigwyddiad Archwilio eich Archif am y tro cyntaf. Cafodd ei gynnal yn Sefydliad Oakdale, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gyda detholiad o ddogfennau a ffotograffau yn ymwneud â Chymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â lansiad ein catalog Rhyfel Byd Cyntaf ar-lein. Gallwch chwilio’r catalog yma.

Roedd yn ddigwyddiad poblogaidd, gydag oedolion a grwpiau ysgolion yn mwynhau gweld y deunydd archif hanesyddol a chael trafod eu hanes gyda’r staff sy’n edrych ar ôl y casgliadau. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad, rydym yn trefnu un arall eleni. Bydd ‘Darganfod Cymru: Hanes ar Stepen y Drws’ yn cael ei gynnal ar 20-21 Tachwedd ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays. Y thema eleni fydd teithio a thwristiaeth a bydd detholiad o ddeunydd archif o’n casgliadau i’w gweld, yn cynnwys ffotograffau, ffilmiau, cardiau post, llythyrau a llyfrau nodiadau, gyda chyfle i chi eu trafod gyda’r tîm sy’n curadu, rheoli a gwarchod y casgliadau archif. Eleni hefyd bydd cyfres o ddigwyddiadau i blant, gyda chyfle iddynt greu eu cardiau post eu hunain i’w harddangos yn y brif neuadd, neu afael yn y chwyddwydr a’n helpu ni i adnabod enwau a lleoliadau anhysbys o’r casgliadau ffotograffig! Bydd hefyd lwybr Archwilio eich Archif i’w ddilyn o gwmpas yr Amgueddfa.

Gobeithio y gallwch ymuno. Mae mwy o fanylion yma.

 

Mark Etheridge

Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.