Hafan y Blog

Cadw cofnodion blodau

Penny Dacey, 15 Chwefror 2016

Helo Gyfeillion y Gwanwyn,

Mae nifer o ysgolion wedi cofnodi bod eu Cennin Pedr a Chrocws wedi cychwyn tyfu. Mae rhai ysgolion wedi nodi bod eu planhigion yn edrych yn agos at flodeuo. Fallu, mae'n amser da i drafod rhan nesaf y prosiect - cofnodion blodeuo! Mae adnodd ar y wefan Bylbiau Gwanwyn i Ysgolion o dan y teitl 'cadw cofnodion blodau'. Mae'r ddogfen hon yn dweud wrthych sut i gadw cofnodion blodau, pa offer sydd angen ei ddefnyddio a’r dulliau ar gyfer casglu gwybodaeth.

Oedd y pecyn adnoddau a anfonwyd i'ch ysgol yn fis Hydref yn cynnwys siart blodeuo Crocws a siart blodeuo Cennin Pedr.  Gallwch ddefnyddio'r rhain i gofnodi'r dyddiad mae eich blodau yn agor ac uchder eich planhigion ar y dyddiad hwn. Wedyn, gallwch rannu dyddiad blodeuo ac uchder eich planhigyn ar y dyddiad hwn i wefan Amgueddfa Cymru. Unwaith mae'r diwrnod blodeuo cyntaf wedi ei gofnodi ar gyfer eich ysgol, bydd blodyn yn ymddangos wrth ymyl eich ysgol ar y map ar wefan Amgueddfa Cymru.

Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch pryd i gofnodi dyddiad blodeuo ar-lein. Gallwch fonitro taldra eich planhigion bob wythnos a gadael i mi wybod yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd. Ond dim ond wedi i’r planhigyn flodeuo y dylech gofnodi ‘dyddiad blodeuo’ a thaldra’r planhigyn ar ddiwrnod blodeuo.

Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch pryd i gofnodi dyddiad blodeuo ar-lein. Gallwch fonitro taldra eich planhigion bob wythnos a gadael i mi wybod yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd. Ond dim ond wedi i’r planhigyn flodeuo y dylech gofnodi ‘dyddiad blodeuo’ a thaldra’r planhigyn ar ddiwrnod blodeuo.

Edrychwch ar y llun o Gennin Pedr yn Sain Ffagan. Cafodd y llun ei dynnu ar ddiwrnod oer, felly nid oedd y blodau wedi agor yn llawn. Ond, gallwch weld pa rai sydd wedi blodeuo trwy edrych yn ofalus. Os yw’r holl betalau i’w gweld yn glir yna mae’r planhigyn wedi blodeuo. Cyn blodeuo mae’r petalau yn cael eu gwarchod gan gasyn tynn fel hwn:

Pan fydd y blodyn wedi aeddfedu, a’r tywydd yn ddigon cynnes, bydd y casyn yn dechrau agor. Gall hyn gymryd ychydig oriau neu rai dyddiau! Efallai y gallwch weld hyn yn digwydd, os wnewch chi wylio’r planhigion yn ofalus iawn! Pan fyddwch yn gallu gweld yr holl betalau a’r casyn wedi disgyn gallwch fesur taldra’r blodau a chofnodi hyn ar y wefan. Wedi i chi wneud hynny bydd blodyn yn ymddangos ar fap yn dangos lle mae eich ysgol.

Gallwch fesur uchder eich planhigion i weld pa mor sydyn mae nhw’n tyfu. Os yw’r planhigion yn dal yn fach gallwch eu mesur o dop y pridd. Ond, pan fyddwch yn mesur er mwyn cofnodi ar y wefan, dylech fesur o dop y pot blodau i bwynt uchaf y blodyn.

Ydych chi wedi cymharu uchder y blodau yn eich dosbarth? Oes yna wahaniaeth mawr yn uchder y planhigion a pha mor aeddfed ydyn nhw, neu ydyn nhw i gyd yn debyg? Beth am y planhigion sydd wedi’u plannu yn y ddaear? Yw’r rhain yn fwy na’r rhai mewn potiau? Pam hynny tybed? Gallwch ddweud beth ydych chi’n feddwl yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd yr wythnos hon!

Gyrrwch eich straeon a lluniau i’r blog blodau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter!

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn!

Athro’r Ardd

 

Diolch am rannu newyddion am eich planhigion Cyfeillion y Gwanwyn:


Ysgol Pentrefoelas: Dim llawer o law ond yn gynnes. Aethom am dro i weld y lili wen fach yn nghoed y Foelas ac roedd miloedd yno fel carped gwyn. Dim swn am bennau ar ein bylbiau ond maent yn dechrau tyfu. 4 pot heb ddim byd yn y golwg!

The Blessed Sacrament Catholic Primary School: Not so much rain this week but some frost at night. Almost all the crocuses have shoots now.

Arkholme CE Primary School: Warmer week than usual. Rainfall was less than last week. Bulbs are growing well. Some of last year’s bulbs are flowered.

Bacup Thorn Primary School: We have noticed a real growth in our bulbs and shoots. We have also observed a faster growth in our experimental plants indoors. Our crocus bulbs are around 9cm high and dafs are around 12cm indoors and 10cms outdoors.

Maesycoed Primary: A few crocuses are popping through the surface, yay!

East Fulton Primary School: Some of our bulbs are starting to sprout.

The Blessed Sacrament Catholic Primary School: Variable weather, mostly windy with a little rain. The daffodils are growing well and 22 of the 30 crocuses are showing shoots. They still don't need watering.

Silverdale St. John's CE School: One of the daffodils has nearly opened - it might happen over the weekend!

Darran Park Primary: This week, the growth of the Spring Bulbs was 5cm. Last week it was 2.5cm, therefore it has gone up 2.5cm

Grange Primary School: We have lots of shoots appearing! Children very excited to see their first flower.

Braidwood Primary School: Still no signs at all of any growth in the bulbs planted in the ground. The bulbs in pots show some growth in the form of shoots.

The Blessed Sacrament Catholic Primary School: This week has been quite windy with rain at times; the end of storm Jonah! The bulbs still don't need watering! It is quite warm outside for this time of year. We have noticed that 2 crocuses have now got shoots and the daffodils are growing quickly. It is very exciting.

Darran Park Primary: Last week, the growth of the spring bulbs, was 1cm but it has increased by 2 cm this week, and is now, 3 cm.

Stanford in the Vale Primary School: Very windy week observed and we have 3 daffodil flowers in the ground out in flower!

Castlepark Learning Centre: The crocus are starting to appear.

Castlepark Learning Centre: The first daffodils are showing.

Arkholme CE Primary School: It was not very wet this week, mild temperatures as well. Some snow on Saturday and Sunday. Our bulbs are growing well because it is very mild weather.

Ysgol Esgob Morgan: We have had a very windy week, but the daffodils are starting to grow now. From W.

Darran Park Primary: The majority of the pots the spring bulbs have sprouted around 1-2 cm.

Drumpark Primary ASN School: We can see the leaves sticking out but not all of them yet.

Stanford in the Vale Primary School: Starting to feel like spring....

 

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.