Hafan y Blog

Siop y Teiliwr a'i Stoc o Ddillad 'Utility'

Marsli Owen, 15 Mehefin 2016

Nol ym Mehefin 1941, cyflwynwyd dogni ar ddillad ac esgidiau yn ogystal â defnydd dodrefnu. Daeth dylunwyr at ei gilydd a chreu dillad oedd yn dilyn rheolau tynn y Bwrdd Masnach, er mwyn creu dillad a oedd yn gwneud y mwyaf o’r defnydd gan ddefnyddio’r lleiaf o lafur ac amser a phosib.

Roedd yn ddillad yma’n cael eu masgynhyrchu a’u hanfon i siopau teiliwr dros y wlad, er mwyn i bobl eu prynu gyda chwponau. Un o’r siopau hyn oedd siop David Thomas yn Cross Inn ger Cei Newydd. Mae’r siop nawr yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Un o’r pethau anhygoel am y siop yma yw bod David Thomas wedi ymddeol yn 1967, cau'r siop ac wedi gadael beth na werthwyd ar ei ôl. Gofalodd ei ferched am y defnyddiau mwyaf bregus a chadw’r gweddill ar y silffoedd, felly erbyn 1988, pan roddwyd y siop i’r Amgueddfa, roedd ei gynnwys yno fel capsiwl amser. Daeth dogni dillad a’r cynllun ‘utility’ ddim i ben nes 1951, ac roedd yn dal ganddo dipyn o stoc ohonynt ar ôl pan gaewyd y siop.

Ond nid dillad ‘utility’ yn unig oedd ar werth yma wrth gwrs. Roedd hetiau, esgidiau, cotiau a ffrogiau wedi eu gwneud yn barod ar werth yn ffrynt y siop, a gweithdy yn y cefn ar gyfer y grefft ei hun o deilwra siwt i ffitio i’r dim.

Agorodd David Thomas ei siop yn yr 1920au, gan addasu storfa fwyd anifeiliaid yn Cross Inn. Roedd yn arferol i deilwriaid hyfforddi am 7 mlynedd neu fwy, yn brentis gyntaf ac yna’n jermon cyn dod yn deilwriaid yn eu llawn twf wedi meistroli’r grefft. Ond roedd posib hefyd fynd i’r coleg, ac aeth David Thomas i Lundain ar ôl bod yn brentis yn Bow Street, i’r Tailor and Cutter’s Academy, ac ennill diploma ar ôl dysgu’r grefft o fesur, torri a phwytho. Mae’r offer ddefnyddiodd o ar gyfer y grefft o deilwra dal i’w gweld yn y gweithdy yng nghefn y siop heddiw, gyda rhai ychwanegiadau gan Dan Davies, teiliwr arall o Rydlewis.

Pentref bach ydi Cross Inn, ond cyn amser masgynhyrchu dillad wedi eu gwneud yn barod, roedd siop teiliwr yn rhan hanfodol o’r pentref, fel y gof neu’r crydd. Roedd yn hwb y gymuned, a gweithiai David Thomas â’i goesau wedi croesi ar y fainc yn y gweithdy yng ngolau’r ffenest fawr, yn sgwrsio gyda’r cwsmeriaid yn ffrynt y siop. Roedd o hefyd yn hoff o’i radios, yn eu trwsio yn ei amser sbâr, ac roedd y radio yn darparu testun y sgwrs am y dydd. Byddai’n mynd allan i ffermydd lleol, ar ôl i’w gwsmeriaid gael eu ffitio yn y siop, ac un o’r cwsmeriaid yma oedd Miss Jones o’r Felin Bompren, hefyd yn yr Amgueddfa.

Mae tapiau o gyfweliadau yn ein harchif, fel y clipiau yma gan Nesta Edwards, merch David Thomas, yn ein helpu yn Adran Addysg yr Amgueddfa i greu gweithdai ar gyfer ysgolion a digwyddiadau yn ystod y gwyliau. Gwrandewch ar y clipiau, a thro nesa dewch chi i’r Amgueddfa dewch i mewn i siop y Teiliwr ac edrychwch am y gweithdy yn y cefn a’r radio, a dychmygwch y teiliwr ar y fainc yn sgwrsio gan wybod fod y siop bron yn union fel yr oedd y diwrnod y cerddodd allan am y tro olaf.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.