Hafan y Blog

Sbaddu Malwod a Straeon Eraill

Meinwen Ruddock-Jones, 15 Gorffennaf 2016

Mae’n ganol Gorffennaf.  Mae’r ardd yn ei blodau, y llysiau yn wyrdd ac yn iachus a brwydr flynyddol y garddwr (neu’r archifydd yn yr achos hwn) a’r falwoden ar ei hanterth. 

Mae’n debyg bod gan y falwoden gyffredin tua 14,000 o ddannedd (neu rychau ar ei thafod i fod yn fanwl gywir) ac wedi iddi dywyllu, o dan olau lleuad, gall y gelyn gwancus hwn a’i ffrindiau achosi armagedon yn y borderi gan ddinistrio misoedd o dyfiant mewn un noson o wledda.

Rhaid cymryd camau dybryd i arbed hyn rhag digwydd!

Felly, i ymddiheurio i’r malwod hynny sydd efallai wedi cwrdd â’u crêwr ychydig yn gynharach na’r disgwyl trwy amryfal ffyrdd yn yr ardd eleni - dyma bedwar pwt diddorol o Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru am y lladron llwglyd llithrig.

 

Sbaddu Malwod yn Abergorlech

Yn ôl Garfield Evans a anwyd yn Abergorlech yn 1909 ac a recordiwyd gan yr Amgueddfa yn 1977, roedd hi’n arfer yn yr ardal ar ddechrau’r ganrif i chwarae tric ar unrhyw blentyn dieithr a fyddai’n dod i’r ysgol.  Byddent yn gofyn iddo  “Wyt ti wedi gweld sbaddu malwed?”.  “Na” fyddai’r ateb bob tro.  Wedi dal sylw y plentyn newydd byddai un o’r bechgyn yn codi dau ddarn o bren ac yn mynd i chwilio am falwoden.  Wedi dod o hyd i’r falwoden, byddai’r bachgen yn ei chodi a’i gosod i orwedd wyneb i waered ar y ddau ddarn o bren.  Wrth i’r plentyn newydd syllu ar y falwoden, ac agosáu yn gegrwth ati, byddai’r daliwr yn taflu’r anifail druan yn sydyn i’w geg.

 

Llafarganu i’r Falwoden

Yn ôl Sian Williams a anwyd yn Nhyn-y-gongl, Môn, yn 1896, ac a recordiwyd gan yr Amgueddfa yn 1973, nid oedd ganddi hi a’i ffrindiau lawer o deganau pan yn blant.  “Efo malwod oeddan ni’n chwarae’n blant, toedd gynno ni ddim byd arall.”  Byddent yn dal malwoden yr un, gosod y malwod ar garreg y drws a llafarganu iddynt:  ”Horn, horn, estyn dy bedwar corn allan, neu mi tafla’i di i Bwllheli, at y neidr goch i foddi” . Y plentyn â’r falwoden a fyddai’n tynnu ei phedwar corn allan yn gyntaf oedd yr enillydd. 

 

Meddyginiaeth ar gyfer Llyfrithen

Yn ôl Blodwen Gettings a anwyd yn 1911 yn Llangwm ac a recordiwyd yn Saesneg gan yr Archif yn 1983, roedd gan y gymuned hon ger Hwlffordd feddyginiaeth wahanol iawn i’r cyffredin ar gyfer cael gwared o lyfrithen ar y llygad.  I ddechrau, gellid rhwbio’r llyfrithen â modrwy briodas neu â chynffon cath, ond os na fyddai hynny’n gweithio, roedd un awgrym arall.  Rhaid oedd dod o hyd i ddraenen o lwyn y ddraenen wen ac un falwoden dew o’r ardd.  Wedyn aed ati i bigo’r falwoden â’r ddraenen ac arllwys yr hylif a ddeuai allan ohoni i mewn i’r llygad.

 

Pennill i’r Falwoden

I gloi, dyma bennill i’r falwoden gan Robin Lewis y Craswr o Felin Glasfryn.  Clywodd William John Edwards, a anwyd yn 1898 ac a fagwyd ym Mhentrellyncymer, y rhigwm hwn gan ei fam pam oedd tua 15 oed ac fe’i recordiwyd yn ei adrodd gan yr Amgueddfa yn 1973.

Malwen Ddu ar ochr wal,

Slip a meddal a annodd ei dal.

Well gen i un ddu nac un wen,

A dau gorn o boptu’i phen.

Meinwen Ruddock-Jones

Archifydd
Gweld Proffil

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Hazel Thomas-Jones
20 Gorffennaf 2016, 18:39
Blog gwych (a doniol) arall. Hyfryd gallu gwrando ar ddarnau o’r archif. Edrych ymlaen at y blog nesaf. Diolch yn fawr iawn.