Hafan y Blog

Ennillwyr cystadleuaeth Trysorau!

Sara Huws, 27 Hydref 2016

Mae'r amser wedi dod i ddatgan pwy sydd wedi ennill ein cystadleuaeth 'sgrifennu creadigol...

Y gamp oedd i 'sgrifennu stori fer wedi ei hysbrydoli gan ein harddangosfa Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol. Mi ysbrydolwyd ein hawduron gan fymi Eifftaidd hynafol, yn ogystal â'r gwpan brydferth, Crial Dolgellau. Cewch weld rhain, a mwy, tan 30 Hydref - felly brysiwch! Bachwch eich tocynnau fan hyn.

Llongyfarchiadau mawr i'r ennillwyr - cliciwch ar deitl y stori i'w lawrlwytho a dechre darllen!

Gwobr gyntaf:

The Falcon's Curse

, Eleanor Thorne

Ail wobr:

The Chalice of Dolgellau

, Theo Singh

Trydydd wobr:

A Mummy at Night, Amy Wintle

Diolch i bawb a anfonodd stori atom ni, neu sydd wedi galw heibio i gymryd rhan yn ein gweithgareddau celf a chrefft. 'Dyn ni wedi mwynhau eich straeon a'ch darluniau yn arw.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.