Hafan y Blog

Cofnodion Tywydd yn Cychwyn 1 Tachwedd!

Penny Dacey, 31 Hydref 2016

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu gwyliau hanner tymor!

Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar y diwrnod plannu. Cafodd 13,829 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad! Welais o’r llunia bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!

Mae Cofnodion Tywydd yn cychwyn o 1 Tachwedd. Plîs wnewch yn siŵr bod eich mesurydd glaw ai’ch thermomedr wedi ei chadw mewn lle addas wrth ymyl eich bylbiau, fel medrwch gymryd eich mesurau cyntaf pnawn fory!

Mae’n syniad da i ymarfer cymryd cofnodion tywydd. Fedrwch chi wneud hyn wrth ychwanegu dŵr at y mesurydd glaw a chymryd mewn tro i gofnodi’r mesur. Wedyn, fedrwch gymharu i weld os mae pawb wedi cymryd yr un mesur.

Mae 'na adnoddau dysgu ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!

Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch mewn i’r wefan i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf!

Dylai ysgolion sef yn cymryd rhan yn brosiectau ychwanegol yr Edina Trust rhannu ei chanlyniadau wythnosol ar wefan Moodle yr Edina Trust hefyd.

Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud. A rhannwch luniau trwy Twitter ac e-bost.

Cadwch ymlaen a'r gwaith called Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion

sylw (4)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
13 Rhagfyr 2017, 16:04
Hi there Steeltown PS - thanks for letting us know. We'll look into this and get it sorted as soon as possible.

Sara
Digital Team
Steelstown PS
8 Rhagfyr 2017, 14:54
we are having problems uploading our data the link is not working for us. any ideas?
Athro'r Ardd Staff Amgueddfa Cymru
16 Ionawr 2017, 15:14

Helo, diolch am eich cwestiwn. Da ni'n gofyn am y darlleniad arferol ar ddydd llun, bydd hyn yn cynnwys y glawiad ac anweddiad o'r penwythnos. Ond mae'n swnio'n fel hwyl i weithio allan y cyfartaledd hefyd!

ysgol Tanygrisiau
29 Tachwedd 2016, 14:14
Beth ddylai ni wneud ar ddydd Llun efo'r mesuriad glaw?
Cyfartaledd dros Gwener, Sadwrn a Sul neu cyfanswm ers ddydd Gwener ?