Hafan y Blog

Cadw cofnodion blodau 2017

Penny Dacey, 6 Chwefror 2017

Helo Gyfeillion y Gwanwyn,

Mae nifer o ysgolion wedi cofnodi bod eu Cennin Pedr a Chrocws wedi cychwyn tyfu. Mae rhai ysgolion wedi nodi bod eu planhigion yn edrych yn agos at flodeuo. Fallu, mae'n amser da i drafod rhan nesaf y prosiect - cofnodion blodeuo! Mae adnodd ar y wefan Bylbiau Gwanwyn i Ysgolion o dan y teitl 'cadw cofnodion blodau'. Mae'r ddogfen hon yn dweud wrthych sut i gadw cofnodion blodau, pa offer sydd angen ei ddefnyddio a’r dulliau ar gyfer casglu gwybodaeth.

Oedd y pecyn adnoddau a anfonwyd i'ch ysgol yn fis Hydref yn cynnwys siart blodeuo Crocws a siart blodeuo Cennin Pedr.  Gallwch ddefnyddio'r rhain i gofnodi'r dyddiad mae eich blodau yn agor ac uchder eich planhigion ar y dyddiad hwn. Wedyn, gallwch rannu dyddiad blodeuo ac uchder eich planhigyn ar y dyddiad hwn i wefan Amgueddfa Cymru. Unwaith mae'r diwrnod blodeuo cyntaf wedi ei gofnodi ar gyfer eich ysgol, bydd blodyn yn ymddangos wrth ymyl eich ysgol ar y map ar wefan Amgueddfa Cymru.

Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch pryd i gofnodi dyddiad blodeuo ar-lein. Gallwch fonitro taldra eich planhigion bob wythnos a gadael i mi wybod yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd. Ond dim ond wedi i’r planhigyn flodeuo y dylech gofnodi ‘dyddiad blodeuo’ a thaldra’r planhigyn ar ddiwrnod blodeuo.

Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch pryd i gofnodi dyddiad blodeuo ar-lein. Gallwch fonitro taldra eich planhigion bob wythnos a gadael i mi wybod yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd. Ond dim ond wedi i’r planhigyn flodeuo y dylech gofnodi ‘dyddiad blodeuo’ a thaldra’r planhigyn ar ddiwrnod blodeuo.

Edrychwch ar y llun o Gennin Pedr yn Sain Ffagan. Cafodd y llun ei dynnu ar ddiwrnod oer, felly nid oedd y blodau wedi agor yn llawn. Ond, gallwch weld pa rai sydd wedi blodeuo trwy edrych yn ofalus. Os yw’r holl betalau i’w gweld yn glir yna mae’r planhigyn wedi blodeuo. Cyn blodeuo mae’r petalau yn cael eu gwarchod gan gasyn tynn.

Pan fydd y blodyn wedi aeddfedu, a’r tywydd yn ddigon cynnes, bydd y casyn yn dechrau agor. Gall hyn gymryd ychydig oriau neu rai dyddiau! Efallai y gallwch weld hyn yn digwydd, os wnewch chi wylio’r planhigion yn ofalus iawn! Pan fyddwch yn gallu gweld yr holl betalau a’r casyn wedi disgyn gallwch fesur taldra’r blodau a chofnodi hyn ar y wefan. Wedi i chi wneud hynny bydd blodyn yn ymddangos ar fap yn dangos lle mae eich ysgol.

Gallwch fesur uchder eich planhigion i weld pa mor sydyn mae nhw’n tyfu. Os yw’r planhigion yn dal yn fach gallwch eu mesur o dop y pridd. Ond, pan fyddwch yn mesur er mwyn cofnodi ar y wefan, dylech fesur o dop y pot blodau i bwynt uchaf y blodyn.

Ydych chi wedi cymharu uchder y blodau yn eich dosbarth? Oes yna wahaniaeth mawr yn uchder y planhigion a pha mor aeddfed ydyn nhw, neu ydyn nhw i gyd yn debyg? Beth am y planhigion sydd wedi’u plannu yn y ddaear? Yw’r rhain yn fwy na’r rhai mewn potiau? Pam hynny tybed? Gallwch ddweud beth ydych chi’n feddwl yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd yr wythnos hon!

Gyrrwch eich straeon a lluniau i’r blog blodau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter!

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn!

Athro’r Ardd

 

Diolch am rannu newyddion am eich planhigion Cyfeillion y Gwanwyn:

 

Ysgol Deganwy: Most of the plants have started to grow.

Henllys CIW Primary: About all the bulbs have sprouted.

Ysgol Pentrefoelas: Dim glaw. Braf efo awyr goch bob nos a bob bore! Deilen 3 Cenin wedi dod i'r golwg yn y potiau. Wedi bod yn gynnes a phawb yn chwarae "British Buldogs" bob dydd heb gotiau!

Carnbroe Primary School: The week started off really cold and frosty but as the week went on the temperature rose and we had some rain. More shoots are beginning to bud. We are hoping that our bulbs will flower soon.

Arkholme CE Primary School: It has been wet and mild this week, and most of the bulbs have sprouted already. The crocus bulbs and daffodils have sprouted as well as the ones in the pots, and the ones in the ground have grown the quickest as well. Best wishes E and A.

Trellech Primary School: We have noticed that our bulbs have started to appear above the soil. We think it is because it has been a lot milder this week.

Trellech Primary School: We really enjoyed collecting the data.

Our Lady of Peace Primary School: I can't believe it is nearly over. We are enjoying it.

Auchenlodment Primary School: We have started to measure the shoots and are excited to see how they grow. 2 of the mystery bulbs have just started to sprout. No sign of the daffodils we planted in the ground.

Boston West Academy: This week we only have two more to start sprouting; it’s also been very cold and hot but also very wet. One of our mystery bulbs are nearly starting to flower☺!!!

St Robert's R.C Primary School: It's been a dry week this week. There a few signs of growing!

Ysgol Deganwy: Nearly all of the plants are growing.

Carnbroe Primary School: We didn't have lots of rain this week and it was very cold. Our bulbs are beginning to sprout.

Tonyrefail Primary School: On Tuesday we noticed 4 of our Daffodil plants have stated to push up through the soil. Yeay!

Garstang St. Thomas' CE Primary School: We've had some frosty mornings but our daffodils are still starting to appear through the soil. The ones in the garden are growing faster!

Henllys CIW Primary: It was pretty cold but no rain. Quite a few plants are growing!

St. Nicholas Primary School: The bulbs have sprouted.

Arkholme CE Primary School: This week has been dry and cold. We have been checking our bulbs all week but because of the cold they haven't grown much. Have a good week.

Ysgol Deganwy: The plants have started to grow and it's been super cold!

St Ronan's Primary School: Most of the daffodil in pots, are at least 2 to 3 cm.

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.