Hafan y Blog

Cyfle i ennill penwythnos i ddau yn Nhŷ Newydd!

Catrin Taylor, 21 Chwefror 2017

Cyfle i ennill penwythnos i ddau yn Nhŷ Newydd!
 
Rydyn ni wedi bod yn helpu Llenyddiaeth Cymru i greu hwb twristiaeth newydd yng Nghymru. Fel rhan o deithiau llenyddol newydd, bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i ddod i weld gwrthrychau perthnasol yn ein casgliadau. Mae’n portreadau o Dylan Thomas wastad yn boblogaidd!

Fel rhan o’r prosiect, mae Llenyddiaeth Cymru eisiau dysgu am y mathau o wyliau byr a theithiau rydych yn mynd arnynt - a beth sy'n bwysig i chi pan fyddwch yn cael gwyliau yn y DU. I gael cyfle i ennill penwythnos hunanddarpar arbennig i ddau berson am ddwy noson yn Nhŷ Newydd, cwblhewch holiadur byr.

Pob lwc!

Catrin Taylor

Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.