Hafan y Blog

Adnoddau addysg newydd ar Gasgliad y Werin Cymru

Penny Dacey, 28 Chwefror 2017

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwy’n gobeithio y cafodd bawb hanner tymor gwych. Mae’r cofnodion blodau cyntaf i mewn, sy'n golygu fod haf yn wir ar ei ffordd!  Plîs rhannwch luniau o’ch blodau, eich gorsafoedd tywydd ac unrhyw arwyddion fod yr haf yn dod!

Rwyf isio rhoi gwybod am adnoddau addysg newydd ar gael trwy Gasgliad y Werin Cymru. Mae Casgliad y Werin Cymru yn fenter a gwefan wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rhedeg trwy bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae'r wefan yn le i gasglu a rhannu elfennau o hanes Cymru a'i bobl. Mae'r safle yn adnodd i bawb, a gall unrhyw un gyfrannu. Effaith hyn yw bod straeon newydd yn cael eu hadrodd a’u cofnodi am y tro cyntaf, a’u bod nhw ar gael i bawb sydd hefo diddordeb. 

Mae’r tudalennau addysg newydd yn cynnwys adnoddau sy’n cefnogi'r cwricwlwm Cymraeg. Mae’n darparu cymorth i athrawon ar sut i ddefnyddio’r wefan i fodloni'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Mae’n cynnwys tudalennau ar metadata, hawlfraint a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Gallwch ddefnyddio’r wefan mewn ffurfiau gwahanol, ac mae hyd yn oed camau bach ar y safle yn profi sgiliau digidol. Mae’r casgliad yn anferth, hefo eitemau mewn ffurfiau gwahanol, fel lluniau, ffilm a sŵn. Mae hyn yn golygu bod y cynnwys yn ddiddorol, ac yn hawdd ei ddefnyddio.

Mae cyfranwyr i’r safle yn amrywio o amgueddfeydd ac archifau yn rhannu eu casgliadau digidol, i unigolion yn rhannu hanes teulu ac ysgolion yn rhannu gwaith dosbarth.

Mae’r wefan yn adnodd ardderchog i ysgolion, sy’n cefnogi nifer o brosiectau yn y dosbarth.

Dyma rhai syniadau ar sut i ddefnyddio’r wefan i ddatblygu sgiliau digidol:

  • Defnyddiwch y safle i wneud gwaith ymchwil.
  • Creu proffil i ddangos eich gwaith dosbarth, trwy greu rhestrau, rhannu eitemau a chreu casgliadau, straeon a llwybrau.
  • Rhannwch adnoddau eich hun
  • Ymchwiliwch y tudalennau addysg i ddarganfod adnoddau addysg ddiddorol a gwahanol i datblygu sgiliau digidol.
  • Edrychwch ar enghreifftiau o waith ysgolion eraill i’ch ysbrydoli.

Darllenwch y canllaw ar sut i ddarparu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a sut mae’r camau uchod yn profi elfennau o’r fframwaith.

Mae 'na lwyth o ffurfiau gwahanol i ddefnyddio cyfryngau digidol yn y dosbarth. Gadewch i’r plant gymryd drosodd a rhowch adnoddau Casgliad y Werin Cymru trwy eu camau. Mae’n gyfle i fod yn greadigol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld eich syniadau!

Mae cymorth a hyfforddiant ar gael, plîs cysylltwch â’r tîm os ydych angen unrhyw cymorth ychwanegol, neu os oes gennych syniad ar gyfer prosiect cydweithredol.

Mae Ysgol Llanharan, sef wedi gweithio ar brosiect Bylbiau Gwanwyn i Ysgolion ers 2014, wedi creu adnodd gwych amdan hanes lleol Llanharan: https://www.casgliadywerin.cymru/collections/384915

Daliwch ati gyda'r gwaith da Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.