Hafan y Blog

Wyt ti’n Dditectif Deinosoriaid?

Liam Doyle, 25 Mai 2017

Mae pob math o ryfeddodau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond mae’n debyg mai’r deinosoriaid yw hoff atyniad ein hymwelwyr. Mae oriel Esblygiad Cymru yn aml dan ei sang, ac mae galw mawr am ein sesiynau i ysgolion ar thema deinosoriaid.

Dyna pam bod Amgueddfa Cymru yn cyhoeddi’r eBook newydd, Ditectifs y Deinosoriaid. Mae’r adnodd rhyngweithiol, sydd wedi’i anelu at ymwelwyr 7–11 oed, yn troi ymwelwyr yn balaeontolegwyr a’u galluogi i archwilio ffosilau go iawn o’n casgliadau. Mae’r eBook yn cynnwys ffotograffau o sbesimenau yn ogystal â darluniau Frank Duffy o’n stori i blant, Arwyn yr Anturiwr.

Chwilia am ffosil deinosor, dysga am fwyd y deinosoriaid a rhyfeddu at ba mor fawr oedd traed T. rex drwy gyfrwng gemau, posau a gweithgareddau rhyngweithiol sy’n rhoi addysg yn nwylo’r defnyddiwr. Mae’n gyfle hefyd i gwrdd â’r deinosor Cymreig newydd, Dracoraptor hanigani.

Gellir lawrlwytho’r eBook ar iPad neu ddyfais Apple arall, ac mae modd ei ddefnyddio adref, neu ddod ag ef i’r Amgueddfa i archwilio’r orielau. Chwilia am y symbol yma am fwy o ffeithiau deinosor yn oriel Esblygiad Cymru.

Rhanna dy hoff ddarganfyddiad deinosoraidd o’r eBook neu’r Amgueddfa ar Twitter, drwy dagio @Museum_CdfLearn. Cofia chwarae’r gêm ‘dylunio deinosor’ a rhannu hynny ar Twitter hefyd!

Fersiwn Apple / PDF

Os nad yw hynny’n ddigon o ddeinosoriaid, beth am ymweld â’n harddangosfa newydd, Deinosoriaid yn Deor? Mae’n agor ar 27 Mai, a dyma’r cyfle cyntaf i weld yr arddangosfa wych hon i’r teulu yng Nghymru. Mae’n cynnwys sgerbydau deinosor maint llawn, modelau o embryonau ac wyau deinosor, a hyd yn oed nyth deinosor anferth, 2.5 medr! Mae mwy o fanylion ar ein tudalen Ddigwyddiadau.

Liam Doyle

Swyddog Addysg
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.