Hafan y Blog

Taith gyfnewid i Amgueddfa Jamtli

Marsli Owen, 17 Gorffennaf 2017

Yn ôl ym mis Mawrth roeddwn i a 3 o fy nghyd weithwyr yn lwcus iawn i gael mynd i dref yng nghanol Sweden o’r enw Östersund i ymweld ag amgueddfa awyr agored Jamtli fel rhan o raglen Erasmus+ o’r enw ‘Rhannu a Dysgu’. Bwriad y rhaglen yw cysgodi staff yr Amgueddfa, a rhannu gwybodaeth a sgiliau.

Cyrraedd Östersund

Roedd ymweld ag Östersund ei hun yn brofiad. Roedd blanced drwchus o eira ymhob man a’r llyn wedi rhewi yn gorn. Wni ddim beth mae’r anghenfil chwedlonol druan sy’n byw yn ynddo yn gwneud yn y gaeaf, ond yn ôl sôn mae ganddo fo dwnnel i’r Alban! Roedd pobol yn sglefrio a sgïo ar y llyn, a hyd yn oed cario eu neges adref drwy gerdded yn syth ar ei draws i'r ochor arall! Roedden yn edrych ymlaen at gael gweld yn Amgueddfa.

Jamtli

Treuliom dri diwrnod yn yr Amgueddfa yn cysgodi eu staff. Mae’r Amgueddfa ei hun yn adeilad pren gydag arddangosfa enfawr yn y llawr isaf (gallwch ei gyrraedd gan fynd i lawr llithren wedi ei siapio fel anghenfil y llyn!) Mae arddangosfeydd parhaol yma yn cynnwys y Llychlynwyr a’r tapestri o’r cyfnod, bywyd dyddiol drwy’r oesau a’r Sami, sef poblogaeth frodorol gogledd Sgandinafia.

Y tu allan mae aceri o adeiladau hanesyddol o sawl cyfnod gwahanol. Mae sgwar pentref yno, yn cynnwys siop a banc. Roedd y siop yn eithaf gwahanol i siop Gwalia, er efallai y buasai'r daliwr rholiau papur brown gyda dim llai na 3 rholyn yn rhywbeth i gynorthwy-ydd siop fod yn genfigenus ohono! Roedd y siop yn gwerthu pethau go iawn. Mae’r Amgueddfa yn ceisio dod a’r adeiladau yn fyw gan eu gwneud yn ddefnyddiadwy ble sy’n bosib.

Roeddwn i yn cysgodi gwahanol staff o’r adran Addysg ac yn cymryd rhan mewn ambell weithgaredd fel tywys ceirw fel y gwna’r Sami a defnyddio lasŵ! Roedd Mark Smith a David Davies gyda Mats Maloff yn gwneud gwaith cynnal a chadw a gwaith pren – ac wedi dod yn ffrindiau reit dda dros yr wythnos! Roedd Rhian Morris yn cysgodi'r tîm blaen tŷ yn cael cyfle i gyfarfod yr ymwlewyr fel y ferch fach wedi cyffroi am ael ymarfer ei Saesneg!

Fel Joe, ein hoff adeilad oedd yr adeilad o’r 70au ble cawsom hyd yn oed gêm o dennis bwrdd! Roedd yr adeilad fferm o 1942 yn drawiadol gyda’i leoliad yn ei wneud i deimlo fel ei fod yn wirioneddol bell o bob man yn y goedwig, a phob manylyn yn ei le. Roedd nifer o’r adeiladau yn bren ac wedi eu paentio, gyda sawl tŷ o 1895 hefyd. Blwyddyn bwysig i Östersund gan mai dyma pryd gyrhaeddodd y rheilffordd.

Daethom i gyd yn ôl wedi cael profiad anhygoel. Roedd yn wych cael y cyfle i gyfarfod a threulio amser gyda staff, a chael gweld tu ôl i’r llenni a theimlo fel rhan o’r tîm. Buasai’n dda dod yn ôl yn yr haf pan mae’r adeiladau ar agor, Historieland yn mynd ymlaen a chael cyfle i weld y set rhaglen deledu sydd yn cynnal sioeau i blant! Roedd yn ymweliad yn ysbrydoliaeth i ni gyd, ac rydym wedi mynd yn ôl yn llawn straeon a syniadau.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.