Hafan y Blog

Gwyliau Ysgol!

Hywel Couch, 28 Gorffennaf 2017

Gyda’r haf yma unwaith eto, mae hi’n amser i’r Adran Addysg yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan edrych nôl dros y flwyddyn a fu ac i ddechrau’r paratoadau ar gyfer mis Medi. Ni fydd llawer o ymlacio i'r tîm dros yr haf!

Mae hi’n amser cyffroes iawn i’r tîm yma. Gyda’r prif adeilad wedi ail-agor yn ei newydd wedd, erbyn mis Medi, byddwn yn croesawu ysgolion i’r Ganolfan Ddysgu Weston newydd sbon. Bydd hyn yn rhoi derbynfa benodol at ddefnydd ysgolion, dwy stiwdio addysg, darlithfa ag ystafell brechdanau ar gyfer ysgolion. ‘Da ni methu aros tan fis Medi er mwyn dechrau defnyddio’r gofodau yma gydag ysgolion!

Gyda gofodau newydd, mi fydd cyfleoedd newydd. Trwy gydol y proses ail-ddatblygu mae hi wedi bod yn anodd i ni gynyddu’r cynnig ar gyfer ysgolion, ond, o fis Medi ymlaen, mi fydd yr adran yn cynnig gwledd o weithdai newydd a hefyd yn gweld rhai gweithdai yn dychwelyd ar ôl ychydig o orffwys!

Yn dilyn trafodaethau gydag athrawon, fel rhan o’n Fforwm Addysg Ffurfiol, rydym wedi cynyddu’r nifer o weithdai sy’n ategu at ei gilydd. Mi fydd hyn yn galluogi ysgolion i fwcio mwy nag un gweithdy i’w grwpiau er mwyn llenwi’r ymweliad gyda gweithgareddau. I weld pa weithdai sydd ar gael ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2, cymrwch olwg ar ein tudalennau we addysg. Dilynwch y linc yma i’w gweld: https://amgueddfa.cymru/sainffagan/addysg/

Rydym yn awyddus iawn i ddangos y Ganolfan Ddysgu Weston newydd i athrawon, felly rydym yn cynnal noson agored ar gyfer Athrawon Ysgolion Cynradd ym mis Medi. Mi fydd y noson agored yn gyfle i athrawon gweld y gofodau newydd ac i ddod yn gyfarwydd â’r safle cyn ymweld gyda grŵp. Bydd hefyd cyfle i gwrdd â’r tîm - ‘da ni gyd yn reit gyfeillgar! Mae’r noson agored yn cymryd lle ar Fedi 20fed, ac mae gwybodaeth bwcio i’w ffeindio yma: https://amgueddfa.cymru/sainffagan/addysg/athrawon/

Er ein bod yn edrych ymlaen at yr haf, ‘da ni methu aros i ddechrau croesawu ysgolion eto ym mis Medi. Gobeithio nawni gweld chi pryd ni!

Hywel Couch

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.