Hafan y Blog

Cregyn, Cerflunio Prosthetig ac Argraffu 3D: Ymweliad â’r Casgliad Molysga yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Blog gwadd gan Matthew Day, 15 Awst 2017

Artist 'dwi, ac ar hyn o bryd dwi'n astudio gradd MA mewn dylunio a chrefft cyfoes. Fe ymwelais i â’r casgliad Molysga ar ôl darllen blog am strwythr mewnol cregyn ar wefan yr amgueddfa. Mi wnes gysylltiad rhwng strwythurau mewnol cregyn a sut y mae printwyr 3D yn gweithio ac yn creu siapiau. Ar y blog roedd rhif cyswllt ar gyfer Curadur Molysga, felly mi gysylltais â Harriet Wood, heb wybod beth i’w ddisgwyl.

Ffotograff o groestoriad o argraffiad 3D, sy'n dangod y strwythr mewnol

Strwythr mewnol argraffiad 3D © Matthew Day 2017

Pan esboniais fy ngwaith yn gyda prosthetau wrth Harriet, a’r cysylltiadau rhwng strwythr cregyn ac argraffu 3D, mi wahoddodd fi i ymweld â’r casgliadau, ac i fy nghyflwyno i’r person sy’n gyfrifol am sganio ac argraffu 3D yn yr amgueddfa.

Mynd 'tu ôl i'r llen'

Fuaswn i fyth wedi gallu dychmygu ymweliad gystal. Fe gwrddais â Harriet wrth ddesg wybodaeth yr amgueddfa ac yna mynd ‘tu ôl i’r llen’, ble cedwir y casgliad. Roedd cerdded trwy’r amgueddfa i gyrraedd yr ardal ‘cefn tŷ’ yn braf a modern. Roedd yn f’atgoffa o bapur academaidd y darllenais cyn ymweld, o The International Journal of the Inclusive Museum: ‘How Digital Artist Engagement Can Function as and Open Innovation Model to Facilitate Audience Encounters with Museum Collections’ gan Sarah Younan a Haitham Eid. 

ffotograff yn dangos hosan brosthetig gerfluniadol lwyd gydag addurn melyn

Hosan brosthetig wedi'i hargraffu mewn 3D a'i llifo, wedi'i ysbrydoli gan y casgliadau Molysga yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd © Matthew Day 2017

Mae gan ‘cefn tŷ’ yr amgueddfa naws arbennig – dyw’r cyhoedd ddim yn cael mentro yma heb drefnu o flaen llaw. Roedd yn fraint cael cerdded trwy stafelloedd yn llawn cregyn ‘mae pobl wedi eu casglu, ac wedi’u gwerthfawrogi am eu harddwch, dros y blynyddoedd. Beth oedd yn fwya diddorol imi oedd pa mor berffaith oedd y toriadau yn y cregyn. Roedd yn cregyn wedi’u torri yn edrych fel taw dyma oedd eu ffurf naturiol – roedd pob toriad yn gain iawn ac yn gweddu i siâp y gragen. Dyma beth oeddwn i eisiau ei weld.

Ffotograff du a gwyn yn dangos amrywiaeth o dafelli cregyn

Tafellau o gregyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd © Matthew Day 2017

Doedd gen i ddim geiriau i fynegi fy hun pan welais i’r casgliad yma o gregyn – yn enwedig gweld y darn o’r gragen na fyddwn ni’n cael ei weld fel arfer. Rodd yn gyffrous gweld y strwythr mewnol, am ei fod yn ychwanegu gwerth asthetig i’r cregyn. Roedden nhw’n fy atgoffa o waith cerflunio Barbara Hepworth, artist dwi’n ei hedmygu yn fawr.

Ffotograff du a gwyn yn dangos cragen siâp côn wedi'i dorri i ddangos strwythr troellog y gragen

© Matthew Day 2017

Rydym ni’n gweld cregyn ar y traeth drwy’r amser, a mae’n nhw’n fy nghyfareddu – yn enwedig cregyn wedi torri ble gellir gweld y tu fewn i’r gragen. Mae hwnnw fel arfer yn doriad amherffaith, yn wahanol iawn i’r toriadau bwriadol yn y casgliad, sydd wedi’u gwneud yn bwrpasol i ddangos ini beth sydd ar y tu fewn. Caf fy atynnu at ffurfiau naturiol sydd wedi eu siapio gan berson.  

Sganio 3D: Celf a Gwyddoniaeth

Cyn archwilio’r cregyn fy hyn, cynigiodd Harriet i fynd â fi i lawr i weld Jim Turner, a dyna ble buom ni’n trafod am rhan helaeth fy ymweliad, am fod ei waith mor ddiddorol.

Mae Jim yn gweithio mewn labordy sy’n defnyddio proses ffotograffig o’r enw ‘Stacio-z’ (neu EDF, ‘extended depth of field’), sy’n cael ei ddefnyddio yn aml mewn ffotograffeg facro a ffoto-microscopeg.

Ar hyn o bryd, mae'n creu archif o wrthrychau wedi’u sganio mewn 3D ar gyfer gwefan yr amgueddfa, ble all bobol ryngweithio gyda’r sganiau yn defnyddio cyfarpar VR – gan greu profiad hollol newydd i’r amgueddfa.

Gallais ddeall yn syth beth oedd Jim yn ei wneud o fy mhrofiad i. Esboniodd y broses a roedd nifer o elfennau technegol tebyg. Roedd yn bleser cael siarad gyda rhywun sy’n defnyddio sganio 3D mewn ffordd wahanol imi. Mae Jim yn defnyddio sganio 3D mewn ffordd dwi wedi ei weld mewn papurau academaidd. Er nad yw’n gwneud gwaith creadigol gyda’r cregyn, mae e dal yn rhoi gwrthrychau mewn cyd-destun newydd, ble all pobl ryngweithio â nhw yn defnyddio technoleg ddigidol fel cyfarpar VR neu ar y we trwy sketchfab.

'Fel bod ar y traeth...'

Pan ddes i ‘nôl at y casgliad molysga, mi ges i amser i ymchwilio’r casgliad ar fy liwt fy hun a doedd dim pwysau arna i i frysio – felly ces gyfle i edrych yn graff ac archwilio’r cregyn. Roedd fel bod ar draeth a chael oriau i archwilio’r holl wrthrychau naturiol.

Ffotograff du a gwyn yn dangos cragen siâp côn wedi'i dorri i ddangos strwythr troellog y gragen

© Matthew Day 2017

Cafodd yr ymweliad effaith wych ar fy mhrosiect MA – a mawr yw’r diolch i Harriet a Jim am eu hamser. Trwy’r ymweliad, fe fagais hyder i gysylltu ag amgueddfeydd eraill, fel Amgueddfa Feddygol Worcester, ‘ble bues i’n gweithio gyda soced prosthetig o’u casgliad. Mi sganiais y soced, ac wedi fy ysbrydoli gan gasgliad molysga Harriet, mi greais gyfres o socedi prosthetic cerfluniol, wedi’u hysbrydoli gan strwythurau mewnol cregyn, oedd yn darlunio croestoriadau rhai o’r cregyn mwya atyniadol yn y casgliad.

'Cerflun ynddo'i hun': fy nghasgliad o gerflunwaith brosthetig

Ffotograffau cyfochrog yn dangos hosan brosthetic a thafell gragen. Mae'r hosan brosthetig wedi'i chynllunio i gynrychioli siâp mewnol y gragen

Prototeip cysyniadol o hosan brosthetig wedi'i ysbrydoli gan y casgliadau molysga yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd © Matthew Day 2017

ffotograff yn dangos hosan brosthetig gerfluniadol ddu gydag addurn melyn

Prototeip o hosan brosthetig gerfluniadol wedi'i ysbrydoli gan gasgliad Molysga Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd © Matthew Day 2017

ffotograff yn dangos hosan brosthetig gerfluniadol lwyd gydag addurn melyn

Hosan brosthetig wedi'i hargraffu mewn 3D a'i llifo, wedi'i ysbrydoli gan y casgliadau Molysga yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd © Matthew Day 2017

ffotograff yn dangos hosan brosthetig gerfluniadol gydag addurn mawr siâp cragen gron

Hosan brosthetic wedi'i hargraffu mewn 3D a'i lifo, wedi'i ysbrydoli gan gasgliad Molysga Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd © Matthew Day 2017

 

Be’ Nesa?

Mae fy ngwrs MA nawr ar ei anterth, a dwi’n edrych ymlaen at ddechrau’r prif fodiwl dros yr haf.

Ar gyfer y rhan olaf o’r cwrs, hoffwn i gymryd yr hyn dw i wedi ei archwilio a’i ymchwilio hyd yn hyn, a’i ddefnyddio i greu darn prosthetig a allai fod yn rywbeth all rhywun ei wisgo, ond sydd yn gerflun ynddo'i hun – a mae’r gwaith yn mynd yn dda.

darlun 3D o gynllun ar gyfer cynllun coes brosthetig, gydag addurniadau wedi'u hysbrydoli gan strwythr mewnol cregyn

Darlun cysyniadol o goes brosthetig gerfluniadol, wedi'i ysbrydoli gan gasgliad Molysga Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd © Matthew Day 2017

Hoffwn i greu rhywbeth wirioneddol syfrdanol yn defnyddio argraffu 3D, gan ymgorffori asthetig wedi’i ysbrydoli gan y casgliad cregyn a’i uno gyda’r cerflunwaith prosthetig a welwch yma ar y blog.

Gallwch weld mwy o fy ngwaith ar fy ngwefan: Matthew Day Sculpture

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.