Hafan y Blog

Hanes yn y Teils

Danielle Cowell, 22 Awst 2017

Ysbrydolwyd y stori hon gan gasgliadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Bu Bethan Thomas a Jacob Rendle yn gweithio gyda chwmni ffilm Gritty Realism i greu’r ffilm fer hon.

Fel rhan o’r broses buont yn edrych ar archaeoleg Rufeinig ac yn dysgu technegau animeiddio. Ariannwyd y project gan Gasgliad y Werin Cymru a chafodd ei drefnu gan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a thîm addysg Cymunedau’n Gyntaf Casnewydd.

Hanes yn y Teils/Tales in the Tiles from Gritty Realism Productions on Vimeo.

Er nad yw dim o’r stori hon yn wir cafodd ei hysbrydoli gan rai o’r gwrthrychau go iawn a adawyd ar ôl gan y Rhufeiniaid yng Nghaerllion – 2,000 o flynyddoedd yn ôl!

Er engraifft, mae gennym dystiolaeth fod milwr Rhufeinig, ci a chath wedi camu ar y teils clai wrth iddynt gael eu gosod.

Milwr Rhufeinig oedd Julius Valens, a bu fyw nes ei fod yn gant! Mae ei garreg fedd yn yr oriel.  Hefyd, ôl troed milwr a’r deilsen siâp cath fyddai’r Rhufeiniaid yn ei rhoi ar flaen eu tai i gadw ysbrydion drwg draw.

Dewch i weld yr animeiddiad a'r gwrthrychau diddorol hyn yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru tan fis Medi 2017.

 

Danielle Cowell

Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.