Hafan y Blog

Gweithdai Gwyddoniaeth Gwych Grace!

Sarah Williams - Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, 15 Medi 2017

Eleni, am y tro cyntaf, fe fachon ni ar y cyfle i gymryd rhan mewn pedwar gweithdy Gwyddoniaeth o dan ofal Grace Todd. Ond, yn gyntaf, fe ddewision ni wneud y daith hunan-arweiniol o gwmpas yr amgueddfa gan ddefnyddio’r llyfryn lawrlwythog.

Mae dau grwp bach Blwyddyn 7 anghenion addysgu ychwanegol lawr wedi mynychu’r amgueddfa o ddau safle Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Roedd y daith gychwynnol yn llwyddiant llwyr gyda chynnwys a gofynion y llyfryn yn addas iawn at oed a gallu’r plant gyda chymorth cynorthwyydd a finnau. Roedd y daith yn rhoi cyflwyniad i’r plant o beth sydd yn yr amgueddfa ond hefyd cyfle i astudio addasiadau a chynefinoedd yn ogystal ag esblygiad trwy edrych ar adran y deinosoriaid. Ymateb y plant wrth fynd i mewn i’r adeilad am y tro cyntaf oedd ‘Waw!! Mae’n awsym!’.

Roedd y broses o fwcio’r gweithdai yn hwylus iawn trwy ebost (gydag Alun) ac wedyn bant â ni gyda’r pedwar gweithdy: Darganfod!, Ditectif y Deinosoriaid, Penglogau, Dannedd ac Esgyrn, a Bwystfilod Bac. Roedd modd wrth wneud y gweithdai  yma, dynnu sawl peth astudiwyd eisoes yn yr ysgol i mewn e.e. y corff, Mathemateg (trwy wneud cymesuredd ac ati). Beth o’n i’n hoffi fwyaf oedd y ffaith bod y plant yn gallu ymdrîn ag artiffactau ac eitemau casgliadau go iawn. Yn y gweithdy terfynol, roedd y plant yn cael ymchwilio cannoedd o eitemau, eu trin, eu pwyso, eu mesur, eu disgrifio…ac wedyn, roedd pob un yn dewis un er mwyn creu arddangosfa dosbarth. Profiad mor werthfawr ac addysgiadol. Yn ogystal â’r sgiliau gwyddonol oedd Grace yn eu hyrwyddo, roedd cyfle i’r plant ddatblygu sgiliau cyfathrebu trwy drafod gyda’i gilydd a chyflwyno o flaen pawb. 

Felly, diolch Grace ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. 😊

(Rydyn ni hefyd wedi gwneud y gweithdy Celf gyda Catrin ac roedd hyn yn fuddiol iawn. Wedi lawrlwytho adnoddau eraill o’r wefan ar gyfer lleoliadau eraill e.e. Pwll Mawr a Sain Ffagan.)


Sut i Archebu

Liam Doyle

Swyddog Addysg
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.