Hafan y Blog

Amser Golchi! E-lyfr Newydd am Wneud y Golch

Marsli Owen, 18 Hydref 2017

Mae e-lyfr newydd ‘Amser Golchi’ yn trafod golchi dillad yng Nghymru cyn dyfodiad y peiriant golchi. Mae wedi ei gynllunio ar gyfer plant, ac mae’n cynnwys gemau bach a deunydd archif er mwyn rhoi cyd-destun gweladwy i’r broses. Mae gan blant ysgol gyfle i ddod i’n hamgueddfeydd hefyd er mwyn profi sut beth oedd gwneud y ‘golch’ â llaw, fel oedd yn digwydd ymhell i mewn i’r 20fed ganrif.

Y Golch

Os ydych chi weithiau’n laru ar roi tomen o ddillad drwy’r golch a mynd trwy’r rigma-rôl o’u sychu, ddim ond iddynt gael eu gwisgo a glanio yn y fasged olchi unwaith eto, dychmygwch hynny i gyd heb beiriant!

Fel hwylusydd yn chwarae rhan Beti Bwt sydd yn gwneud y ‘Golch’ yn Sain Ffagan gyda grwpiau ysgol, ‘dwi’n dod ar draws sawl athro neu athrawes gydag atgof plentyn o’u neiniau yn golchi heb beiriant, neu o weld offer golchi o gwmpas y lle.

Mae’r e-lyfr hwn yn cyd-fynd gyda gweithdai golchi dillad yn Sain Ffagan, Amgueddfa Lechi Cymru, a Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru.

Sut oedd mynd ati:

Cyn peiriannau golchi, roedd gwneud y golch yn broses hir a chaled. Yn y canol oesoedd gallai barau dyddiau, ac roedd yn weithgaredd a ddigwyddai bob mis neu ddau, yn dibynnu ar y cyflenwad o ddillad glân oedd ar gael. Roedd gallu byw heb olchi dillad yn symbol o statws gan ei fod yn golygu fod y tylwyth yn gyfoethocach gyda digon o ddillad wrth gefn.

Erbyn y 19eg ganrif, roedd teclynnau a nwyddau wedi datblygu a daeth y golch yn ddigwyddiad wythnosol, pob dydd Llun i fod mwy penodol. Roedd merched yn aml am y cyntaf i orffen y golch, ac yn ceisio ei gwblhau mewn diwrnod.

Er gwaetha’r teclynnau, roedd gwaith i’w wneud cyn hyd yn oed cychwyn ar y dillad. Doedd dim tapiau mewn llawer o dai ymhell i mewn i’r 20fed ganrif ac felly roedd rhaid ei nôl o ffynnon, afon neu dap cyfagos, cyn ei gynhesu dros y tan.

Yna roedd rhaid rhoi sebon neu soda, yn dibynnu os oedd lliw ar y dillad, yn syth arnynt a’u sgrwbio yn erbyn bwrdd sgrwbio. I’r twba doli â’r dillad wedyn, er mwyn defnyddio’r doli i’w rinsio. Ar ôl eu sychu ar y gwrychoedd neu’r lein, roedd angen eu startsio a’u smwddio gyda haearn wedi ei gynhesu yn y tan.

Y dillad olaf i gael eu golchi oedd y dillad gwaith. Mewn ardaloedd llechi neu lo, roedd y ffustion yn drwch o lwch. Gwrandewch ar y clip sain er mwyn clywed mwy am olchi dillad chwarelwr:

Dr Kate Roberts, ganed yn Rhosgadfan, Sir Gaernarfon, 1891 yn trafod golchi dillad y chwarelwr

Gallwch lawr lwytho'r e-lyfr oddi ar iTunes trwy ein gwefan, ble gallwch ddod o hyd i fanylion er mwyn archebu lle ar gyfer grwpiau ysgol yn un o’n hamgueddfeydd a chael tro eich hun ar wneud y golch.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.