Hafan y Blog

Cofnodion Tywydd yn dechrau heddiw

Penny Dacey, 6 Tachwedd 2017

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu gwyliau hanner tymor!

Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar y diwrnod plannu. Cafodd 17,360 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad! Welais o’r llunia bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!

Mae Cofnodion Tywydd yn cychwyn o 6 Tachwedd. Plîs wnewch yn siŵr bod eich mesurydd glaw ai’ch thermomedr wedi ei chadw mewn lle addas wrth ymyl eich bylbiau.

Mae’n syniad da i ymarfer cymryd cofnodion tywydd. Fedrwch wneud hyn wrth ychwanegu dŵr at y mesurydd glaw a chymryd mewn tro i gofnodi’r mesur. Wedyn, fedrwch gymharu i weld os mae pawb wedi cymryd yr un mesur.

Mae 'na adnoddau dysgu ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!

Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch mewn i’r wefan i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf!

Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud, a rhannwch luniau trwy Twitter ac e-bost.

Cadwch ymlaen a'r gwaith called Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Professor Plant
10 Tachwedd 2017, 10:05
Hi Gavinburn Primary, that's fantastic! I'm glad you are enjoying the project so far. I look forward to seeing your weather records!
Gavinburn Primary School
7 Tachwedd 2017, 14:06
Hello Professor Plant we are P5 at Gavinburn Primary. We enjoyed planting our bulbs and are looking forward to seeing them grow next spring!