Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Mae’n bleser cyhoeddi lansiad ein rhithdaith gyntaf. Dyma ni’n cydweithio gydag adran Celfyddydau a Diwylliant Google i greu taith rithwir danddaearol yn Big Pit. Mae’r daith bellach yn un o atyniadau byd cyffrous Google Expeditions.

Beth yw Google Expeditions?

I ddilyn y rhithdaith, gallwch chi lawrlwytho app Google Expeditions ar gyfer llechen neu ffôn am ddim  o Google Play neu’r App Store. Gall athrawon arwain taith o’r llechen tra bod y disgyblion yn anturio ar eu ffonau.  Drwy osod y ffôn mewn syllwr gall yr anturwyr weld golygfeydd 360° a delweddau 3D. Bydd y tywysydd yn gweld golygfeydd 360° gyda nodiadau, lleoliadau diddorol, a chwestiynau sy’n hwyluso’r gwaith o ymgorffori’r daith i’r cwricwlwm. I sicrhau eich bod yn mwynhau profiad cyflawn, gwiriwch bod gofynion eich offer yn gymwys.

Beth sydd i’w weld ar rithdaith Big Pit?

Bydd lawrlwytho’r daith rad ac am ddim yn rhoi cyfle i chi fynd ar antur drwy bwll glo Cymreig. Bydd y rhithdaith yn rhoi blas o grwydro danddaear yn Big Pit ac yn agor y drysau i bobl na allai gael mynediad fel arall. Gall dim guro’r profiad go iawn wrth gwrs, a’r ffordd orau i gael blas o’r lofa yw i ymweld â Big Pit.

Canfod y rhithdaith

I ganfod rhithdaith Big Pit chwiliwch am Big Pit ar app Google Expeditions, a lawrlwytho’r daith. Mae’r rhithdaith hefyd ar gael yn Gymraeg, a dyma rithdaith Gymraeg gyntaf Google Expeditions.

Mwynhewch y daith a lleisiwch eich barn ar Twitter @BigPitMuseum.

Joe Lewis

Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli

Gadael sylw