Hafan y Blog

Arwyddion cynnar y gwanwyn

Penny Dacey, 29 Ionawr 2018

Helo Gyfeillion y Gwanwyn,

Rwy am rannu ambell lun gyda chi. Cofiwch, os gofynnwch i’ch athro neu athrawes yrru lluniau o’ch planhigion i mi, gallaf eu rhannu gydag ysgolion eraill sy’n rhan o’r project! Mae gen i ddiddordeb mawr mewn lluniau sy’n dangos y newid mewn tymhorau – fel blodau’r gwanwyn yng nghanol eira’r gaeaf!

Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch pryd i gofnodi dyddiad blodeuo ar-lein. Gallwch fonitro taldra eich planhigion bob wythnos a gadael i mi wybod yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd. Ond dim ond wedi i’r planhigyn flodeuo y dylech gofnodi ‘dyddiad blodeuo’ a thaldra’r planhigyn.

Edrychwch ar y llun o Gennin Pedr yn Sain Ffagan. Cafodd y llun ei dynnu ar ddiwrnod oer, felly nid oedd y blodau wedi agor yn llawn. Ond, gallwch weld pa rai sydd wedi blodeuo trwy edrych yn ofalus. Os yw’r holl betalau i’w gweld yn glir yna mae’r planhigyn wedi blodeuo. Cyn blodeuo mae’r petalau yn cael eu gwarchod gan gasyn tynn o enw blagur.

Pan fydd y blodyn wedi aeddfedu, a’r tywydd yn ddigon cynnes, bydd y casyn yn dechrau agor. Gall hyn gymryd ychydig oriau neu rai dyddiau! Efallai y gallwch weld hyn yn digwydd, os wnewch chi wylio’r planhigion yn ofalus iawn! Pan fyddwch yn gallu gweld yr holl betalau a’r casyn wedi disgyn gallwch fesur taldra’r blodau a chofnodi hyn ar y wefan. Wedi i chi wneud hynny bydd y cylch sy'n dangos lle mae eich ysgol ar y map yn newid llyw.

Ydych chi wedi cymharu uchder y blodau yn eich dosbarth? Oes yna wahaniaeth mawr yn uchder y planhigion a pha mor aeddfed ydyn nhw, neu ydyn nhw i gyd yn debyg? Beth am y planhigion sydd wedi’u plannu yn y ddaear? Yw’r rhain yn fwy na’r rhai mewn potiau? Pam hynny tybed? Gallwch ddweud beth ydych chi’n feddwl yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd yr wythnos hon!

Gyrrwch eich straeon a lluniau i’r blog blodau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter!

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn!

Athro’r Ardd

 

Eich sylwadau:

Ysgol Y Traeth: Yn anffodus mae ein thermomedr wedi torri yn gwyntoedd cryfion rydym yn aros am un newydd i gyrraedd.

Ysgol Beulah: Roedd llawer o law dros y penwythnos.

Arkholme CE Primary School: Some of the bulbs have spouted and some have not. We have not had much rain or much warmth either. The average temperature has been 5 degrees and the rain has been 3 ml. L and E.

Professor Plant: Wow Bulb Buddies, thank you for your update. I’m impressed to have the average temperature and rainfall for the week. Keep up the fantastic work!

Steelstown Primary School: Happy New Year, still enjoying the bulb project, lots of little sprouts are coming up now.

Carnforth North Road Primary School: Bulbs have started to grow in pots and in the ground as well.

Inverkip Primary School: The water was frozen on Friday. The bulbs have started to grow.

Carnforth North Road Primary School: Lots of Crocus are growing but not very many daffodils.

Ysgol Bro Pedr: A few buds beginning to show their heads above ground this week - happy days.

Tonyrefail Primary School: Two of our pots have got shoots coming through.

Pembroke Primary School: Approximately half crocus and a few daffodils now showing.

Nant y Moel Primary: Our bulbs have started to grow, we are getting excited.

Henllys CIW: Monday was 26 mm and shoots are starting to come up.

Carnbroe Primary School: Hi Professor Plant on Wednesday the rain was very heavy and the temperature begun to rise. Today it was very frosty and icy. Hopefully our bulbs will begin to grow soon.

Glenluce Primary School: We are building an ark in Glenluce!

Professor Plant: Gosh Glenluce Primary, that sounds exciting! Please share photos of your ark!

Glenluce Primary School: Snow day Friday, great snowball fights!

St Teresa's Primary School: We were closed on Wednesday due to snow.

Biggar Primary School: Due to snow the school was closed and no data was collected for 3 days.

St. Columbkille's Primary School: Heavy snow and school closures meant pupils were unable to get readings for some days.

Stanford in the Vale Primary School: Very cold week!

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.