Hafan y Blog

Arferion Caru

14 Chwefror 2018

I ddathlu Dydd San Ffolant a Dydd Santes Dwynwen cyn hynny, dyma luniau o eitemau yn ein casgliadau yn Amgueddfa Werin Cymru a roddwyd fel arwydd o ramant a chariad.

Y Llwy Garu

Cerfiwyd y llwy hynaf yng nghasgliad yr Amgueddfa yn 1667, ond mae’n ddigon posibl bod y traddodiad yn bodoli llawer cyn hynny. Roedd cerfio llwyau o bren er mwyn eu defnyddio yn y cartref yn arfer poblogaidd dros fisoedd hir y gaeaf, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Byddai’r llwy yn cael ei rhoi fel arwydd o angerdd ac hefyd yn cael ei defnyddio gan y derbyniwr wrth y bwrdd bwyd. Wrth i’r grefft ddatblygu, troes y llwy garu i fod yn llawer mwy addurnedig ac yn llai o declyn bwyta.

 

Cerfiwyd y llwyau caru mewn amrywiaeth o wahanol siapiau gyda phatrymau gwahanol a chywrain. Gellir dehongli symbolaeth yr addurniadau hyn mewn amryw ffyrdd, ond dyma restr isod o’r rhai mwyaf poblogaidd a’u hystyr posibl:

 

Calonnau

Symbol cariad ym mhob cwr o’r byd a welir yn aml ar lwyau caru Cymreig. Arwydd o angerdd ac emosiwn dwfn sy’n sicr yn cyfleu dwyster teimlad y cerfiwr at ei anwylyd. Mae’n bosibl bod llwy â dwy galon yn dangos cariad cytûn rhwng y crefftwr a’r derbyniwr.

Powlenni dwbl

Yn achlysurol cai llwyau caru eu cerfio gyda dwy bowlen neu ragor, gan ddangos, o bosibl, undod eneidiau neu, yn yr engrheifftiau gyda thair powlen, y dymuniad am blentyn.

Coma neu siâp persli

Siâp sydd i’w weld yn aml ar lwyau caru Cymreig hanesyddol. Dwedir ei fod yn cynrychioli’r enaid a serch dwys.

Peli mewn cawell

Credir bod peli wedi’u cerfio mewn cawell yn cynrychioli’r nifer o blant y gobeithiai’r cerfiwr eu cael, ond gallant hefyd gynrychioli gŵr sy’n gaeth gan gariad.

Cadwyni

Ystyrir rhain fel arwydd o deyrngarwch a ffyddlondeb, ond gallant hefyd fod yn arwydd o ddau enaid wedi’i clymu gan eu cariad a’u ffyddlondeb.

Diemwntau

Credir bod diemwntau yn dymuno bywyd llewyrchus ac yn addewid i ddarparu’n dda ar gyfer eich cariad.

Allweddi a thyllau clo

Yn ogystal â’r tŷ, gwelir delweddau eraill ar lwyau caru Cymreig weithiau sy’n arwydd o gartref dedwydd. Mae allweddi a thyllau clo yn cael eu cerfio’n aml er mwyn cyfleu diogelwch, neu’r syniad rhamantus o allwedd i’r galon.

Olwyn

Mae olwynion i’w gweld yn aml ar lwyau caru Cymreig a dywedir eu bod yn brawf o addewid y cerfiwr i weithio’n galed ac arwain ei gymar trwy fywyd.

 

Cardiau Ffolant

Dywedir bod y neges ffolant gyntaf yn Lloegr yn dyddio o 1684. Yng Nghymru, yn ystod yr un cyfnod, ceir sôn gan y bardd Edward Morris, Perthi-llwydion am neges debyg. Er hynny, rhaid oedd aros hyd at y 19eg ganrif nes i’r arfer o anfon cardiau ffolant ddod yn boblogaidd gyda’r enghriefftiau cynharaf o Gymru yn deillio o ddechrau’r ganrif honno. Yn y cyfnod hwn hefyd, yn Sir Forgannwg,  daeth “clymu cwlwm cariad” yn boblogaidd. Byddai’r clymau hyn yn cael eu dosbarthu fel ffafrau ar Ddydd San Ffolant, yn arwydd o serch ac ymroddiad. Gyda threigl amser gwelwyd y clymau ar gardiau San Ffolant.

 

Yn anffodus, fel gall llawer dystio, gall llwybr cariad fod yn llawn rhwystrau a siomedigaethau. Mae gennym yn yr Amgueddfa gasgliad o “Ffolantau Sbeit” neu “Falantau Ysmala” a anfonwyd i’r rheini a oedd wedi gwrthod neu dwyllo cariad neu wedi rhoi terfyn ar berthynas. Mae’r ddelwedd gyntaf yn dangos cerdyn o’r fath.

 

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.