Hafan y Blog

Lleisiau o’r Gorffennol: Ŵyna yn Rhandirmwyn, 1975

Aled Jones, 15 Mawrth 2018

Yn ystod y 1970au cynnar aeth staff yr amgueddfa ati i recordio hen ffermwyr yn disgrifio ffermio yng Nghymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif cyn datblygiadau peiriannau ffermio o’r 1950au ymlaen. Mae’r recordiau yn cael ei chadw yn Archif Sain yr amgueddfa.

Yn 1975 holodd John Williams Davies y ffermwr Dan Theophilus am y profiad o ffermio defaid ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Roedd Dan Theophilus yn byw ar fferm Allt Yr Erw, Rhandirmwyn, pentref yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin.

Mae Dan Theophilus yn sôn am ofalu am y defaid adeg ŵyna, yr achosion mae’n meddwl sydd yn arwain at ddefaid yn cael trafferth i ddod ac ŵyn, a’r tywydd gwaethaf ar gyfer y tymor ŵyna.

Mae’n dweud sut oedd perswadio defaid i fabwysiadu oen, y perthynas rhwng y ddafad a’r oen a pha mor ffyddlon byddai’r defaid i’r ŵyn ar ôl ŵyna wrth iddo droi’r defaid i’r mynydd.

Dan Theophilus, Allt Yr Erw, Rhandirmwyn

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.