Hafan y Blog

Teyrnged i'r diweddar Gwyn Griffiths, arbenigwr ar y Sioni Winwns.

Pascal Lafargue, 10 Mai 2018

Ar y 29fed o Ebrill 2018, bu farw Gwyn Griffiths, cyfaill mawr i Lydaw, newyddiadurwr ac awdur. Ysgrifennodd lyfrau am lên Cymru a llên Llydaw a gwnaeth gyfraniad hollbwysig i hanes y ddwy wlad hon trwy gofnodi hanes y Sioni Winwns yn y Gymraeg, Ffrangeg ac yn y Saesneg.  Yn 1995, chwaraeodd ran flaenllaw yn sefydlu’r amgueddfa fach am y Sionis a leolir Roscoff, sef La Maison des Johnnies et de l’Oignon Rose de Roscoff.

Jean-Marie Cueff ac Olivier Bertevas, Bute Street, 1978.

Teithiodd i Lydaw fwy na 40 gwaith, roedd hi’n wlad yr oedd yn ei adnabod yn dda ac yn wlad a oedd yn agos iawn i’w galon. Mae ei waith ymchwil am y Sionis yn gyfraniad hynod o bwysig i hanes Llydaw ac hefyd i hanes Cymru, gan mai ef oedd yr unig un, hyd y gwyddom, i recordio rhai o’r gwŷr hynod hyn yn siarad Cymraeg. Yn ogystal â Chymraeg, recordiwyd eu hanesion hefyd yn y Saesneg, y Llydaweg a’r Ffrangeg ac aeth Gwyn ati i dynnu toreth o luniau diddorol a gwerthfawr yn olrhain eu hanes

Yn 2013, derbyniodd yr Archif alwad ffôn gan Gwyn Griffiths. Roedd yn holi ar ran dwy Lydawes a oedd yn gwneud ymchwil i hanes y Sionis. Gofynnodd am wybodaeth am unrhyw eitemau eisoes yng nghasgliad sain yr Archif ac wrth i’r sgwrs ar y ffôn fynd yn ei blaen, roedd brwdfrydedd ac angerdd y gŵr hwn tuag at Lydaw a thuag at ei gwerthwyr winwns yn heintus. Roedd yn fraint gan yr Amgueddfa i dderbyn ei gasgliad o recordiadau sain ac o luniau. Roedd yn rhaid i mi drefnu i’w ffilmio yn siarad!

                                                                                    Cliciwch ar y llun isod i wylio'r fideo.

 

 

Gwrandewch isod ar ddarn o gyfweliad Gwyn Griffiths gyda Marie Le Goff, gwerthwraig winwns, tua 1988, er mwyn cael blas ar y casgliad.

Marie Le Goff.

Kenavo Gwyn!

Pascal Lafargue

Technegydd Archif Clyweledol

sylw (4)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Pascal Lafargue Staff Amgueddfa Cymru
26 Mehefin 2018, 09:57

Annwyl Eleri,

Diolch am eich neges.

Roedd yn bleser mawr adnabod eich tad. Roedd Gwyn yn ddyn hynod o ddiddorol, yn gwmni difyr ac yn berson cyfeillgar tu hwnt.
Peidier â phetruso o gwbl cyn cysylltu â ni os hoffech gopi o’r cyfweliad cyfan neu o’I gasgliad sain.

Cofion cynnes,

Pascal Lafargue
25 Mehefin 2018, 11:44
Dear Erik ker,

Trugarez evit bezan lennet ha evit bezan pledet gant ar pennad-skrid. Mond a rin en darempred ganeoc'h prestik.
Thanks for having read and for having taken interest in the article. I will soon contact you by email.

A wir galon ganeoc'h, Sincerely yours,

Pascal Lafargue
Eleri Griffiths
21 Mehefin 2018, 09:10
Annwyl Pascal

Hyfryd oedd dod ar draws y deyrnged hon i Dad. (Diolch i Erik). Byddai'n braf cael gweld a chlywed mwy o'r casgliad rhywbryd. Diolch am dynnu sylw ato.

Eleri Griffiths
ERIC GUDENKAUF
20 Mehefin 2018, 05:37

Annwyl Pascal,

I am in contact with the grand-daughter of the lady Mary Le Goff (MJ GUEGEN) who is interviewed here by Gwyn Griffiths. He had come to interview them both here in Brittany too (when she was young, she told me). We couldn't find to footage back, unfortunately. Gwyn had given it to her as a present.

Yesterday, I have been sent this link to your blog which is interesting to me because I was looking for a few seconds of the voice of her grand-mother for a film I am editing at the moment about Gwyn Griffiths for the INSTITUT CULTUREL DE BRETAGNE because he will be given soon a distinction called LE COLLIER DE L'HERMINE (after his death). It would be great if I could get a minute of this section when you can here Gwyn with his questions and her answering in welsh as a lady from brittany. Can you help me ? Could you be able to send me a link or send it to me through WE TRANSFER ?
I would appreciate your collaboration.
I thank you in advance.
Best regards.
Erik Gudenkauf,