Hafan y Blog

#NOMÔRPLASTIC: dympio plastig môr dros arddangosfa

Fforwm Pobl Ifanc, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 25 Gorffennaf 2018

Mae plastig yn para am genedlaethau. Mae Fforwm Ieuenctid Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a grwpiau ieuenctid o amgylch Cymru, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o'i effaith ar natur - trwy ychwanegu llwyth o wastraff plastic at orielau môr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

 

"Dyn ni moyn defnyddio'r amgueddfa i ddanfon neges: Mae angen i bawb wneud mwy i ymladd yn erbyn llygredd." - meddai llefarydd ar ran No Môr Plastic


Casglwyd y mynydd o blastig môr dros yr haf, o draethau rhwng Aberogwr a Phorthcawl - traethau poblogiadd yn ne-ddwyrain Cymru.

pentwr o wastraff plastig ar darpaulin

Rhagor o blastig yn cyrraedd yr amgueddfa

 

Mae Surfers Agains Sewage, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros foroedd glanach, ac i amddiffyn bywyd gwyllt ers 1990, a maen nhw'n cynnal digwyddiadau twtio traeth yn rheolaidd. Yn ôl Alun Moseley, ymgyrchydd a syrffiwr:

"Dw i di bod yn syrffio ers blynyddoedd, a dwi di gweld cynnydd yn y llygredd môr yn ddiweddar. Mae'r math o lygredd wedi newid hefyd - mae lot mwy o syrffwyr yn mynd yn sâl.

Ond ma na gynnydd 'di bod mewn diddordeb hefyd - pobl isio gwbod be allan nhw wneud, yn enwedig pobl ifanc. Dyna pam mae'r digwyddiad yma yn gam cadarn ymlaen: pobl ifanc fydd yn etifeddu'r sefyllfa - a dyw e ddim yn deg."

Bydd 'No Môr Plastic' i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 31 Gorffennaf tan Awst 5.

 

 

Mae 'No Môr Plastig' yn rhan o brosiect Cicio'r Llwch, sy'n annog pobl dan 25 i feddiannu a defnyddio amgueddfeydd. Os ydych chi eisiau cymryd rhan, cysylltwch.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
tracie renshaw
4 Awst 2018, 13:40
oh my
wonderful
I have hope when I see such brilliant activities occurring