Hafan y Blog

Casgliad Swffragét Prin yn Dod i Gymru

Sioned Hughes, 26 Gorffennaf 2018

Ddoe, daeth casgliad arbennig i Gymru: esiampl brin iawn o wrthrychau sy'n adrodd hanes Swffragét Gymreig, Kate Williams Evans.

ffotograff du a gwyn yn gwisgo siaced, yn sefyll ar bwys ci

Kate Williams Evans, Swffragét
[Llun: Catherine Southon Auctioneers]

 

Kate Williams Evans - o ganolbarth Cymru i Garchar Holloway

Ganed hi yn Llansanffraid ym 1866, a datblygodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth wedi iddi deithio i Baris. Pan ddychwelodd i Gymru, ymunodd â’r Women’s Social and Political Union – ac yn erbyn ewyllys ei rhieni, daeth yn Swffragét.

Ar y 4ydd o Fawrth, 1912, arestiwyd hi ar gyhuddiad o ‘Malicious Damage’, a charcharwyd hi am 54 diwrnod yng Ngharchar Holloway. Yn y casgliad, mae llythyron sy’n manylu ar yr amgylchiadau yn Holloway, gan gynnwys disgrifiadau di-flewyn-ar-dafod o’r bwydo gorfodol a dioddefodd yno.

Ymprydio a Bwydo Gorfodol

ffotograff o staff HLF ac Amgueddfa Cymru yn edrych ar wrthrych mewn oriel newydd

Bydd orielau newydd Sain Ffagan yn agor ym mis Hydref

Roedd bwydo gorfodol yn dacteg gyffredin, a ddefnyddwyd gan awdurdodau carchar ar fenywod oedd yn ymprydio. Daeth y mater yn bwnc llosg, a defnyddwyd disgrifiadau o fwydo gorfodol i greu propaganda llwyddiannus oedd o blaid achos y Mudiad Swffragét. Canolbwynt y casgliad a brynwyd gan Amgueddfa Cymru yr wythnos hon yw Medal Ympryd, a roddwyd i Kate i gydnabod yr hyn a ddioddefodd yn y carchar.

Hyd y gwyddom, dim on 100 o Fedalau Ympryd gafodd eu creu – ac mae’n debygol mai hon yw’r unig un a roddwyd i Swffragét o Gymru. Mae’r fedal yn ganolbwynt i’r casgliad, sy’n cynnwys llythyrau a ffotograffau. Am fod dogfennau sy’n olrhain hanes Swffragétiaid o Gymru mor brin, mae’r casgliad hwn o bwysigrwydd cenedlaethol – a bydd nawr yn rhan o gasgliadau Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Y Can Mlwyddiant a Thu Hwnt - Adrodd Stori Cymru

Mae’n naw deg mlynedd ers i fenywod gymryd yr hawl i bleidleisio, ac mae can mlynedd ers Deddf Gynrychioli’r Bobl – y ddeddf a alluogodd rai menywod i bleidleisio. Mae'r achlysur wedi rhoi cyfle i ni daro golwg dros ein casgliadau am y pwnc.

ffotograff o faner gyda draig goch a'r geiriau 'cardiff and district' a 'tros rhyddid'

Baner y Cardiff Cardiff & District Women's Suffrage Society. Gwnaethpwyd gan Rose Mabel Lewis, Llywydd y Gymdeithas

Mae nifer o’n casgliadau yn olrhain hanes ymgyrchwyr hawliau pleidleisio, gan gynnwys eu baneri nodweddiadol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth sydd wedi goroesi o’r mudiadau Swffragét yn brin iawn, felly roedd y cyfle hwn i brynu’r casgliad yn un arbennig a chyffrous. Bydd y casgliad hwn yn rhoi cyfle i ni ddweud stori fwy cyflawn – un bersonol  a chenedlaethol.

Creu Hanes yn Sain Ffagan

Mae casgliad Kate Evans yn gaffaeliad pwysig ac amserol, gan fod orielau newydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar fin ail-agor, ynghyd â chyfleusterau astudio casgliadau newydd yng Nghanolfan Ddysgu Weston.

ffotograff o staff HLF ac Amgueddfa Cymru yn edrych ar wrthrych mewn oriel newydd

Bydd orielau newydd Sain Ffagan yn agor ym mis Hydref

Mae orielau newydd Sain Ffagan yn agor ym mis Hydref, fel rhan o brosiect ail-ddatblygu uchelgeisiol, sydd wedi’i ariannu trwy gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ynghyd â Llywodaeth Cymru a rhoddwyr unigol.

 

Sioned Hughes

Pennaeth Hanes Cyhoeddus ac Archaeoleg
Gweld Proffil

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
tracie renshaw
4 Awst 2018, 13:37
rare suffragette collection read fabulous and fascinating...I'm heading to the museum tomorrow. looking forward for haven't been for a few years. Your collection is calling me. brilliant and diolch