Hafan y Blog

#DiolchynFawr

Chris Kelly, Swyddog Codi Arian a Datblygu, 26 Tachwedd 2018

Mae mis Rhagfyr yn gyfle gwych i ni fel sefydliad ddweud diolch wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eich cyfraniadau hael, sy'n ein helpu'n fawr gyda'n gwaith bob dydd.

Bydd yr 20 chwaraewr Loteri Genedlaethol cyntaf i ymweld ag un o'n hamgueddfeydd cenedlaethol rhwng 3 a 9 Rhagfyr 2018 yn cael anrheg am ddim!

Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis i gyd yn cymryd rhan.

Cyflwynwch eich tocyn yn siop yr Amgueddfa os gwelwch yn dda.

Cyn gynted ag y bydd yr 20 anrheg wedi mynd ym mhob lleoliad, byddwn yn gwneud cyhoeddiad drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sain Ffagan wedi elwa'n ddiweddar o gyllid y Loteri Genedlaethol. Dyfarnwyd £11.5m i ni yn 2012 i ddechrau ailddatblygu'r Amgueddfa, y grant mwyaf erioed i gael ei ddyfarnu yng Nghymru gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. 

Diolch i gyfraniadau hael chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, cyfrannodd dros 3,000 o wirfoddolwyr a 120 o fudiadau cymunedol, elusennau stryd a grwpiau lleol o bob rhan o Gymru at y gwaith ailddatblygu gwerth £30m.

Mae cymryd rhan yn y fenter #DiolchynFawr yn un ffordd y gallwn ni ddweud diolch wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a'r Loteri Genedlaethol.

Telerau ac amodau:

● Cyflwynwch un tocyn Loteri Genedlaethol i hawlio eich anrheg am ddim yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; neu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

● Mae pob un o gemau'r Loteri Genedlaethol yn gymwys am yr anrheg am ddim. Gallwch chi brofi eich bod yn chwarae’r Loteri drwy docyn copi caled neu docyn digidol.

● Mae'r cynnig yn ddilys rhwng 3 a 9 Rhagfyr 2018 hyd nes y bydd yr 20 rhodd am ddim ym mhob amgueddfa wedi cael eu rhoi allan.

● Os bydd ymholiadau ar y diwrnod, bydd penderfyniad y rheolwr yn derfynol.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.