Hafan y Blog

Cofnodion Blodau

Penny Dacey, 22 Chwefror 2019

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Diolch i bob ysgol sef wedi rhannu cofnodion blodau! Cofiwch i wneud yn siŵr bod y dyddiad yn gywir a bod taldra'r planhigyn wedi ei chofnodi yn filimedrau. Rydym wedi cael cofnodion yn dangos bod planhigion wedi blodeuo ym mis Ebrill a hefo disgrifiadau am grocws a chennin Pedr anhygoel o fyr!

Os ydych yn gweld bod eich cofnodion yn angen ei chywiro, yna yrrwch rhai newydd i mewn hefo esboniad yn y bwlch sylwadau.

Rwyf wedi mwynhau darllen y sylwadau hefo’r cofnodion tywydd a chofnodion blodau dros y pythefnos diwethaf. Rwyf wedi atodi rhai o’r sylwadau yn isod. Wnaeth Ysgol Stanford in the Vale gofyn cwestiwn da flwyddyn ddiwethaf,  'oes rhaid i gofnodi pob blodyn i’r wefan, beth os mae'r dyddiad a’r taldra'r un peth?' Mae’n bwysig i rannu’r cofnodion i gyd oherwydd mae'r nifer o blanhigion sydd yn blodeuo ar ddyddiad unigol a’r taldra'r planhigion yn effeithio ar ein canlyniadau.

I weithio allan taldra cymedrig eich ysgol ar gyfer y crocws a’r cennin Pedr, ychwanegwch bob taldra a rhannwch hefo'r nifer o gofnodion. Felly, os oes genych deg cofnodion o daldra i’r crocws, ychwanegwch y rhain a rhannwch hefo deg i gael y rhif cymedrig.

Os oes gennych un blodyn hefo taldra o 200mm ac un blodyn hefo taldra o 350mm, fydd y rhif cymedrig yn 275mm. Ond, os oes gennych un blodyn hefo taldra o 200mm a deg hefo taldra o 350mm fydd y rhif cymedrig yn 336mm. Dyma pam mae’n bwysig i gofnodi pob planhigyn.

Mae pob cofnod blodyn yn bwysig ac yn cael effaith ar y canlyniadau. Os nad yw eich planhigyn wedi tyfu erbyn diwedd mis Mawrth, plîs wnewch gofnod data heb ddyddiad na thaldra ac esboniwch hyn yn y bwlch sylwadau. Os mae eich planhigyn yn tyfu, ond ddim yn blodeuo erbyn diwedd mis Mawrth, yna plîs cofnodwch daldra'r planhigyn, heb ddyddiad blodeuo, ac esboniwch hyn yn y bwlch sylwadau.

Cadwch y cwestiynau yn dod Cyfeillion y Gwanwyn! Mae 'na nifer o adnoddau ar y wefan i helpu hefo’r prosiect. Unwaith mae eich planhigyn wedi blodeuo, fedrwch greu llun ohono a defnyddio hyn i labelu'r rhannau o’r planhigyn! Hoffwn weld ffotograff o rain a rhannu nhw ar y blog nesaf.

Ar y nodyn hwnnw, hoffwn rannu fideo Ysgol Llanharan gyda chi, cliciwch yma!

Daliwch ati gyda’r gwaith caled Cyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.