Darlunio fel da Vinci!
9 Mai 2019
,Mawrth 2019, Cymerodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Willows ran mewn project wedi'i ysbrydoli gan Leonardo ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, Prifysgol De Cymru a Ysgol Biowyddoniaeth Prifysgol Caerdydd.
Dechreuodd y disgyblion drwy astudio anatomi gyda Dr Shiby Stephens, Anatomegydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma nhw'n edrych ar sut yr arweiniodd darluniau anatomi cywir a manwl Leonardo at ddealltwriaeth a gwelliannau meddygol.
Cafodd y disgyblion gyfle wedyn i weld arddangosfa Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau, gan arsylwi'n fanwl, arbrofi â thechnegau a darlunio yn y fan a'r lle. https://amgueddfa.cymru/caerdydd/digwyddiadau/10265/Leonardo-da-Vinci-Dyn-y-Darluniau/?_ga=2.91177693.636861976.1557410099-992676399.1537354296
I gloi, gweithiodd y disgyblion yn agos â Gina Carpenter, Tiwtor Celfyddyd Weledol ym Mhrifysgol De Cymru, i greu darluniau anatomi cywir gan ddefnyddio technegau croeslinellu, creu ffurfiau 3D a chymesuredd corff. Dyma nhw'n edrych ar fwriad da Vinci a chael eu cyflwyno i broses Dylunio Gêm cyn mynd ati i amlinellu dyluniad gêm eu hunain wedi'i hysbrydoli gan ddarluniau anatomi a dyfeisiau da Vinci.
Dan nawdd Sefydliad Esmée Fairbairn.