Hafan y Blog

Cerdded Gyda’r Rhufeiniaid

Kathryn O'Dobhain, 10 Mehefin 2019

Am wythnos fer, bu disgyblion Cyfnod Allweddol Dau yn mwynhau Cerdded Gyda'r Rhufeiniaid yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Yn ogystal â'r sesiwn arferol dan ofal ein hathrawon Rhufeinig, aeth y plant hefyd ar daith o'r Amffitheatr.

Dan lygad barcud eu harweinydd Rhufeining newydd, dyma nhw'n dysgu martsio yng nghanol yr amffitheatr. Ar ôl perffeithio eu cerdded, cafodd rhai o'r disgyblion roi cynnig ar fod yn gladiator a diddanu gweddill y dosbarth.

Moment fwyaf poblogaidd y sesiwn bob blwyddyn yw pan fydd y plant yn dysgu sut i ymosod fel uned, gyda'i hathrawon fel y gelyn!

Mae lleoliad awyr agored yr Amffitheatr a'r Barics a'u hanes hynafol, yn parhau i ddal dychymyg plant yn llawer gwell na sesiwn arferol yn y dosbarth. Mae'n gyfle gwych i'r disgyblion weld a phrofi'r hanes gyda'u llygaid eu hunain.

Mewn astudiaeth ddiweddar gan HAPPEN Wales canfuwyd bod sesiynau dysgu awyr agored fel y rhain yn cynnig ystod o fuddiannau i'r plentyn a'r athro ac yn gwella iechyd, llesiant, addysg ac ymgysylltiad yn yr ysgol. Felly, os oes ysgolion wedi siomi o golli allan ar wythnos Cerdded gyda'r Rhufeiniaid mae sesiwn arall ar y gorwel.

Gall ysgolion archebu sesiwn Hyfforddiant Milwr o ddydd Llun 1 Gorffennaf tan ddiwedd y tymor. Bydd y disgyblion yn dod i ddeall beth oedd yn gwneud milwr Rhufeinig da, cael cyfle i brofi eu hunain fel milwyr, a chystadlu mewn timau ar y sgwâr martsio!

Cysylltwch ag addysg.rhufeinig@amgueddfacymru.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Er bod Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol, mae'r rhaglen addysg yn parhau.

Gan ganolbwyntio ar addysg Cyfnod Allweddol Dau, mae'n cynnig diwrnod llawn o weithgareddau i bob ysgol – o grwydro adfeilion hynafol yr Amffitheatr y Baddondai a'r Barics, i wisgo lifrau yn ein hail-gread o Ystafell y Barics a dysgu Lladin gydag e-lyfr.

Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn ailagor i'r cyhoedd yn hydref 2019.

Kathryn O'Dobhain

Swyddog Gweinyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.