Hafan y Blog

Digi Dig 1926! - Llwybr Darganfod Rhufeinig

Danielle Cowell, 13 Awst 2019

Dewch i ailddarganfod trysor Rhufeinig ddaeth i’r fei yng Nghaerllion ym 1926!

Defnyddiwch yr Ap i archwilio'r Amffitheatr a'r Barics yng Nghaerllion. Dilynwch gliwiau a chwrdd â chymeriadau hanesyddol i helpu chi i ddarganfod trysorau'r Amgueddfa - lle cawsant eu darganfod un wreiddiol. Os dewch o hyd iddynt i gyd byddwch yn agor rhith-Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Mae'r Ap hwn yn brosiect partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Cadw. Mae'n cysylltu trysorau amgueddfeydd â'r lleoedd lle cawsant eu darganfod yn y safleoedd hanesyddol a gynhelir gan Cadw yng Nghaerleon.

 

Sut i chwarae:

    • Defnyddiwch eich dyfais a'r map trysor i ganfod y chwe chliw cudd yn yr amffitheatr a'r barics.
    • Rhaid i chi gerdded i bob un o'r chwe chliw llun yn y grid.
    • Pan fyddwch chi'n agosáu at y man iawn bydd ceiniog yn ymddangos ar eich dyfais. 
    • Pwyswch y geiniog i weld y cliw a chasglu pob ateb i ganfod yr allwedd sy'n agor yr Amgueddfa Lleng Rufeinig Rithwir.

     

    Cwestiynau Cyffredin

    • Mae'r ap yn gweithio orau ar Android 4.3 a'r iOS 9.1 neu yn hwyrach. Ni fydd yr ap yn gweithio ar rai ffonau android syml.
    • Mae'r ap yn defnyddio data yn ystod y profiad
    • Os ydych yn cael trafferth lawrlwytho'r ap, sicrhewch fod gennych gysylltiad gwe da a digon o le ar eich ffôn.

     

    Addasrwydd: Teuluoedd

    Hud: 30-50muned

    Download for iPhone

    Download for Android 

    Danielle Cowell

    Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC)

    sylw (1)

    Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
    Eleanor Kean
    15 Ionawr 2022, 08:57
    Hi, the link to download for Android isn't working