Hafan y Blog

Teuluoedd Taf yn mwynhau cyd-goginio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Awst 2019

Clare Dickinson, Uwch Swyddog Buddsoddi Cymunedol, Cymdeithas Tai Taf, 17 Medi 2019

Fel rhan o’n hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r nod o greu Cymru fwy llesol, dyma ni’n gwahodd rhai o deuluoedd Cymdeithas Dai Taf i fwynhau diwrnod yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Dyma nhw'n dysgu am fwyta'n iach, fydd o fudd i iechyd pawb yn y dyfodol.

Roedd gwledd o weithgareddau cyffrous ar gael i'r teuluoedd, gan gynnwys taith drwy erddi'r Amgueddfa i godi shibwns a thorri bresych, arddangosiadau coginio gan ddarlithydd Rheoli Lluniaeth o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, a chyflwyniad ar faeth i gloi. Roedd cyfle i bob plentyn olchi, paratoi a choginio bwyd. Dyma oedd profiad cyntaf nifer o'r plant o greu prydau iach gyda chynhwysion o'r pridd. Fel y dywedodd Alex, sy'n 12 oed, "Roedden ni'n cael blasu'r perlysiau wrth eu hel. Roeddwn i'n hoffi'r mintys – roedd e'n blasu fel gwm cnoi. Yn yr archfarchnad mae perlysiau wedi eu sychu ac mewn pacedi felly allwch chi ddim arogli na'i cyffwrdd nhw."

 

Roedd nifer o rieni yn dweud eu bod hi'n anodd coginio prydau iach yn rhad, ac yn anodd annog plant i fwyta llysiau. Dywedodd un rhiant, "Trefnwyd bysys am ddim i ni – mae mynd â phump plentyn ar draws y ddinas ar sawl bys yn anodd ar y gorau! "Mae'r plant eisiau dechrau tyfu llysiau yng ngardd mam-gu – dwi erioed wedi eu gweld nhw'n bwyta llysiau mor gyflym!"

 

Diolch o galon i Sain Ffagan Amgueddfa Cymru a thîm Widening Access Prifysgol Fetropolitan Caerdydd am drefnu'r cyfle gwych hwn. Rydyn ni'n barod yn trefnu gweithgareddau tebyg yn yr Amgueddfa, gan roi cyfle i fwy o blant ddysgu am fyw yn iach a diwylliant Cymru.

Loveday Williams

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.