Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Ymlaen â ni â blwyddyn ryngwladol tabl cyfnodol yr elfennau cemegol ac, ar gyfer mis Medi, rydym wedi dewis carbon. Gellir dadlau mai carbon - mewn glo - yw’r elfen a gafodd y dylanwad mwyaf ar dirwedd adeiledig a diwylliant Cymru.

Meysydd Glo Cymru

Am ryw ganrif a hanner, cafodd y diwydiant glo ddylanwad enfawr ar hanes diwydiannol, gwleidyddol a chymdeithasol Cymru. Erbyn 1911, roedd 2,400,000 o bobl yn byw yng Nghymru, sef dros bedair gwaith yn fwy na’r  587,000 oedd yn byw yma yn 1801. Dylanwad y diwydiant glo oedd yn gyfrifol am y cynnydd bron i gyd: naill ai’n uniongyrchol trwy greu swyddi yn y glofeydd neu drwy ddiwydiannau oedd yn dibynnu ar lo fel tanwydd (e.e. cynhyrchu dur).

Mae dau brif faes glo yng Nghymru, un yn y gogledd-ddwyrain a’r llall yn y de.  Glo anweddol iawn, sy’n rhwymo’n gryf neu’n weddol gryf, oedd yn cael ei gynhyrchu’n bennaf ym maes glo’r gogledd sydd â hanes maith o gynhyrchu glo. Erbyn 1913, roedd yn cynhyrchu tua 3,000,000 tunnell y flwyddyn ond bu dirywiad araf wedi hynny.  Caewyd glofa olaf yr ardal, y Parlwr Du, yn 1996.

Mae maes glo’r de yn helaethach nag un y gogledd.  Mae’n fasn synclin hir sy’n ymestyn o Bont-y-pŵl yn y dwyrain i Rydaman yn y gorllewin, gyda darn ar wahân yn Sir Benfro. Mae’n mesur tua 1,000 milltir sgwâr i gyd.

Mae maes glo’r de’n enwog am fod yno wahanol fathau o lo, yn amrywio o lo meddal i wneud golosg a nwy, glo stêm, glo stêm sych, a glo caled. Câi’r gwahanol fathau eu defnyddio at wahanol ddibenion: mewn cartrefi, cynhyrchu stêm, cynhyrchu nwy a golosg a mwyndoddi copr, haearn a dur.

Roedd toeau brau a rhai ag uniadau llac yn fwy cyffredin ym maes glo’r de nag ym meysydd eraill Prydain ac felly byddai damweiniau’n digwydd yn aml wrth i doeau ac ochrau gwympo. Mae’r gwythiennau dwfn yn ‘danllyd’ iawn hefyd gan arwain at drychinebau lu. Rhwng 1850 ac 1920, yng Nghymru y bu traean o holl farwolaethau diwydiant glo’r Deyrnas Unedig. Mewn cyfnod cymharol fyr, rhwng 1890 ac 1913, cafwyd 27 o drychinebau glofaol mawr yn y Deyrnas Unedig, 13 ohonynt yn y de, yn cynnwys y ffrwydrad yng Nglofa’r Universal, Senghenydd, lle bu farw 439 o ddynion – y nifer fwyaf i golli eu bywydau mewn trychineb lofaol yn y Deyrnas Unedig.  Ychydig o drychinebau mawr fu yn y gogledd ond, yn 1934, lladdwyd 266 o ddynion mewn ffrwydrad yng Nglofa Gresffordd, y trychineb gwaethaf ond dau yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru.

Mae glo stêm a glo caled o dde Cymru’n wahanol i lo o wythiennau eraill am fod partins (’slipiau’) yn digwydd yn aml ar ongl o ryw 45 gradd rhwng y llawr a’r to.  Roedd hyn yn golygu bod y glo’n eithaf hawdd i’w gloddio am ei fod yn syrthio mewn blociau mawr.  Fodd bynnag, roedd y glo mawr wedi’i orchuddio â llwch mân, sef prif achos niwmoconiosis neu glefyd y llwch, a oedd yn fwy cyffredin ym maes glo’r de nag yn unrhyw faes glo arall yn y Deyrnas Unedig. Yn 1962, roedd 40.7% o holl lowyr y de yn dioddef o’r clefyd.

Datblygodd perthynas glòs rhwng y diwydiant glo a’r gymuned leol.  Mewn llawer o bentrefi roedd bron bawb yn gweithio yn y pwll glo. Ym Morgannwg a Sir Fynwy, roedd hanner yr holl ddynion oedd yn gweithio yn ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant glo ac mewn mannau fel y Rhondda a Maesteg gallai’r ganran fod mor uchel â 75%.

Oherwydd daeareg a daearyddiaeth neilltuol yr ardal, roedd glowyr y de yn araf i ymuno ag undeb. Fodd bynnag, ar ôl methiant digalon streic 1898, daeth angen am undod ac, erbyn 1914, Ffederasiwn Glowyr De Cymru (“y Ffed”) oedd yr undeb llafur mwyaf, â bron 200,000 o aelodau.

O ddechrau’r 1920au tan yr Ail Ryfel Byd, aeth meysydd glo Cymru trwy ddirwasgiad maith gan fod llongau wedi dechrau defnyddio olew a bod meysydd glo wedi’u datblygu dramor. Cwympodd nifer y glowyr o 270,000 i 130,000. Cafodd y diwydiant ei wladoli ar ôl y rhyfel a gwelwyd newidiadau enfawr wrth i dechnegau ac offer newydd gael eu cyflwyno. Roedd mwy o bwyslais ar ddiogelwch erbyn hyn ond roedd y meysydd glo’n dal yn fannau peryglus. Yn 1960, bu farw 45 o ddynion yng Nglofa’r Six Bells, bu farw 31 yng Nglofa’r Cambrian yn 1965 ac efallai mai’r drychineb fwyaf oedd colli 144 o bobl, yn cynnwys 116 o blant, pan lithrodd tomen lo yn Aberfan.

Erbyn yr 1980au, roedd bygythiad y byddai llawer o’r pyllau’n cau. Ym mis Mawrth 1984, dechreuodd y streic fawr olaf gan bara am 12 mis. Ar ôl i Undeb Cenedlaethol y Glowyr gael ei drechu, roedd pyllau glo’n cau yn rheolaidd. Erbyn canol yr 1990au, roedd mwy o amgueddfeydd glofaol nag o byllau glo dwfn gweithiol yng Nghymru.  Caewyd y pwll dwfn olaf, Glofa’r Tŵr, ym mis Ionawr 2008. Daeth un o’r dylanwadau pwysicaf ar fywyd cymdeithasol, diwydiannol a gwleidyddol Cymru i ben.

Tom Cotterell

Uwch Guradur: Mwynau
Gweld Proffil

Gadael sylw