Hafan y Blog

Fy chwe mis cyntaf gyda Amgueddfa Cymru

Roger Lewis, 18 Rhagfyr 2019

"Lewis! Peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw beth a byddwch yn dawel!" Dyma oedd geiriau fy athro hanes, Mr Davies, wrth i fws Ysgol Gyfun Cynffig gyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn hydref 1966.

Pum-deg-tri mlynedd yn ddiweddarach, ac ers cael fy mhenodi’n Llywydd Amgueddfa Cymru yn gynharach eleni, rwyf wedi cadw cyngor Mr Davies mewn cof wrth i mi gyfarfod a siarad â’r timau gwych o staff a gwirfoddolwyr o gwmpas ein wyth lleoliad. Rwyf hefyd wedi clywed gan Ymddiriedolwyr, Noddwyr, cefnogwyr, gweinidogion a gweision sifil a rhai o’n miliynau o ymwelwyr.

Wrth siarad â phawb dros y chwe mis diwethaf, rwyf wedi profi eu hangerdd ac ymroddiad eithriadol dros waith Amgueddfa Cymru. Ac mae pawb, wrth gwrs, mor falch o gyflawniadau arbennig Amgueddfa Cymru, yn enwedig wrth i Sain Ffagan ennill y gwobr fawreddog Amgueddfa’r Flwyddyn fel y gwnaeth Big Pit yn 2005.

Mae bron i 1.9 miliwn o bobl wedi ymweld â’n saith amgueddfa dros y flwyddyn ddiwethaf. Heb os, eiddo pobl Cymru yw ein hamgueddfeydd cenedlaethol, a diolch i Lywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i bob un ohonynt.

Yn ogystal, mae cefnogaeth ein Noddwyr a sefydliadau a chefnogwyr amrywiol wedi ein galluogi ni i greu cyfuniad cyfoethog o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd, ac i brynu amrywiaeth eang o bethau hynod newydd i’r casgliadau cenedlaethol.

Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion democratiaeth ddiwylliannol a chynhwysiad cymdeithasol. Ein nod yw ymgysylltu â chymaint o gymunedau amrywiol â phosibl, o bob cwr o Gymru, yn arbennig y rhai sydd o dan anfantais. Rydym wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i les pobl, a sicrhau dyfodol i’r cenedlaethau sydd i ddod yng Nghymru.

Mae ein hymrwymiad i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd, yn seiliedig ar ein mewnwelediad gwyddonol arbennig, yn hanfodol i ni i gyd. Wrth ymgymryd â’r gwaith hwn, mae rhaglen ymchwil gadarn ac ystyriol yn llywio ein gwaith.

Mae ein gorwelion yn ymestyn tu hwnt i Gymru. Rydym yn benderfynol o wneud cyfraniad deinamig i Gymru ar draws y byd, gan chwarae ein rhan wrth greu gwlad ffyniannus i bawb.

Fel rhywun sydd wedi manteisio ar y syniad fod addysg yn hawl nid yn fraint, ac fel mab i rieni a adawodd yr ysgol yn 14 oed, teimlaf fod ymrwymiad Amgueddfa Cymru i addysg yn syfrdanol. Mae dros 200,000 o blant ysgol a myfyrwyr wedi ymweld â’n hamgueddfeydd yn 2018/19. Ni yw darparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth mwyaf Cymru – mae hyn yn eithriadol.

Heb os nac oni bai, byddai Mr Davies yn llawn edmygedd o Amgueddfa Cymru heddiw, a’n bwriad o gael gwared ar gymaint o rwystrau â phosibl, er mwyn i fwy fyth o bobl ymgolli mewn yr orielau a gofodau ysbrydoledig sy’n tanio’r dychymyg. Creadigrwydd a fydd yn cyffwrdd â’n calonnau a’n meddyliau ni i gyd.

Rydym nawr yn dechrau ar gynllun 10 mlynedd i symud ein Hamgueddfeydd ymlaen ymhellach fyth, i groesawu mwy fyth o ymwelwyr, cynnwys mwy fyth o bobl a bod yn fentrus yn ein huchelgais i ysbrydoli pobl a newid bywydau. Mae ein hawydd i ddathlu’r gorau o Gymru mewn amryw ddisgyblaethau yn ein hysbrydoli ni i gyd. Edrychaf ymlaen i weld beth ddaw dros y ddegawd nesaf.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Hapus Iach a Heddychlon i chi gyd.

Roger Lewis

Llywydd Amgueddfa Cymru

Lleucu Cooke

Rheolwr Cyfathrebu
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.