Hafan y Blog

Dathlu Deg! 10 mlynedd o gydweithio ag Ysgol Pen-y-bryn

William Sims, 25 Mawrth 2020

Yn 2020, byddwn yn dathlu 10 mlynedd o gydweithio rhwng Amgueddfa Genedlaethol y Glannau â disgyblion a staff Ysgol Pen-y-bryn

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn falch iawn o’i gwaith gyda’r gymuned leol ac ysgolion yn Abertawe. Mae’r cydweithio’n digwydd mewn llawer o ffyrdd gwahanol – o GRAFT, ein gardd gymunedol, i’n rhaglen arloesol ‘mae fy ysgol gynradd yn yr Amgueddfa’. Ein partneriaeth gydag Ysgol Pen-y-bryn yw ein hiraf, ac rydym mor falch ohoni.

Daeth yr Amgueddfa a’r ysgol at ei gilydd am y tro cyntaf yn 2010 ar gyfer project o’r enw ‘Tu ôl i’r Drysau Llwyd’ oedd â’r nod o roi cip tu ôl i’r llenni ar waith yr Amgueddfa. Datgelodd y project lawer am ein gwaith, o sut mae ein harddangosfeydd yn cael eu creu i gynnal siop yr Amgueddfa. Bu disgyblion Pen-y-bryn yn cyfweld â staff yr Amgueddfa i weld yn union sut beth yw rhedeg Amgueddfa. Roedd y project yn gymaint o hwyl, ac yn llesol i’r Amgueddfa a’r ysgol – nid yn unig oherwydd yr arddangosfa anhygoel oedd yn benllanw i’r project ond hefyd oherwydd y daith y bu pawb arni. Sylwodd athrawon a staff ar yr effaith a gafodd ar y disgyblion. Cafodd y rheini oedd ychydig yn fwy petrus i ddechrau eu trawsnewid, ac erbyn y diwedd roeddent yn gysurus ac yn gartrefol yng nghanol y cyhoedd a’r arddangosfeydd. Mae’r teimlad yma o berchnogaeth yn rhan ganolog o holl raglenni cymunedol yr Amgueddfa.

Mae disgyblion a staff Pen-y-bryn yn ein hysbrydoli ni yn yr Amgueddfa drwy’r amser. Rhoddodd ‘Tu ôl i’r Drysau Llwyd’ gip i ni ar eu creadigrwydd ac ymroddiad anhygoel. Roedd pawb yn yr Amgueddfa yn awyddus i weithio eto gyda’r ysgol ac maent yn dal i’n rhyfeddu, gyda’r creadigrwydd ac ysbrydoliaeth yn cynyddu â phob project. Ymhlith y projectau mae creu llyfrau ar wahanol bynciau, o Glwb Pêl-droed Abertawe i archarwyr. Mae cydweithio â chwmnïau anferth fel stiwdio gomics a chlwb pêl-droed yn dangos effaith bellgyrhaeddol brwdfrydedd y staff a’r disgyblion. Maen nhw hefyd wedi creu ffilmiau â phob math o leisiau enwog yn serennu ynddynt, o Joanna Lumley i Michael Sheen. Lansiwyd y ffilmiau hyn gyda gala yn yr Odeon yn Abertawe sydd wir yn ddathliad o’r holl waith caled sydd tu cefn i’r projectau hyn, gyda’r achlysuron mawreddog yn adlewyrchu talent hynod pawb ym Mhen-y-bryn. Mae holl elw gwerthiant y llyfrau a’r DVDs sy’n gysylltiedig â’r projectau wedi mynd at elusennau lleol, fel Tŷ Hafan.

 

Mae gweithio gyda’r ysgol wedi helpu’r Amgueddfa i wella’r gefnogaeth i unigolion ag anghenion addysgol arbennig. Rydym wedi creu ‘ystafell dawel’ yn yr Amgueddfa, gyda chyngor staff Pen-y-bryn. Mae’r ystafell sy’n debyg i gyfleusterau yn yr ysgol yn lle diogel i enaid gael llonydd.

 

I ddathlu degawd o’r bartneriaeth wych hon, mae staff yr Amgueddfa wedi creu arddangosfa sy’n dathlu holl brojectau’r deng mlynedd diwethaf ac arddangos rhai o’r gwrthrychau gwych sydd wedi’u creu yn eu sgil. Mae Dathlu Deg yn nodi deng mlynedd o weithio gydag Ysgol Pen-y-bryn, ac rydym ni oll yma yn yr Amgueddfa yn edrych ymlaen at y deg nesaf!

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.