Amgueddfa Blog

Heddiw, mae’n Ddiwrnod Iechyd y Byd, ac am amser i ni fod yn ei nodi! Yma yn Amgueddfa Cymru, hoffem ei ddefnyddio i ddathlu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a sefydlwyd ym 1948 trwy ymdrechion y Gweinidog Llafur o Gymru, Aneurin Bevan, ac i ddiolch o galon i’r meddygon, y nyrsys a’r timau gofal iechyd sy’n gweithio’n arwrol yn rheng flaen y pandemig hwn.

Mae ein casgliadau yn llawn o offer ac arteffactau rhyfedd a brawychus sy’n gysylltiedig ag iechyd, ynghyd â chofnodion o arferion hynafol a meddyginiaeth gwerin. Felly, dyma garlam i godi curiad y galon trwy 4,000 o flynyddoedd o iechyd a meddygaeth yng Nghymru.

Byddai iechyd yn ein gorffennol cynhanesyddol wedi bod yn wahanol iawn i heddiw. Credai pobl bod llawer o afiechydon yn deillio o lwc ddrwg, melltithion, ysbrydion, neu dywydd maleisus hyd yn oed! Yn ogystal â rhoi sylw i broblemau corfforol fel esgyrn wedi torri, byddai iachawyr cynhanesyddol wedi defnyddio bwydydd a pherlysiau ochr yn ochr â defodau i gefnogi ysbryd y claf. Mae’n bosibl y byddai gan rai aelodau o’r gymuned wybodaeth arbenigol am berlysiau, bydwreigiaeth a llawfeddygaeth tra byddai siamaniaid neu ffigurau tebyg i dderwyddon yn gweithio at iachau ysbryd person sâl.

Mae gweddillion dynol a adferwyd o gladdfeydd hynafol yn datgelu mwy i archeolegwyr am ffyrdd o fyw, iechyd, diet, afiechydon a marwolaethau pobl yn y gorffennol, ac weithiau gallant daflu goleuni ar y ffyrdd yr oedd pobl yn gofalu am ei gilydd.

Pot gweddillion llosgol o'r Oes Efydd a ddarganfyddwyd ar Fferm Breach, Dyffryn Morgannwg

Ymhlith ein casgliadau mae olion dyn a fu farw yn ystod yr Oes Efydd Gynnar (tua 4,200 o flynyddoedd yn ôl). Amlosgwyd ei gorff, gosodwyd ei weddillion yn y pot hardd hwn a’i gladdu yn Fferm Breach ym Mro Morgannwg. Mae darnau o’i esgyrn yn dangos ei fod dros 18 oed pan fu farw a’i fod wedi dioddef sawl anaf yn ystod ei fywyd, a fyddai wedi gofyn am feddyginiaeth, gofal a sylw er mwyn gwella. Cafodd doriad cywasgu yn un o fertebrau ei asgwrn cefn – anaf a fyddai heddiw yn cael ei drin â chyffuriau lladd poen cryf, gorffwys a brês cefn am 8-12 wythnos i’w helpu i wella. Mae ganddo hefyd doriad cywasgu wedi’i wella ar ei benglog sy’n dangos ei fod wedi gwella o ergyd drom i’w ben ar ryw adeg yn ei fywyd.

Ysbyty Rhufeinig Caerleon, gyda diolch i  7reasons a Dr Peter Guest. Hawlfraint: 7reasons.

Ychydig sy’n hysbys am fanylion arferion iacháu yma ym Mhrydain hyd nes i’r Rhufeiniaid gyrraedd. Adeiladwyd yr ysbyty parhaol pwrpasol cynharaf y gwyddwn amdano yng Nghymru gan lengfilwyr y fyddin Rufeinig, naill ai yn eu caer ym Mrynbuga neu yng Nghaerllion.

Roedd gan gaer lengol Rufeinig Isca (Caerllion), a sefydlwyd OC 74/5, ysbyty enfawr (valetudinarium), yn mesur 70m sgwâr. Credir y byddai cleifion yn derbyn dognau arbennig o win ac efallai olew, a bod perlysiau meddyginiaethol yn cael eu tyfu yn yr iard. Fe’i lleolwyd wrth ymyl baddonau Caerllion, sydd bellach dan ofal Cadw, i ffwrdd o’r gweithdai ‘fel bod heddwch i’r rhai sy’n gwella’ (Hyginus).

Amphora Rhodian a ddarganfyddwyd yng Nghaerleon

Cloddiwyd yr amffora ‘Rhodian’ hwn yn Mill Street, Caerllion ym 1985. Roedd cyfeiriad y lleng arno ac roedd yn cynnwys olion gwin. Byddai’r gwin hwn wedi cael ei halltu er mwyn cael effaith ryddhaol (laxative).

Byddai meddygaeth gynnar wedi dibynnu i raddau helaeth ar blanhigion. Yma yng Nghymru mae gennym nifer o lysieulyfrau cynnar, pwysig. Y mwyaf nodedig efallai yw’r rheini am driniaethau Meddygon Myddfai. Mae’r casgliad cynharaf o’r meddyginiaethau hyn i’w gael yn Llyfr Coch Hergest, sy’n dyddio o ddiwedd y 14eg ganrif ac sydd bellach yn cael ei gadw yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen. Dyma feddyginiaethau teulu o feddygon oedd yn byw ac yn gweithio o amgylch pentref Myddfai yn Sir Gaerfyrddin. Mae eu gwreiddiau ychydig yn aneglur ac yn cydblethu â llên gwerin, ond y cyfeiriad cyntaf sydd gennym amdanynt yw Rhiwallon, oedd yn gweithio fel meddyg yn llys Rhys Grug (tua 1165–1233). Byddai Meddygon Myddfai yn gwneud eu meddyginiaethau yn gyfan gwbl o gynnyrch naturiol a dyfwyd yn eu hardal, ac maent yn cynnwys iachâd ar gyfer llosg haul, chwyddiadau a phoen yn y breichiau a’r coesau, cur pen, peswch ac annwyd.

Ymhlith casgliad gwych Sain Ffagan o swyn iachaol, llên gwerin a meddyginiaethau mae carreg hydroffobia (alabastr) y credir ei bod yn gwella’r gynddaredd (rabies). Yn ei lyfr ‘Folk-Lore of West and Mid Wales’, ysgrifennodd Jonathan Ceredig Davies am laethfaen yr oedd ‘galw mawr amdani’ oherwydd y gred ei bod yn gwella’r rhai a gafodd eu brathu gan gi gwallgof, problem gyffredin yn y 19eg ganrif. P’un a oedd ganddo bwerau iachaol neu ataliol, dywedid bod y rhai a ddefnyddiai’r garreg yn ddiogel rhag y gynddaredd.

Disgrifiodd Iolo Morgannwg weld carreg fel hon yn Sir Benfro ym 1802, pan gyfarfu â dyn oedd yn cario un o amgylch y wlad. Byddai’n ei grafu i greu powdwr y gellid ei doddi mewn diod, a’i werthu am bum swllt yr owns fel meddyginiaeth at y gynddaredd.

Mae’r archifau yn Sain Ffagan hefyd yn cynnwys casgliad meddygaeth draddodiadol. Gwaith ymchwil y cyn-guradur Anne Elizabeth Williams yw hwn. Bu’n casglu meddyginiaethau traddodiadol o bob rhan o Gymru am tua 12 mlynedd o 1976 ymlaen. Teithiodd o amgylch Cymru yn cyfweld â phobl am y meddyginiaethau yr oeddent yn cofio eu defnyddio, neu’r rhai yr oeddent yn cofio rhieni neu neiniau a theidiau yn eu defnyddio, ac yna eu nodi i lawr ar gardiau cyfeirio yn ôl afiechyd a lleoliad daearyddol. Mae’r casgliad hwn bellach yn cael ei archwilio’n fanwl eto ac mae rhywfaint o ddiddordeb ynddo gan y gymuned wyddonol, gan gynnwys ethnobotanyddion o’r Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew!

Dyma ychydig o feddyginiaethau gwerin o’r casgliad hwnnw:

I drin annwyd, gwnewch de Ysgaw trwy roi dŵr berwedig ar y blodau, a’u rhoi ar yr hob i stiwio. Byddai cwpanaid o hyn yn cael ei roi nawr ac yn y man pan fyddent yn dioddef gydag annwyd fel plant, yn enwedig cyn mynd i’r gwely.

Mrs Edith Davies, Trehafod.

I drin annwyd yng Nghefn-coed-y-cymer, byddai gwin blodau’r ysgaw neu eirin ysgaw, gydag ychydig o bupur cayenne wedi’i ychwanegu ato yn cael ei roi.

William Morgan, Cefn-coed-y-cymer

Ym Mhandy Tudur ger Abergele roedd yn gyffredin yfed llaeth poeth gyda sinsir i drin annwyd.

John Williams, Pandy Tudur
 

Yn Blaenrhondda byddai dau winwnsyn yn cael eu berwi i wneud cawl, unwaith y byddai’n barod byddai’n cael ei yfed cyn mynd i’r gwely ac erbyn y bore wedyn byddai wedi lleddfu’r symptomau annwyd.

Daniel Llywelyn, Blaenrhondda

Brês ‘Gwlanen Goch’ ar gyfer y cefn.

Mae gan Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre gofnod o’r iachâd ‘Gwlanen Goch’ ar gyfer dolur gwddf a phoen cefn. Byddai’r claf yn rhwbio saim gŵydd (yn aml wedi’i gadw mewn pot bach ers y Nadolig) ar wlanen wedi’i lliwio’n goch gan ddefnyddio gwreiddyn Madr. Yna câi’r wlanen goch ei gosod ar ardal boenus y cefn, neu yn achos dolur llwnc, ei lapio o amgylch y gwddf.

Ysbyty Chwarel Dinorwig, 1930au, © casgliad Vivian Hughes

Daeth y chwyldro diwydiannol â heriau iechyd newydd. Mae ein harchifau’n gyfoethog o arteffactau meddygol sy’n gysylltiedig ag anafiadau penodol oedd yn deillio o beryglon gweithio mewn pyllau glo, chwareli ac ati. Nepell o Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, mae’r Ysbyty Chwarel lleol, sy’n llawn offer meddygol, cofnodion ac enghreifftiau o’r meddyginiaethau a’r triniaethau oedd ar gael i weithwyr llechi pan oedd y chwareli lleol yn eu hanterth.

Roedd gweithio mewn chwarel lechi yn alwedigaeth beryglus, ac roedd damweiniau’n digwydd yn aml. Nid oedd ysbytai diwydiannol yn gyffredin, ond roedd sawl ysbyty wedi’u cysylltu â’r diwydiant llechi, pob un wedi’i sefydlu gan y chwarel feistr lleol neu’r tirfeddiannwr. Roedd yr ysbytai chwarel hyn yng ngogledd Cymru yn arloesol, ac yn arwain y ffordd mewn sawl agwedd ar feddygaeth, er enghraifft:

  • Ar 9 Ebrill 1847, am y tro cyntaf erioed yng ngogledd orllewin Cymru, defnyddiwyd anesthetig yn llwyddiannus yn ystod llawdriniaeth yn ysbyty Chwarel Penrhyn. Dim ond chwech mis oedd hyn ar ôl darganfod bod ether yn anesthetig.
  • Datblygwyd y peiriannau pelydr-X cyntaf erioed o 1895 ymlaen. Erbyn 1896-97 roedd perchnogion Chwarel Dinorwig wedi prynu peiriant pelydr-X ar gyfer eu hysbyty.
  • Yn 1871 dyfeisiodd Joseph Lister chwistrell antiseptig i gadw offer meddygol a chlwyfau yn lân yn ystod llawdriniaethau. Erbyn Mawrth 1878 roedd gan ysbyty Chwarel Dinorwig ei chwistrell Lister ei hun, ac yna ysbyty Oakeley ym 1904.  

Portread o Dr Henry Naunton Davies

Roedd gan faes glo de Cymru ei heriau meddygol a’i arloeswyr ei hun, yn eu plith, Dr Henry Naunton Davies, (1828–99). Fe’i ganed yn Dinas, Rhondda ym 1828, ac yn ystod ei oes, ehangodd y boblogaeth leol o 500 i dros 130,000 o bobl. Daeth yn feddyg i nifer fawr o lofeydd lleol. Ym 1877, bu Dr Davies yn allweddol mewn ymdrechion achub yn dilyn llifogydd Glofa Tynewydd, Porth. Daeth dewrder yr achubwyr i sylw’r cyfryngau a’r byd, gan gynnwys y Frenhines Victoria ei hun a gymerodd ddiddordeb mawr yn yr achos.

Roedd Dr Davies yn flaenllaw yn yr ymdrech i sefydlu ‘ysbyty damweiniau’ ym Mhorth a ddaeth yn fwy adnabyddus yn ddiweddarach fel ‘Porth Cottage Hospital’. Bu farw Dr Davies ym 1899, ychydig flynyddoedd yn unig ar ôl iddo eistedd ar gyfer paentiad olew sydd bellach wedi’i roi gan Gymdeithas Feddygol Cymru i Amgueddfa Cymru.

Os ydych chi wedi bod yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ddiweddar, mae’n ddigon posib eich bod wedi mwynhau’r arddangosfa ‘Arloesi’ ac wedi rhyfeddu at yr aelodau prosthetig a ddatblygwyd ac a grëwyd gan Drew Murray a Stephen Davies o Team UnLimbited.

Mae’r ddau yn rhoi o’u

Stephen Davies o Team UnLimbited  yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

hamser hamdden i ddatblygu ac adeiladu aelodau plastig printiedig 3D ar gyfer plant (yn bennaf) sydd wedi colli aelod neu wedi’u geni heb un. Mae Team UnLimbited yn darparu dyfeisiau ar gyfer derbynwyr yn y DU yn rhad ac am ddim ac mae eu holl ddyluniadau yn cael eu cyhoeddi ar-lein, yn ffynhonnell agored at ddefnydd anfasnachol i unrhyw un ledled y byd eu defnyddio. Mae Stephen, sy’n adeiladu’r dyfeisiau yn ei sied ardd yn Clydach ger Abertawe, yn beiriannydd CAD (dylunio gyda chymorth cyfrifiadur). Fe’i ganed heb law. Ei chwiliad ei hun am law brosthetig a’i arweiniodd at Drew Murray, sy’n rhan o rwydwaith gwirfoddolwyr o’r enw e-Nable sy’n gwneud teclynnau prosthetig 3D am ddim i blant.

Gwneir pob aelod prosthetig i fanyleb y derbynnydd ei hun – lliwiau a hyd yn oed themâu fel Iron Man, Batman a Lego. Mae’r aelodau prosthetig yn costio tua £20.00 i’w hadeiladu a 12 awr i’w hargraffu ar Argraffydd 3D. Mae eu dyluniad rhad ac am ddim bellach wedi’i lawrlwytho dros 100,000 o weithiau ac mae wedi helpu miloedd o bobl ledled y byd. Fe roddodd Steven ddwy fraich i Gasgliad Amgueddfa Cymru ac maen nhw’n cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Wel, dyna ni, 4,000 o flynyddoedd o hanes meddygol mewn llai na 2,000 o eiriau! Gobeithiwn y bydd yr erthygl hon yn eich gadael yn llon ac iach ar Ddiwrnod Iechyd y Byd, ac efallai’n teimlo ychydig o ryddhad am y datblygiadau enfawr mewn meddygaeth a wnaed dros y pedwar mileniwm diwethaf!

Gyda diolch i’r canlynol a gyfrannodd wybodaeth a delweddau i’r erthygl hon:

Adam Gwilt, Prif Guradur: Cynhanes, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Jody Deacon, Curadur: Archaeoleg Cynhanesyddol, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dr Mark Lewis, Uwch Guradur: Archaeoleg Rufeinig, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Lowri Jenkins, Archifydd Cynorthwyol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Fflur Morse, Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Non Mitchell, Crefftwr, Amgueddfa Wlân Cymru

Cadi Iolen, Uwch Guradur: Llechi, Amgueddfa Lechi Cymru

Ceri Thompson, Curadur Glo, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Ian Smith, Uwch Guradur y Diwydiant Modern a Chyfoes, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

 

DOLENI I ADNODDAU YCHWANEGOL:

 

TRINIAETH A MEDDYGYNIAETH RHUFEINIG. Adnodd i blant archwilio a dysgu:

https://museum.wales/learning/activity/397/Triniaeth-a-Meddyginiaeth

 

ANIMEIDDIAD O GAERLLION RUFEINIG https://www.youtube.com/watch?v=EfZw15ri1d

 

SWYNAU A MEDDYGINIAETH WERIN

https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2011-06-16/Maen-magl-a-photel-gwrach/?_ga=2.211797397.1262732030.1586172855-1640869684.1517080500

 

As humans transport goods all over the planet we also unintentionally transport animals and plants to places that they do not belong. We call these animals and plants non-native or alien species. If conditions are right for the non-native species they can become established and outcompete our own native species for food and habitat. This is when they are called invasive species and could have a negative impact on our native species sharing the same habitat. This is bad news considering all the other pressures on our wildlife.

 

How do they travel such great distances?

One of the major transporters of marine non-native species are the large goods ships that travel from one side of the planet to the other, taking on ballast water in various ports and ejecting the water at their destination. Ballast water aids the huge ships to balance. At ports, as containers are removed from the ship, ballast water is taken on to keep the whole vessel evenly balanced. The problem is that the water in ports often contains tiny floating animals that are the offspring (or larvae) of mussels, crabs, clams and other invertebrates. These larvae get sucked into the ballast tanks and survive onboard until ejected at the destination port, which is sometimes on the other side of the planet. These animals would not normally have reached these far off destinations naturally. 

 

Aquariums and aquaculture, or the farming of aquatic plants and animals, are another two major contributors towards the invasive non-native species spread. Shellfish farms import juveniles to grow and breed from but these can often escape captivity or have other species attached to them. The Manila clam (Tapes philippinarum) from the Indo-Pacific region was introduced for farming in the south of England in 1989, but has since escaped! Of all mollusc farming in the world, the Manila clam makes up an astounding 25% and this is because the species can grow quickly and reproduce in great numbers. It is also very hardy and has started to spread in the south of England and is breeding with one of our own native species. To learn more about Invasive Non-Native Species (INNS) in Wales check out the Wales Biodiversity Partnership INNS pages.

A third, less well-known method of transportation of non-native species is by rafting – or attaching to floating items. Numerous bivalves (eg. mussels, cockles, oysters) have crossed the Atlantic Ocean attached to bait buckets, buoys, crates and other sturdy plastic items. They wash ashore usually after particularly violent storms and are then stranded with the rest of the marine litter.  We call these bivalves ‘rafting bivalves’. They attach to their ‘raft’ using byssus threads or cement, depending on the kind of bivalve. Byssus threads are produced by a special gland in the foot of the animal to allow the shell to anchor onto hard surfaces such as rocks. You may have seen this with mussels on our rocky shores. Oysters and other similar bivalves use a special cement to glue themselves onto hard surfaces and so they are also able to attach to the plastic rafts. I am especially interested in learning more about marine bivalve shells that attach to ocean plastics and then wash ashore on our beaches and have started to add them to our Marine Bivalve Shells of the British Isles website.

To find out more about Rafting Bivalves check out next week's blog.

Ymunodd Jen Farnell â’r Uned Adeiladau Hanesyddol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Ionawr 2020, ar leoliad gwaith gyda Rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol y Prince’s Foundation i ddysgu sgiliau saer coed traddodiadol.

Mae’r cynllun bwrsariaeth yn rhoi 8 mis o hyfforddiant mewn sgiliau traddodiadol ar gyfer crefftwyr sydd wedi cymhwyso yn eu maes, ond eisiau dysgu technegau traddodiadol.

Roedd Jen wedi cwblhau ei NVQ lefel 3 mewn gwaith saer ac wedi bwrw ei phrentisiaeth gyda Persimmon Homes yn y de-ddwyrain pan glywodd am raglen Prince’s Foundation gan ffrind oedd wedi cwblhau NVQ lefel 3 mewn Sgiliau Saer Coed Traddodiadol. Treuliodd Jen y pedwar mis cyntaf yn Dumfries House gydag 11 o fyfyrwyr eraill yn adeiladu deildy gyda tho talcen slip. Cyn hynny roedd Jen wedi gwirfoddoli yn Swaziland yn dysgu sgiliau saer coed i fenywod, a bu’n gweithio i Wild Creations a NoFit State Circus.

Yn Sain Ffagan mae Jen wedi bod yn gweithio gyda Ben Wilkins (Saer Coed Traddodiadol yr Uned Adeiladau Hanesyddol) a Tom James (Prentis yn yr Uned) ar ffenestri Tafarn y Vulcan. Yng Ngerddi’r Castell mae wedi trwsio gât yr Ardd Ferwydd gyda gan ddefnyddio technegau sgarffio traddodiadol, ac mae’n gwneud gât newydd i’r Ardd Rosod gan ailadrodd y patrwm delltwaith o’r Ardd Ferwydd.

Daw Jen o Aberystwyth yn wreiddiol, a Chymraeg yw ei mamiaith. Mae’n mwynhau ei hamser yn Sain Ffagan gyda’r Uned Adeiladau Hanesyddol: “mae’n lle gwefreiddiol i fod, cartref diwylliant Cymreig, a chael gweithio gydag offer llaw yn dysgu technegau traddodiadol”

Today is National Autusm Day, a chance to spread awareness and increase acceptance of Autism. Here at Amgueddfa Cymru National Museums of Wales, we believe passionately in making our museums and galleries accessible to everyone, and more than that to creating welcoming, comfortable spaces for all. To that end, a couple of years ago, with the support of autistic volunteers and family members, the National Waterfront Museum created a 'chill-out-room', and began offering 'quiet hours' each month. Here, Ian Smith Senior Curator of Modern & Contemporary Industry at the Waterfront Museum explains how this special space came about.

“In October 2016 we had a staff training day in ‘Autism Awareness’. It opened our eyes to how they see the world and how we can support their needs. It showed us how even the simplest of environmental changes can affect a person with autism. Things like light and sound levels, the colour of walls and floors. In fact the general layout of a space which might be deliberately made stimulating and flashy might cause many autistic people to retreat within themselves.

It was around this time that we welcomed a new volunteer at the museum. Rhys, 17, has autism. His mother contacted us and asked if he could volunteer with us to help his confidence when meeting people and in a real work environment. Rhys helps to run an object handling session, usually with another volunteer or a member of staff, and he has taken to it really well. We have all noticed that he’s become more outgoing and will now hold conversations with total strangers.

With the growing awareness of autism the Museum decided to create an Autism Champion. Our staff member Suzanne, who has an autistic son, readily agreed to take up the challenge. She now attends meetings with our sister museums where issues and solutions around autism are discussed.

During our training session we discovered that some organisations have created ‘chill-out’ rooms. These are for anyone who is feeling stressed or disturbed to go to and relax and gather themselves together. These rooms are especially useful for autistic people. We put a small group together to look at creating a safe, quiet space somewhere in the Waterfront Museum. After considering options, we decided that a little used first aid room on the ground floor offered the best place.

Rhys came into his own. He offered us a number of suggestions on how we could change the space to make it autism friendly. These included making the light levels controllable and sound proofing the room so that gentle music or relaxing sounds could be played. Suzanne too came up with a number of ideas from her own experience of looking after her son. Additionally, a local special school, Pen-y-Bryn, with whom we had an established relationship also offered us their valuable expertise.

The room we’ve created is a very soothing space and we find it gets regular use by people with a range of needs, and is clearly much appreciated as shown by the comments in the visitor’s book:

“Fantastic resource! My daughter really needed this today – thank you!”

“Lovely place to get away from the hustle and bustle for a little one.”

“Lovely idea for people on the spectrum to come for quiet.”

“Really helped my son to have some time out.”

This has been a very big learning curve for most of us, but it has been made much easier by talking to people who have direct experience of autism. Their input as part of our team has been invaluable.”

The Museum is of course, closed right now, but for those of you interested, the times for our 'quiet hours' are posted on our events pages each month. We look forward to welcoming you all back in the coming months. 

Ym mis Mehefin 2019 daeth cyfle i’r Adran Addysg yn Sain Ffagan i weithio mewn partneriaeth gydag Access Base Cantonian High School, Caerdydd. Mae’r Access Base ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 19 mlwydd oed sydd ag Awtistiaeth. Fel Hwylusydd Addysg dwi wedi ffeindio bod gweithio gyda grwpiau ag Awtistiaeth yn werth chweil, felly roedd y cyfle i raglennu gweithgareddau ar eu cyfer yn gyffrous. Roeddwn yn edrych ymlaen at ddod i nabod y grŵp wrth iddynt ymweld â’r Amgueddfa yn rheolaidd.

Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf daeth y grŵp i Sain Ffagan ar 3 ymweliad. Cyfle i ni brofi gweithgareddau gwahanol ac i ddod i nabod ein gilydd oedd y rhain. Aethom ni ar daith dywys o gwmpas y safle, buom yn gwneud potiau clai, a hefyd plannu planhigion gyda’r tîm Gerddi. Ar ôl y sesiynau profi, dyma ni’n penderfynu i’r grŵp ymweld bob pythefnos gyda phrosiect gwahanol bob tymor.

Y prosiect cyntaf i ni oedd crefftau Nadolig. Dechreuon ni trwy greu baubles a goleuadau Nadolig allan o wlân trwy ffeltio. Roedd y gweithgaredd cyffyrddol yma yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion wnaeth greu nifer o gyfuniadau lliw diddorol! Yn yr ymweliadau i ddilyn, bu’r disgyblion yn creu mwy o baubles yn ogystal â chardiau Nadolig trwy ddefnyddio inc a stampiau. Yn y sesiwn olaf cyn Nadolig, bu pawb yn addurno potiau planhigion a phlannu bylbiau cennin Pedr a chrocws i fynd adref.

Ar ôl Nadolig, y bwriad oedd i’r grŵp helpu ni i greu adnodd ar gyfer ymwelwyr gydag Awtistiaeth, i roi cyfle i’r ymwelwyr yma ddod yn gyfarwydd â’r safle cyn cyrraedd. Mae creu adnodd fel hyn yn rhywbeth dwi wedi bod eisiau neud ers sbel hir. Dyma’r grŵp yn ymweld â’r adeiladau a’r orielau yn Sain Ffagan cyn cymryd rhan mewn nifer o weithdai addysgol. Rydym wedi casglu llawer o adborth gan y grŵp fydd yn gallu cael ei ddefnyddio yn yr adnodd yn y dyfodol. Er enghraifft, mae llawer o eco yn yr Atriwm, ac mae golau yn gallu bod yn isel iawn yn rhai o’r adeiladau hanesyddol.

Yn anffodus, mae ein hamser yn gweithio gyda’n gilydd wedi dod i ben am nawr, ond mae nifer o adeiladau ar ôl i’r grŵp weld, a nifer o weithdai i gymryd rhan ynddynt. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r grŵp yn ôl i Sain Ffagan cyn gynted â phosib!

Miss Aimee Phillips – Cantonian High School - “Having a partnership with the St Fagans Learning team has given our pupils some amazing opportunities to learn outside of the classroom. Multisensory, hands on learning is vital to our pupils who are on the Autistic Spectrum. When working with the learning team, our pupils have been able to develop and refine their social skills which is a key area of learning. Some of our most memorable moments at St Fagans over the past year include, working in the Italian Garden, learning how to be a miller, the warrior workshop and most recently, watching lambs being born on the farm. As a teacher I would highly recommend the Learning team and their resources to anyone wanting a unique learning experience.”