Hafan y Blog

Tu hwnt i'r dosbarth: Addysg Hygyrch

Heulwen Thomas, 2 Ebrill 2020

Ym mis Mehefin 2019 daeth cyfle i’r Adran Addysg yn Sain Ffagan i weithio mewn partneriaeth gydag Access Base Cantonian High School, Caerdydd. Mae’r Access Base ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 19 mlwydd oed sydd ag Awtistiaeth. Fel Hwylusydd Addysg dwi wedi ffeindio bod gweithio gyda grwpiau ag Awtistiaeth yn werth chweil, felly roedd y cyfle i raglennu gweithgareddau ar eu cyfer yn gyffrous. Roeddwn yn edrych ymlaen at ddod i nabod y grŵp wrth iddynt ymweld â’r Amgueddfa yn rheolaidd.

Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf daeth y grŵp i Sain Ffagan ar 3 ymweliad. Cyfle i ni brofi gweithgareddau gwahanol ac i ddod i nabod ein gilydd oedd y rhain. Aethom ni ar daith dywys o gwmpas y safle, buom yn gwneud potiau clai, a hefyd plannu planhigion gyda’r tîm Gerddi. Ar ôl y sesiynau profi, dyma ni’n penderfynu i’r grŵp ymweld bob pythefnos gyda phrosiect gwahanol bob tymor.

Y prosiect cyntaf i ni oedd crefftau Nadolig. Dechreuon ni trwy greu baubles a goleuadau Nadolig allan o wlân trwy ffeltio. Roedd y gweithgaredd cyffyrddol yma yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion wnaeth greu nifer o gyfuniadau lliw diddorol! Yn yr ymweliadau i ddilyn, bu’r disgyblion yn creu mwy o baubles yn ogystal â chardiau Nadolig trwy ddefnyddio inc a stampiau. Yn y sesiwn olaf cyn Nadolig, bu pawb yn addurno potiau planhigion a phlannu bylbiau cennin Pedr a chrocws i fynd adref.

Ar ôl Nadolig, y bwriad oedd i’r grŵp helpu ni i greu adnodd ar gyfer ymwelwyr gydag Awtistiaeth, i roi cyfle i’r ymwelwyr yma ddod yn gyfarwydd â’r safle cyn cyrraedd. Mae creu adnodd fel hyn yn rhywbeth dwi wedi bod eisiau neud ers sbel hir. Dyma’r grŵp yn ymweld â’r adeiladau a’r orielau yn Sain Ffagan cyn cymryd rhan mewn nifer o weithdai addysgol. Rydym wedi casglu llawer o adborth gan y grŵp fydd yn gallu cael ei ddefnyddio yn yr adnodd yn y dyfodol. Er enghraifft, mae llawer o eco yn yr Atriwm, ac mae golau yn gallu bod yn isel iawn yn rhai o’r adeiladau hanesyddol.

Yn anffodus, mae ein hamser yn gweithio gyda’n gilydd wedi dod i ben am nawr, ond mae nifer o adeiladau ar ôl i’r grŵp weld, a nifer o weithdai i gymryd rhan ynddynt. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r grŵp yn ôl i Sain Ffagan cyn gynted â phosib!

Miss Aimee Phillips – Cantonian High School - “Having a partnership with the St Fagans Learning team has given our pupils some amazing opportunities to learn outside of the classroom. Multisensory, hands on learning is vital to our pupils who are on the Autistic Spectrum. When working with the learning team, our pupils have been able to develop and refine their social skills which is a key area of learning. Some of our most memorable moments at St Fagans over the past year include, working in the Italian Garden, learning how to be a miller, the warrior workshop and most recently, watching lambs being born on the farm. As a teacher I would highly recommend the Learning team and their resources to anyone wanting a unique learning experience.”

Heulwen Thomas

Hwylusydd Addysg
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.