Hafan y Blog

Dysgu Sgiliau Adeiladu Traddodiadol yn Sain Ffagan

Janet Wilding, 3 Ebrill 2020

Ymunodd Jen Farnell â’r Uned Adeiladau Hanesyddol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Ionawr 2020, ar leoliad gwaith gyda Rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol y Prince’s Foundation i ddysgu sgiliau saer coed traddodiadol.

Mae’r cynllun bwrsariaeth yn rhoi 8 mis o hyfforddiant mewn sgiliau traddodiadol ar gyfer crefftwyr sydd wedi cymhwyso yn eu maes, ond eisiau dysgu technegau traddodiadol.

Roedd Jen wedi cwblhau ei NVQ lefel 3 mewn gwaith saer ac wedi bwrw ei phrentisiaeth gyda Persimmon Homes yn y de-ddwyrain pan glywodd am raglen Prince’s Foundation gan ffrind oedd wedi cwblhau NVQ lefel 3 mewn Sgiliau Saer Coed Traddodiadol. Treuliodd Jen y pedwar mis cyntaf yn Dumfries House gydag 11 o fyfyrwyr eraill yn adeiladu deildy gyda tho talcen slip. Cyn hynny roedd Jen wedi gwirfoddoli yn Swaziland yn dysgu sgiliau saer coed i fenywod, a bu’n gweithio i Wild Creations a NoFit State Circus.

Yn Sain Ffagan mae Jen wedi bod yn gweithio gyda Ben Wilkins (Saer Coed Traddodiadol yr Uned Adeiladau Hanesyddol) a Tom James (Prentis yn yr Uned) ar ffenestri Tafarn y Vulcan. Yng Ngerddi’r Castell mae wedi trwsio gât yr Ardd Ferwydd gyda gan ddefnyddio technegau sgarffio traddodiadol, ac mae’n gwneud gât newydd i’r Ardd Rosod gan ailadrodd y patrwm delltwaith o’r Ardd Ferwydd.

Daw Jen o Aberystwyth yn wreiddiol, a Chymraeg yw ei mamiaith. Mae’n mwynhau ei hamser yn Sain Ffagan gyda’r Uned Adeiladau Hanesyddol: “mae’n lle gwefreiddiol i fod, cartref diwylliant Cymreig, a chael gweithio gydag offer llaw yn dysgu technegau traddodiadol”

Janet Wilding

Pennaeth yr Uned Adeiladau Hanesyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.