Hafan y Blog

Gwawr y Rheilffordd

Jennifer Protheroe-Jones Prif Guradur - Diwydiant, 16 Mai 2020

Cyn dyfeisio’r trên locomotif, cyflymder a nerth y ceffyl oedd pinacl trafnidiaeth ar y tir. Newidiodd trenau stêm y cysyniad o gyflymdra’n llwyr, a gallai llawer mwy o nwyddau a phobl gael eu symud ymhellach, yn gynt ac yn rhatach.

Gweddnewidiwyd sawl agwedd o fywyd pobl gyffredin gan ddyfodiad yr oes stêm. Mewn llai na chenhedlaeth, tyfodd rheilffyrdd o fod yn ddyfeisiadau hynod i fod yn rhan ganolog o fywyd.

Dechreuodd y chwyldro ym Merthyr Tudful ar 21 Chwefror 1804 gyda’r cofnod cyntaf o daith ar gledrau dan bŵer stêm. Y dynion yng ngofal y fenter oedd y peiriannydd o Gernyw Richard Trevithick a Samuel Homfray, perchennog Gweithfeydd Haearn Penydarren.

Darln o'r ffwrneisi a melinau rholio Gweithfeydd Haearn Penydarren

Ffwrneisi a melinau rholio Gweithfeydd Haearn Penydarren, gyda’r ffwrneisi chwyth i’r chwith yn y cefndir. O flaen yr adeiladau ar y dde mae ceffyl yn tynnu tri llwyth o haearn bar – dechrau’r daith i Abercynon lle byddai’n cael ei lwytho ar fad i’w gludo ar hyd Camlas Morgannwg i’r porthladd yng Ngaerdydd. Llwyth o’r fath a gludwyd yn llwyddiannus gan locomotif Trevithick. Ysgythriad gan John George Wood ar gyfer ei lyfr “The Principal Rivers of Wales”, 1812.

Roedd Trevithick wedi datblygu injan stêm gwasgedd uchel gryno, llonydd, allai gael ei hadeiladu’n rhatach ac oedd yn cynhyrchu mwy o bŵer na cynlluniau tebyg o’r un maint. Cytunodd Homfray a Trevithick ar bartneriaeth i gynhyrchu injanau stêm llonydd. Yn 1801 ac 1803 roedd Trevithick wedi adeiladu a phrofi cerbydau stêm arbrofol ar y ffordd, ond heb fagu diddordeb y cyhoedd. Roedd de Cymru ar y pryd yn frith o dramffyrdd yn gwasanaethu’r  gweithfeydd dur, y chwareli a’r pyllau glo – pob un gyda cheffylau yn tynnu cerbydau ar gledrau haearn. Gobeithiodd y byddai marchnad ehangach ar gyfer ei injanau stêm pwerus petai’n gallu profi eu gwerth ar y rheilffyrdd. Yn y gobaith o ehangu ei fusnes adeiladu injanau ei hun, cytunodd Homfray i ariannu’r gwaith o adeiladu locomotif stêm.

Llwyddodd y locomotif i dynnu pum wagen yn carrio deg tunnell o haearn, a 70 o ddynion oedd wedi bachu lle ar y wageni am y daith 9¾ milltir. Dros yr wythnosau canlynol gwnaeth y locomotif sawl taith o un pen y tramffordd i’r llall.

Cafodd y locomotif gryn dipyn o gyhoeddusrwydd yng Nghymru a thu hwnt.

Gan y byddai’r cledrau brau yn torri’n aml gan y locomotif trwm, cafodd ei throi’n injan llonydd ymhen ychydig fisoedd. Adeiladodd Trevithick ddwy injan arall yn Lloegr ym 1905 a 1908, ond methodd â chanfod cefnogaeth ariannol.

Tren Cyflym y Glowyr, Rheilffordd Saundersfoot, 1900s. Gwasanaeth sylfaenol oedd efallai yn flas o’r daith gyntaf honno ar deithiau cynnar locomotif Penydarren ym 1804, pan fachodd 70 o weithwyr ar y cyfle i fwynhau’r daith ar y pum wagen. Cyflwynwyd gwasanaeth Rheilffordd Saundersfoot ym 1900 i gludo glowyr o Cilgeti i Lofa Bonville’s Court. Bathwyd yr enw eironig gan gyhoeddwr y cerdyn post.

Er bod injanau Trevithick yn fethiant masnachol, roedd y tân wedi’i gynnau. Adeiladodd peiriannwyr yng ngogledd Lloegr – Timothy Hackworth a George Stephenson yn bennaf – gyfres o injanau locomotif dibynadwy yn y 1810au i gludo wageni glo o’r pyllau i’r dociau. Arweiniodd hyn at benderfyniad Rheilffordd Stockton & Darlington i ddefnyddio trenau stêm ar ei hagor ym 1825, a’r rheilffordd stêm hir gyntaf rhwng Lerpwl a Manceinion ym 1830.

Chwarter canrif yn ddiweddarach, nid arbrawf oedd y trên stêm ond grym dibynadwy. Ymhen rhai degawdau roedd trenau stêm i’w gweld ar reilffyrdd ym mhob cyfandir.

Yr ailgread o locomotif Penydarren yn Oriel Rhwydweithiau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.      

Gellir gweld ailgread o locomotif arloesol Penydarren gan Richard Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, lle bydd hi i’w gweld yn codi stêm o hyd ar adegau.

Efallai y bydd y ffilm yma o ddiddordeb i chi hefyd:

https://museum.wales/articles/2008-12-15/Richard-Trevithicks-steam-locomotive  

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.