Hafan y Blog

Straeon Covid: “A fyddwn yr un peth byth eto?”

Enfys, Caerfyrddin , 19 Mai 2020

Cyfraniad Enfys i broject Casglu Covid: Cymru 2020.

Rydw i’n gweithio i’r awdurdod iechyd mewn tîm iechyd meddwl. Fel arfer, mae hyn yn swydd heriol, ond nawr, hyd yn oed fwy. Mae’r tîm wedi gorfod newid practis i arsylwi pellter cymdeithasol. Mae’r swydd yn gallu bod yn anodd, trallodus a llawn straen – rydym yn dibynnu ar ein gilydd am gefnogaeth. Dros y blynyddoedd, rydym wedi creu tîm da, cryf, cefnogol.

Weithiau, ma’n anodd aros yn gryf. Rydym yn cefnogi cymaint y gallwn o’n cleifion ar y ffôn neu wrth Skype neu FaceTime, ond yn amlwg, nid yw natur ein swydd yn golygu bod hyn bob amser yn bosib. Mae cadw cysylltiad a chael acses i feddygfeydd teulu, fferyllfeydd cymunedol a gwasanaethau eraill i’n clientiaid hefyd wedi bod yn heriol ac yn wahanol… I fod yn onest, rydw i wedi cadw ‘mhen lawr a mynd o ddydd i ddydd yn gwneud fy ngorau a beth alla i.

Mae hyn yn anghredadwy! Fod y byd i gyd wedi cael ei effeithio. Pobol, economiau, diwylliant, traddodiadau a disgwyliadau. A fyddwn yr un peth byth eto? Rydw i pob amser yn credu ein bod yn datblygu, nid yn unig fel rhywogaeth ond yn unigol ac yn bersonol. Gobeitho fydd hyn mewn rhyw ffordd yn ein hysbrydoli i ddatblygu yn well, yn fwy caredig ac yn fwy tosturiol, dim yn unig yn bersonol ond tuag at ein cyd-ddyn, ein cenhedloedd a’r byd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.