Hafan y Blog

Straeon Covid: “Diolch byth am Zoom!”

Mair, Bangor, 14 Mehefin 2020

Cyfraniad Mair i broject Casglu Covid: Cymru 2020.

Dw i wedi gweld mwy o fy mab fenga sy’n byw ym Mangor, ar ei ben ei hun. Dw i wedi gweld gweld llai o fy mab a’i deulu yn Sir Fôn, a dim o fy mab canol a’I deulu sy’n byw ym Mryste. Diolch byth am Zoom!

Dw i’n deffro a gofyn i fy hun pa ddydd ydi heddiw a be nes i ddoe? Hefyd pendroni: be sy mlaen heddiw? Unrhyw pilates ar Zoom, unrhyw drefniant mynd am dro, gyrru meddyginiaethau ar ddydd Mercher o Ysbyty Gwynedd, cyfarfod efo rhywun lleol, derbyn bocs llysiau, nôl ‘click a collect’. Braidd yn ddiog weithiau! Ond lot mwy o goginio, a dipyn bach mwy o arddio.

Ar ôl tua tair wythnos ron i’n reit drist am ryw ddydd neu ddau, ond ar y cyfan wedi arfer rwan ar ôl tri mis. Teimlo’n emosiynol o gwmpas fy wyrion pan yn deud ffarwel achos yr amser yn rhy fyr a dim cyffwrdd.

Ar ôl sylweddoli fod hyn yn parhau, y teimlad trwm na wrth ddeffro a sylweddoli fod hyn yn reality, ond mi basiodd hynny ar ôl chydig wythnosau

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.