Hafan y Blog

Cyrsiau Crefft yn Amgueddfa Cymru

Bernice Parker, 24 Mehefin 2020

Mae’n bron i ddwy flynedd ers i ni agor drysau Sain Ffagan ar ei newydd wedd ym mis Hydref 2018. Yn ogystal â’r orielau newydd a’r brif fynedfa welwch chi wrth ymweld â ni, mae gennym bellach 80% yn fwy o ofodau addysg. Mae crefftau traddodiadol Cymreig bob amser wedi bod wrth wraidd Sain Ffagan, ond tan nawr, doedd gennym ni ddim lle i’ch ffitio chi gyd i mewn, rhoi ysbrydoliaeth i chi gyda’r eitemau ysblennydd yng nghasgliadau’r Amgueddfa, a gadael i chi wneud llanast enfawr ar y llawr.

Ond nawr, mae hynny i gyd wedi newid! Mae gennym ni 3 stiwdio yn y prif adeilad gyda thechnoleg grand a digon o le i symud. Maen nhw wrth ymyl ein Hystafell Astudio Casgliadau, lle gallwn estyn gwrthrychau gwerthfawr a bregus o gasgliadau’r Amgueddfa. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi weld y pethau hyn, ac yn caniatáu i ni eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yna mae Gweithdy, oriel a gweithdy crefft sy’n dathlu sgiliau gwneuthurwyr dros y blynyddoedd. Mae yno weithdy wedi’i osod gyda chyfarpar i gynnal gweithgareddau, ac offer mwy a rhagor o gyfleoedd i achosi anrhefn!

Ers 2015, rydym wedi bod yn ehangu ein rhaglen o gyrsiau crefft ymarferol. Pan oedd Sain Ffagan dal yn safle adeiladu, dechreuon ni gyda gweithgareddau nad oedd angen llefydd cyfforddus i’w cynnal. (Os ydych chi’n archebu lle ar gwrs wyna neu gwrs plygu gwrych, rhaid i chi ddisgwyl baw defaid/drain/tywydd garw!)

Wedyn, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ehangu i gynnwys pob math o bynciau newydd cyffrous:

  • Gwaith gof
  • Enamlo
  • Brodwaith peiriant gwnïo
  • Cerfio llwyau
  • Gwaith lledr
  • Plygu basgedi
  • Pobi bara
  • …a llawer mwy

Yn 2019-20 cynhaliom 80 o gyrsiau mewn 26 pwnc. A’r newyddion da yw ein bod ni wedi ehangu ein gorwelion ac rydym bellach yn cynnal sesiynau ym mhob un o’n hamgueddfeydd ar draws Cymru. Rydym wedi cynnal cyrsiau Gwaith Gof yn Big Pit a’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, Darlunio Botanegol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a Brodio Llaw yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Ers y digwyddiadau cyntaf yn 2015, mae dros 400 ohonoch chi wedi dod mewn, torchi’ch llewys a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Rhai ohonoch chi’n dysgu sgiliau newydd sbon, ac eraill yn mireinio’ch crefft. Rhai ar eich pen eich hun, ac eraill yn rhannu amser arbennig gyda’ch ffrindiau neu deulu. Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel.

Mae’r pandemig Covid-19 wedi dod â phopeth i stop am y tro. Ond, wrth edrych yn ôl yn ystod y cyfnod hwn, mae’n fwy amlwg nag erioed bod creu yn rhywbeth pwysig. Rydym yn gwybod bod crefftau’n dda i ni a’n hiechyd meddwl. Rydym yn gwybod bod dysgu sut i atgyweirio a charu’r hyn sydd eisoes gennym ni’n dda i’r blaned hefyd. Felly, byddwn ni’n ôl (pan fyddwn ni wedi datrys ambell beth) – ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi bryd hynny!

Dyma rai o’r pethau hyfryd ddywedoch chi am ein cyrsiau:

  •  …lyfli gweld y Georgetown Oven yn cael ei ddefnyddio (Cwrs pobi bara)
  • Roedd y cwrs pobi bara’n wych, gyda’r bonws ychwanegol o bobi’r bara yn ffwrn Georgetown
  • Roedd mynd i fewn i’r oriel i weld y casgliad o hen gadeiriau yn ffordd fendigedig o ddangos i ni y technegau oedd yn rhan annatod o greu stôl’ (Creu stôl bren)
  • Roedd tiwtor y cwrs yn arbennig o amyneddgar, cefnogol, medrus, caredig a doniol. Am nodweddion arbennig! (Gwaith lledr)
  • Doeddwn i byth wedi dychmygu y byddai gennym ni’r cyfle i fod mor ymarferol (Cwrs Wyna)

Bernice Parker

Swyddog Digwyddiadau Cyhoeddus

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nia Evans Staff Amgueddfa Cymru
30 Mehefin 2020, 17:42

Dear Sara Hardy,

Thank you for getting in touch with us. I'm afraid we aren't able to offer valuation on paintings which aren't in our collections. We'd advise maybe taking it to your local auction house, that may be a good starting point to get some more information on it.

Many thanks,

Nia Evans
(Digital team)

Sara Hardy
30 Mehefin 2020, 15:33
I’m redecorating presently in the family farm B&B and found a painting by Bertram Priestman RA ‘The Mill on the Marsh ‘. Having no knowledge where this may have come from or value .Would you be able to help ? Where would I take this for valuation . I have looked on line for his works and had no knowledge of his notoriety . Would like to send a photo but there are no uploading modes.
I await to hear from anyone who can throw some light on this.
Many thanks
Sara Hardy