Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd. 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd i gydnabod cyfranogiad ymroddedig gan ei wirfoddolwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gyflawni man gwyrdd o ansawdd gwych.

Gwirfoddolwyr GRAFT yn cymryd hoe o gynaeafu yng ngerddi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Yn 2018, trawsnewidiodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gwrt diwydiannol yr Amgueddfa yn amgylchedd tyfu organig hardd, cynaliadwy gan greu tirwedd bwytadwy i annog cyfranogiad a sgwrs ynghylch defnydd tir, bwyd a chynaliadwyedd mewn ffordd hygyrch a grymusol. Fe’i crëwyd gan, ac mae’n parhau i gael ei reoli gan GRAFT, maes llafur y pridd yr Amgueddfa, ac mae’n ffurfio darn parhaol o seilwaith gwyrdd yng nghanol dinas Abertawe. Mae'r prosiect hefyd yn waith celf sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol gan yr artist Owen Griffiths, ac fe'i comisiynwyd yn wreiddiol fel rhan o Now the Hero / Nawr Yr Arwr yn 2018 a ariannwyd gan 14 18NOW fel rhan o brosiect diwylliannol enfawr ledled y DU sy'n coffáu'r Rhyfel Byd cyntaf. Heddiw, mae GRAFT yn gweithio gyda grwpiau cymunedol o ystod eang o gefndiroedd ledled y ddinas, sy’n dod ynghyd, i arddio, tyfu, rhannu bwyd ac argyhoeddiad. 

Wrth siarad ar ran tîm GRAFT Amgueddfa’r Glannau, dywedodd yr Uwch Swyddog Dysgu, Cyfranogi a Dehongli, Zoe Gealy: “Mae tîm GRAFT Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn falch iawn o fod wedi derbyn y Faner Werdd hon, mae wir yn tynnu sylw at y gwaith gwych sydd wedi ei wneud gan ein gwirfoddolwyr anhygoel ers i ni ddechrau yn 2018, ac mae'n glod mor wych yn ystod y flwyddyn heriol hyn i ni i gyd. Rydym yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o dyfu a datblygu ein man gwyrdd, a byddwn yn parhau i greu cyfleoedd dysgu a gwirfoddoli yn ogystal â rhoi cynnyrch i'r elusennau gwych ledled y ddinas sy'n darparu gwasanaethau i'r rhai mewn angen”.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn un o deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasglu dan faner yr Amgueddfa Genedlaethol, sydd yn cynnig mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, mae’n nhw’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i ddatblygu fel y gallant gael eu defnyddio a’u mwynhau gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae 127 o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol ar draws y wlad wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i gael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Mae hyn yn golygu bod Cymru’n dal i feddu ar draean o safleoedd Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: "Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar stepen y drws ac o fudd i'n iechyd a'n lles. Mae llwyddiant Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn dystiolaeth o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan amgylchiadau heriol iawn.  Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad eithriadol.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru

 

Gadael sylw