Hafan y Blog

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe wedi ei enwi fel un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

Angharad Wynne, 14 Hydref 2020

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd. 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd i gydnabod cyfranogiad ymroddedig gan ei wirfoddolwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gyflawni man gwyrdd o ansawdd gwych.

Gwirfoddolwyr GRAFT yn cymryd hoe o gynaeafu yng ngerddi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Wrth siarad ar ran tîm GRAFT Amgueddfa’r Glannau, dywedodd yr Uwch Swyddog Dysgu, Cyfranogi a Dehongli, Zoe Gealy: “Mae tîm GRAFT Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn falch iawn o fod wedi derbyn y Faner Werdd hon, mae wir yn tynnu sylw at y gwaith gwych sydd wedi ei wneud gan ein gwirfoddolwyr anhygoel ers i ni ddechrau yn 2018, ac mae'n glod mor wych yn ystod y flwyddyn heriol hyn i ni i gyd. Rydym yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o dyfu a datblygu ein man gwyrdd, a byddwn yn parhau i greu cyfleoedd dysgu a gwirfoddoli yn ogystal â rhoi cynnyrch i'r elusennau gwych ledled y ddinas sy'n darparu gwasanaethau i'r rhai mewn angen”.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn un o deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasglu dan faner yr Amgueddfa Genedlaethol, sydd yn cynnig mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, mae’n nhw’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i ddatblygu fel y gallant gael eu defnyddio a’u mwynhau gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae 127 o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol ar draws y wlad wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i gael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Mae hyn yn golygu bod Cymru’n dal i feddu ar draean o safleoedd Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: "Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar stepen y drws ac o fudd i'n iechyd a'n lles. Mae llwyddiant Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn dystiolaeth o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan amgylchiadau heriol iawn.  Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad eithriadol.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru

 

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
levi Hyden
28 Rhagfyr 2021, 10:17
Very interesting info!Perfect just what I was searching for! Environmental fundraising ideas