Hafan y Blog

Amgueddfa Wlân Cymru wedi ei henwi fel un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

Angharad Wynne, 14 Hydref 2020

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd. 

Mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd i gydnabod cyfranogiad ymroddedig gan ei wirfoddolwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gyflawni man gwyrdd o ansawdd gwych.

Mae’r amgueddfa yn adrodd hanes un o ddiwydiannau mwyaf cyffredin a phwysicaf Cymru, gwlân. Ar un adeg roedd Drefach Felindre yn nyffryn hyfryd y Teifi yn ganolfan lewyrchus i’r diwydiant gwlân a oedd yn cyflenwi ffabrigau i'r byd. Tra’n rhannu hanes hynod ddiddorol y diwydiant hwn, mae'r amgueddfa hefyd yn chwarae rhan bwysig yng nghynal sgiliau traddodiadol y dywydiant, yn ogystal â hyrwyddo gwlân fel deunydd cynaliadwy ar gyfer ein dyfodol: fel ffabrig ffasiwn a nwyddau cartref a ffibr adeiladu ac inswleiddio.

Gwirfoddolwyr yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol Pixie Harcourt a Maureen Bibby.

Wrth siarad am y wobr, dywedodd Ann Whitall, Rheolwr yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol: “Rydyn ni wrth ein bodd i dderbyn y gydnabyddiaeth hon o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i gefnogi bioamrywiaeth leol ac arferion cynaliadwy. Mae gennym hanes hir o weithio'n agos gyda'n cymuned leol i sicrhau bod ein gweithgareddau'n cyfrannu'n gadarnhaol at yr economi wledig leol. Mae hynny'n cynnwys ein rôl fel atyniad twristiaeth a chanolfan addysgiadol, ond yn gynyddol mae hefyd yn golygu ein bod yn datblygu rôl i ddadeni gwlân fel ffibr y dyfodol, ac ysgogi adfywiad yn ei ddefnydd a'i werth. "

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn un o’r teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasglu dan faner yr Amgueddfa Genedlaethol, sydd yn cynnig mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, mae’n nhw’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, a fydd yn parhau i ddatblygu fel y gallant gael eu defnyddio a’u mwynhau gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae 127 o fannau gwyrdd a reolir yn gymunedol ar draws y wlad wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i gael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Mae hyn yn golygu bod Cymru’n dal i feddu ar draean o safleoedd Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU.

Cyflwynir rhaglen Gwobr yFaner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: "Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar stepen y drws ac o fudd i'n iechyd a'n lles. Mae llwyddiant Amgueddfa Wlân Cymru yn cael Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn dystiolaeth o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan amgylchiadau heriol iawn.  Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad eithriadol.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru

Rhoddwyd y wobr yma i Ardd Liwrau'r Amgueddfa. Gwirfoddolwyr Garddio Amgueddfa Wlân Cymru sy’n gyfrifol amdano. Mae'n ardd gynaliadwy fendigedig wedi'i llenwi ag amrywiaeth o blanhigion a ddefnyddiwyd yn draddodiadol ar gyfer eu lliwiau naturiol. Mae blodau, dail a gwreiddiau'n cael eu cynaeafu wrth i'r tymor fynd yn ei flaen a'u sychu neu eu rhewi'n barod i'w defnyddio fel llifyn naturiol, er enghraifft i liwio cnu, edafedd neu ffabrig sydd fel arfer yn digwydd yng ngweithdai diwedd tymor yr Hydref. Mae'r Gwirfoddolwyr Garddio yn chwarae rhan weithredol yn y gymuned, er enghraifft, maen nhw'n gweithio gyda'r eco-grŵp ysgolion cynradd lleol sy'n cynnig gwahanol weithgareddau gan gynnwys llifynnau a gweithdai garddio cynaliadwy. Gwirfoddolwyr gardd yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yw:

Jilly Doe, Jo Taylor, Steve Rees, Verrinia Rees, Pixie Harcourt, Maureen Bibby, Susan Martin, Helen Fogden.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.