Hafan y Blog

Llawn Hosan Nadolig o Hanes Sanau yng Nghymru!

Mark Lucas, 4 Rhagfyr 2020

Gan ei bod yn bryd hongian hosanau Nadolig unwaith eto, dyma ni’n fforio’n harchifau a gofyn i Mark Lucas, Curadur y Diwydiant Gwlân yn yr Amgueddfa Wlân Cymru am hanes yr hosan yma yng Nghymru. Fel mae'n digwydd, mae yna lawer i'w ddweud, ac os cewch eich ysbrydoli i roi cynnig ar wau eich hosan Nadolig eich hun, mae gennym ni batrwm hawdd iawn i'ch helpu chi i wneud hynny.

Hanes gweu hosanau yng Nghymru

Mae traddodiad hir o weu hosanau yng Nghymru, ac yn yr 18fed a’r 19eg ganrif, cyfrannodd gweu hosanau at economi ddomestig cefn gwlad Cymru. Byddai hosanau yn cael eu gweu ar yr aelwyd yn y gaeaf, a’r teulu cyfan yn helpu. Roedd y Noson Weu yn draddodiad yn y Gymru wledig, lle byddai cymdogion yn dod ynghyd i weu yn gymdeithasol, a gwrando ar hen straeon, caneuon hynafol neu gerddoriaeth ar y delyn.

Bala a Thregaron oedd y canolfannau gweu hosanau, a chynhaliwyd marchnadoedd mawr deirgwaith y mis yn y trefi hyn. Ym 1851, roedd 176 o hosanwyr yn Nhregaron a’r cylch.

Mae gwlana yn hen draddodiad Cymreig arall. Byddai grwpiau o fenywod yn dilyn porthmyn neu gerdded y ‘llwybrau gwlana’. Bydden nhw’n casglu’r darnau bach o gnu o’r caeau a’r llwyni, yn plygu, estyn a thynnu bob un darn o gnu gwerthfawr. Byddai’r menywod yn ymweld â ffermydd ar

Diorama Gwlana

hyd y ffordd gan gyfnewid llety, bwyd a newyddion lleol am waith o gwmpas y fferm. Weithiau, os oedden nhw’n lwcus, byddai’r ffermwr wedi cadw cnu i’r menywod. Roedd yr hawl i gasglu’r cnu’n werthfawr, a byddai menywod ifanc a oedd yn gweithio fel morwynion yn sicrhau eu bod yn cael bythefnos i ffwrdd ar gyfer casglu cnu bob blwyddyn. Byddai’r menywod yn dychwelyd adref gyda’i sachau trwm llawn gwlân. Bydden nhw’n ei olchi a nyddu’r edafedd er mwyn ei ddefnyddio i weu hosanau a dillad eraill.

Bachyn edafedd

Oherwydd diffyg trafnidiaeth yn y Gymru wledig, os byddai rhaid i bobl deithio bydden nhw’n cerdded, ac wrth gerdded byddai menywod yn gweu gyda bachyn edau. Mae bachyn edau ar siâp S, gydag un pen wedi’i gysylltu â gwasg eich dillad a phellen ar y pen arall, er mwyn i chi gael eich dwy law yn rhydd i weu wrth gerdded. Yn Sir Aberteifi yn yr 19eg ganrif, byddai menywod yn cario mawn o’r mynyddoedd i’w ddefnyddio fel tanwydd. Bydden nhw’n cario hyd at 27kg o fawn mewn basgedi ar eu cefnau, i gadw eu dwylo’n rhydd i weu wrth gerdded. Byddai menywod hefyd yn gweu ar eu ffordd i’r capel, ond yn stopio cyn camu i dir cysegredig.

Gwisgwyd gweiniau gweill ar ochr dde’r corff ar ongl i ddal gwaelod y waell, gan adael y llaw chwith yn rhydd i weithio’r edau ar y waell arall. Byddai’r wain yn dal pwysau’r gwlân ac atal y bachau rhag cwympo oddi ar y gweill.

Gweiniau nodwyddau gweu

Traddodiad Cymreig yw rhoi gweiniau gweill fel arwydd o gariad. Cai’r rhain eu cerfio’n gywrain gan ddynion ar gyfer eu cariadon. Fel arfer maent wedi’u cerfio o bren, ond mae enghreifftiau i’w gweld o ifori a metel.

Manylion peiriant gweu hosanau 

Yn Oes Fictoria, daeth peiriannau hosanau yn boblogaidd. Gallai’r peiriannau hyn weu hosanau’n gyflymach o lawer nac y byddai merched yn gweu â llaw.

Cynhyrchodd diwydiant hosanau gogledd Cymru 300,000 pâr o sanau i luoedd y Cynghreiriad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ym 1966 gallai Melin Dreifa yng Nghwm Morgan, dan berchnogaeth David Oliver, gynhyrchu 7 pâr o hosanau’r awr, a byddai’r peiriannau gweu trydanol yn aml yn cynhyrchu 250 pâr yr wythnos.

Esiampl o sanau Corgi

Mae’r traddodiad yn fyw hyd heddiw yn ffatri Corgi yn Rhydaman, sy’n cyfuno sgiliau traddodiadol a pheiriannau modern i gynhyrchu sanau gwlân. Maent yn adnabyddus ar draws y byd am greu sanau a hosanau moethus ac ymhlith eu cwsmeriaid y mae’r Teulu Brenhinol.

Hosanau ar ddangos yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Beth am wau hosan Nadolig eich hun?

Mae gennym ni hosanau gwau cain iawn yng nghasgliad Amgueddfa Wlân Cymru, ond os hoffech chi roi cynnig ar rywbeth symlach, mae gennym ni batrwm gwau syml iawn ar gyfer hosan Nadolig y dylech chi allu ei baratoi mewn pryd ar gyfer ymweliad Siôn Corn. Er na allwn warantu y bydd yn cael ei lenwi, mae ein siopau yn Amgueddfa Sain Fagan ac yn yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol yn Llanberis (gwelwch eu gwefannau am fanylion agor cyn cychwyn) yn cynnig gostyngiad o 10% ar eitemau i lenwi'r hosan, i unrhyw un sy'n dod â hosan Nadolig wedi'i gwau â llaw gan ddefnyddio'r patrwm hwn. Felly, ewch ati i wau!

GELLID LAWRLWYTHO'R PATRWM SYML I WEU HOSAN NADOLIG YMA

 

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Stephanie Rattray
24 Tachwedd 2021, 03:09

Is it 1966 or 1866 that Dreifa Mill was producing the stockings?