Hafan y Blog

Burton a’i lyfrau

Sioned Williams, 4 Mawrth 2021

Roedd sawl cariad gan Richard Burton yn ei fywyd ond yn llai adnabyddus oedd ei gariad gydol oes at lyfrau.

‘...my ‘first love’...is not the stage. It is a lovely book with words in it.’
Dyddiadur Richard, 20 Mawrth 1969

Dechreuodd y ‘cariad’ yma gydio yn Richie Jenkins yn ystod ei ddyddiau ysgol yn Nhai-bach, Port Talbot. Yn Ysgol Eastern, dysgodd ei athro, Meredith Jones, ef i werthfawrogi harddwch geiriau ac iaith, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Pan oedd yn ddeuddeg oed, dechreuodd Richard gasglu llyfrau gan brynu argraffiadau poced ‘Everyman Library’ o rai o’r clasuron. Nododd Richard yn ei ddyddiadur flynyddoedd yn ddiweddarach bod ganddo tua 300 ohonynt erbyn iddo gyrraedd ei ugeiniau ac roedd yn uchelgais ers ei blentyndod i fod yn berchen ar y casgliad cyfan.

Hyd yn oed yn ei arddegau, roedd gan Richard awch at lyfrau a gofnododd yn ei dyddiadur ym 1939-40, pan yn bedwar ar ddeg oed. Mae’n cyfeirio at ‘aros i mewn’ i ddarllen llyfr a tro arall honnodd ei fod yn darllen hyd at dri llyfr mewn dau ddiwrnod. Byddai’n ymweld yn rheolaidd â llyfrgell y dref ar Heol Commercial, Tai-bach - dyma oedd ei ‘hoff encil’ yn ôl ei frawd. Ymhlith y llyfrau a ddarllenodd yn ei arddegau oedd gweithiau gan Dickens a Shakespeare. Ond o 1942 ymlaen, o dan ddylanwad ei athro Saesneg a’i fentor, Philip Burton, y daeth llyfrau, ac yn arbennig Shakespeare yn rhan hollbwysig o fywyd Richard.

‘No other writer hit me with quite the same impact as William S. What a stupendous God he was, he is.’
Dyddiadur Richard, 14 Gorffennaf 1970

Llenor arall a gafodd gryn ddylanwad ar Richard oedd Dylan Thomas. Roedd Richard wedi edmygu ei waith ers yn ifanc ac wedi iddo chwarae rhan y ‘Llais Cyntaf’ yn Under Milk Wood ym 1954, daeth ei lais yn gysylltiedig â gwaith y bardd. Roedd dylanwad Thomas hefyd yn amlwg ar yr ychydig gerddi a gyfansoddodd Richard ac yn arbennig ei lyfr am ei atgofion plentyndod, A Christmas Story a gyhoeddwyd ym 1964.

Rhwng 1965-72, tra roedd Richard ar binacl ei yrfa ffilm, ysgrifennodd gyfres o ddyddiaduron sy’n datgelu tipyn amdano fel darllenwr brwd. Mae’r cofnod cyntaf yn nyddiadur 1965 yn cyfeirio ato’n darllen Encyclopaedia Britannica gyda’i wraig, Elizabeth Taylor. Roedd yn derbyn llyfrau fel anrhegion gan deulu a ffrindiau oedd yn gwybod yn union sut i’w blesio. Ar ei ben-blwydd yn 46, prynodd Elizabeth gopi o The Complete Oxford Dictionary mewn microprint gyda chwyddwydr iddo:

‘To a bibliomaniac it is a thrilling present.’
Dyddiadur Richard, 11 Tachwedd 1971

Tro arall, prynodd Elizabeth y casgliad cyfan o’r llyfrau poced ‘Everyman Library’ i Richard, wedi’i rwymo mewn lledr lliwgar. Ym mis Medi 1969 daeth y cyfle i Richard eu dadbacio yn ei lyfrgell yn Chalet Arial, Gstaad:

‘It is a fantastic reference library with the index in my head. I shall browse in that place for the rest of my life.’
Dyddiadur Richard, 29 Medi 1969

Blynyddoedd yn ddiweddarach, pan roedd Richard yn briod â Susan Hunt, cafodd ‘anrheg achub-bywyd’ ganddi i ddathlu eu pen-blwydd priodas – silffoedd llyfrau symudol wedi eu peintio’n goch, ei hoff liw:

‘...immensely durably strong which, at a rough calculation will hold a hundred or so really thick tomes and I suppose twice that number of paperbacks...I can’t stop musing at it.’
Dyddiadur Richard, 22 Awst 1980

Nid oes syndod fod Richard angen lle i storio ei lyfrau gan ei fod yn darllen cymaint ag ar raddfa aruthrol. Pan roedd ganddo amser, byddai’n darllen sawl llyfr mewn diwrnod a tra roedd yn gweithio, roedd yn edrych ymlaen at y cyfle nesaf i brynu mwy o lyfrau.

‘[...] I am reading anything and everything. Most days I read at least 3 books and one day recently I read 5!’
Dyddiadur Richard, 24 Ebrill 1969

‘I can’t wait for my next day off to augment my library.’
Dyddiadur Richard, 5 Tachwedd 1971

Roedd gan Richard lyfrgelloedd ym mhob un o’i gartrefi ar draws y byd yn y Swistir, Mecsico, ac ar ei gwch pleser, Kalizma. Wrth deithio’r byd, byddai’n cario casgliad o lyfrau yn ei fag pwrpasol, fel llyfrgell symudol. Ynghyd â chloriau meddal, roedd y bag hwn wastad yn cynnwys gweithiau cyflawn Shakespeare, Oxford Book of English Verse a geiriaduron, yn ddibynol ar ba iaith roedd yn ei ddysgu ar y pryd. Mae’n debyg yr oedd yn cadw copi o In Parenthesis gan David Jones wrth ei wely o hyd. Cofiodd ei ferch, Kate Burton, un achlysur pan gollodd y llyfr a tra roedd yn chwilio amdano yn ei lyfrgell yn Céligny, y Swistir, cwympodd y copi allan o’r silff lyfrau y tu ôl iddo!

Er mai canran fechan o lyfrgell gwreiddiol Richard sy’n cael ei harddangos yn Bywyd Richard Burton, mae’n datgelu ystod eang ei ddarllen. Ei brif ddiddordeb oedd llenyddiaeth ond roedd hefyd yn mwynhau darllen cofiannau, llyfrau hanes a gwleidyddiaeth a nofelau ditectif. Mae nifer o’i lyfrau yn cynnwys nodyn gan y rhoddwr - teulu, ffrindiau a llenorion a oedd yn gwybod y byddai pob llyfr yn cael ei werthfawrogi a’i drysori gan Richard yn ei lyfrgell, ei hoff encil, yn ei eiriau ef: ‘the best cell ever for a literary man’.

Llyfrgell Richard Burton yn Le Pays de Galles, Céligny, y Swistir

Llyfrgell Richard Burton yn Le Pays de Galles, Céligny, y Swistir
© Archif Richard Burton

Sioned Williams

Prif Guradur: Hanes Modern

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Gareth Sykes
2 Hydref 2021, 17:17
Thank you for this blog entry on Richard Burton and his books. I saw the Becoming Richard Burton exhibition today, it was wonderful. Thank you to all those who took part in making this exhibition happen, much appreciated.

Kind regards

Gareth Sykes