Hafan y Blog

Sied Dynion yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Sharon Ford, 14 Mehefin 2020

Dechreuodd y Sied Dynion yn Awstralia 12 mlynedd yn ôl, lle cafodd ei datblygu gan y bwrdd iechyd i daclo problem unigedd ymysg dynion y wlad. Roeddent wedi sylwi bod gan nifer uchel o ddynion ormod o amser ar eu dwylo (o ganlyniad i ymddeoliad, diweithdra, salwch ac ati) a bod hyn yn arwain at ddiflastod, dynion yn dioddef yn dawel o broblemau iechyd meddwl ac, yn yr achosion gwaethaf, hunanladdiad. Mae mudiad y Sied Dynion yn seiliedig ar y dybiaeth fod dynion yn fwy tebygol o fynychu rhywbeth y maen nhw wedi helpu i’w sefydlu, neu y mae ganddyn nhw reolaeth drosto.

Mae Men’s Sheds Cymru, gaiff ei ariannu gan y Loteri Fawr, wedi’i greu er mwyn helpu cymunedau ledled Cymru i sefydlu Siediau Dynion.

Cafodd Sied Lo Big Pit ei lansio ym mis Mai 2019 – y Sied Dynion gyntaf yn Nhorfaen. Mae’r grŵp wedi dod â hen adeilad hanesyddol yn ôl yn fyw – hwn oedd hen weithdy hogi’r pwll glo, lle câi ceibiau’r glowyr eu trwsio. Mae gweithgarwch pob sied yn dibynnu’n llwyr ar sgiliau a diddordebau ei aelodau.

Caiff y Sied Lo ei chefnogi gan Gyngor Tref Blaenafon ac mae wedi derbyn arian gan Western Power Distribution a’r People’s Postcode Lottery. Am fwy o wybodaeth am y Sied Lo, cysylltwch â Sharon Ford. Am fwy o wybodaeth am Siediau Dynion, ewch i www.mensshedscymru.co.uk

 

Sharon Ford

Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (Big Pit)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.