Hafan y Blog

Beth yw eich atgofion o’r BBC?

Fflur Morse, 3 Mawrth 2021

Dechreuodd y BBC ddarlledu yng Nghymru ar 13 Chwefror 1923, gyda’r darllediad radio cyhoeddus cyntaf yn dod o Gaerdydd. Mae Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â BBC Cymru yn cynllunio arddangosfa i ddangos sut y bu’r BBC yn ‘rhannu, addysgu a darparu adloniant’ i bobl Cymru dros y 100 mlynedd ddiwethaf.

Byddwn yn plymio i archif helaeth y BBC ac yn pori drwy ein storfeydd yn Amgueddfa Cymru i gael gafael ar ddelweddau, clipiau ffilm a gwrthrychau, ond mae angen mwy arnom.

Rydym yn awyddus i glywed eich straeon a’ch atgofion CHI. Pa eiliadau yn hanes y BBC sydd wedi aros gyda chi a pham? Pa sianeli neu orsafoedd radio ydych chi wedi eu mwynhau fwyaf? Beth yw eich atgofion o deledu a radio’r BBC dros y Nadolig?

Ynghyd â’ch straeon, hoffem glywed os oes gennych unrhyw gofroddau o’r BBC; teganau o’ch hoff raglenni teledu, sticeri, bathodynnau, posteri, crysau-T.

Cysylltwch a ni dros ebost - casglu@amgueddfacymru.ac.uk

Fflur Morse

Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol
Gweld Proffil

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
19 Mai 2021, 16:04

Dear Hugh Jones,

Thank you for your comment. I'm very pleased to say that as of today all seven of our Museums are once again open to the public. For details on planning a visit, please see the individual Plan Your Visit pages at https://museumwales.ac.uk/. We look forward to welcoming you through our doors in the near future.

Best wishes,

Marc
Digital Team

Hugh Jones
13 Ebrill 2021, 01:10
Do you have any idea when the museum will be opening? I miss it.